Cyn i chi gychwyn arni

I gael profiad gwych yn Blackboard Learn gyda JAWS®, mae angen i chi wybod rhai pethau.

Gosod Modd Ffurflenni Awtomatig i'r Modd â Llaw

Pan mae modd ffurflenni awtomatig wedi'i osod yn ddiofyn, sef yn "Awtomatig", bydd gosod saeth dros faes golygu, blwch cyfuniad neu reoliad arall yn ei ffocysu'n awtomatig ac yn troi modd ffurflenni ymlaen. Gan fod tudalennau Blackboard yn llawn cynnwys, yn aml mae angen adolygu cynnwys tudalen fesul llinell. Am y rheswm hwn, gosodwch y Modd Ffurflenni Awtomatig i'r Modd â Llaw.

  1. Agorwch eich porwr a llwythwch Blackboard Learn.
  2. Pwyswch Insert + V i agor y deialog Gosodiadau Sydyn.
  3. Teipiwch Modd Ffurflenni Awtomatig yn y maes chwilio a phwyswch Tab i ffocysu'r rhestr o ganlyniadau. Dylai Modd Ffurflenni Awtomatig ymddangos fel y canlyniad cyntaf. Caiff hwn ei osod yn awtomatig yn ddiofyn.
  4. Pwyswch y Bylchwr tan fod JAWS yn cyhoeddi ei bod wedi ei osod i'r Modd â Llaw.
  5. Pwyswch Enter ddwywaith i roi'r newidiadau ar waith a chau'r deialog.

Dechreuwch JAWS cyn lansio eich porwr

Mae rhaid lansio JAWS cyn agor y porwr. Os nad ydych yn gwneud hynny, efallai byddwch yn cael y problemau hyn.

  • Gwallau wrth wasgu'r bysell frys i ddolenni rhestri (Insert + 7), meysydd ffurflenni (Insert + F5), penawdau (Insert + F6) ac ati
  • Ni allwch ddefnyddio'r saethau i fyny ac i lawr i fynd trwy gynnwys gyda chyrchwr rhithwir y cyfrifiadur

I drwsio hyn, caewch bob ffenestr y porwr ac ail-agorwch Blackboard Learn. Dylai JAWS gymryd cynnwys y dudalen a dylai'r rhestri o elfennau weithio fel arfer.


Neidio'n sydyn i gynnwys

Mae pob tudalen Blackboard Learn gyda'r profiad Gwreiddiol yn llawn opsiynau personoli. Bydd yr opsiynau hyn yn eich caniatáu i ychwanegu neu dynnu eitemau o unrhyw un o'r amryw adrannau sy'n rhagflaenu cynnwys y dudalen ei hun. Gellir anwybyddu nifer o'r rhain.

Gellir dod o hyd i brif gynnwys y dudalen bron bob tro trwy bwyso Control + Home i neidio i dop cynnwys y dudalen, cyn pwyso bysell 1 ar y rhes uchaf o rifau ddwywaith. Y tro cyntaf i chi ddod ar draws pennawd yn nodi'r Ddewislen Dolenni Cyflym, a'r ail dro byddwch yn gweld y pennawd yn nodi dechrau cynnwys y dudalen.

Eithriad penodol i hyn yw Dewislen y Cwrs. Mae'n ymddangos uwchben cynnwys y dudalen ar gyfer cwrs. Gallwch ddod o hyd i ddolenni a'u galluogi yn uniongyrchol o'r ddewislen hon. Gallwch hefyd ddod o hyd i'w holl opsiynau o dan bennawd lefel 2 Dewislen y Cwrs.


Canfod penawdau, dolenni a rheoliadau ffurflenni

Os nad ydych yn gyfarwydd gyda gorchmynion llywio HTML JAWS, argymhellwn eich bod yn darllen y dogfennau perthnasol yn adran gymorth JAWS.

Y gorchmynion hyn fydd mwyaf defnyddiol wrth i chi ddefnyddio Blackboard Learn:

  • Pwyswch fysell H a Shift + H i symud rhwng y penawdau ar dudalen.
  • Pwyswch Insert + F7 er mwyn i JAWS restru dolenni.
  • Pwyswch Insert + F5 ar gyfer rheoliadau ffurflenni.
  • Pwyswch Insert + F6 i weld rhestr o benawdau. Dechreuwch deipio enw pennawd i ddod o hyd iddo yn sydyn o fewn y rhestr.

    Enghraifft: Teipiwch "Fy nghwrs" i ddod o hyd i bennawd Fy Nghyrsiau a phwyswch Enter i fynd iddo.

  • Pwyswch CTRL + F i ddod o hyd i destun ar dudalen yn sydyn. Teipiwch destun megis "Fy Nghwrs" yn neialog Chwilio JAWS sy'n ymddangos a phwyswch Enter. Bydd JAWS yn chwilio am ddigwyddiad nesaf y testun hwnnw ac yn neidio iddo.

Darganfod beth gallwch ei wneud ar dudalen

Defnyddiwch fysell Tab a bysellau Shift + Tab i symud rhwng dolenni, rheoliadau ffurflenni a chynnwys eraill ar dudalen y gellir gweithredu arno. Mae Blackboard Learn wedi rhoi testun cyfarwyddiadol ni ellir gweithredu arno yn nhrefn y Tabiau. Os byddwch yn pwyso Tab ac yn cyrraedd eitem sy'n dechrau gyda geiriau sy'n gyfarwyddiadol eu natur, cyfarwyddiadau yw'r rhai hyn ac ni allwch weithredu arnynt.

Enghraifft: Pwyswch 'Cyflwyno' i greu'r prawf

Parhewch i bwyso Tab i ddod o hyd i'r rheoliad rydych yn edrych am.

Os byddwch yn clywed rôl elfen ar ôl tabio iddi (dolen, botwm, blwch ticio, golygu, Blwch Cyfuniad, ac ati), yna gallwch ryngweithio gyda'r elfen honno yn yr un modd ag y byddech yn gwneud gydag unrhyw raglen arall.


Analluogi'r Modd Ffurflenni

Mae JAWS yn galluogi'r Modd Ffurflenni pan mae'n credu bydd angen i chi nodi testun, adolygu testun neu drin rheoliad. Byddwch yn clywed bib uchel yn cyhoeddi bod y Modd Ffurflenni wedi'i galluogi.


Mewngofnodwch

  1. Gwiriwch fod tab Blackboard Learn ar agor.
  2. Llywiwch i'r dudalen i ganfod y nodweddion canlynol:
    • Pennawd gyda logo
    • Maes golygu Enw defnyddiwr
    • Maes golygu Cyfrinair
    • Botwm Mewngofnodi
    • Dolen Wedi anghofio’ch cyfrinair? sy’n agor ffenestr porwr newydd
    • Dolen Creu Cyfrif sy’n agor yn yr un tab
    • Cyhoeddiadau (os yn gymwys)
    • Dolen Gweld y Catalog Cyrsiau sy’n agor yn yr un tab
    • Dolen Help sy’n agor tab newydd
    • Dolen Preifatrwydd a Thelerau Defnyddio sy’n agor ffenestr deialog
  3. Llywiwch i faes golygu Enw defnyddiwr.
  4. Rhowch enw defnyddiwr.
  5. Llywiwch i faes golygu Cyfrinair.
  6. Rhowch gyfrinair.
  7. Pwyswch Enter i fewngofnodi.
  8. Gwiriwch fod y dudalen Ffrwd Gweithgarwch ar gael.

Neges Gwall Mewngofnodi

Os ydych yn rhoi enw defnyddiwr neu gyfrinair anghywir, rhoddir ffocws ar neges gwall gyda’r testun “Mae’r enw defnyddiwr neu gyfrinair a nodoch chi yn anghywir. Rhowch gynnig arni eto. Os ydych chi dal yn methu mewngofnodi, cysylltwch â gweinyddwr eich system.” Llywiwch i faes golygu Enw defnyddiwr i roi cynnig arni eto.

Preifatrwydd, cwcis a thelerau defnyddio

I gau'r ffenestr deialog, gallwch wneud un o'r canlynol:

  • Pwyswch Esc
  • Llywiwch i fotwm Iawn. Defnyddiwch y bylchwr neu cliciwch ar y botwm Iawn.

Cymorth gyda’r dudalen bresennol

Os oes angen cymorth arnoch gyda’r dudalen sydd gennych ar agor ar unrhyw adeg, mae eicon dolen Help gyda’r dudalen bresennol ar gael yng nghornel de isaf y dudalen.

Pan fydd wedi’i alluogi, bydd tab porwr newydd yn agor gydag enw'r dudalen. Er enghraifft, Ffrwd Gweithgarwch, wedi’i dilyn gan Blackboard Help.


Llywio sylfaenol

Ar ôl i’r rhaglen agor, mae gennych y nodweddion canlynol ar gael o'r ddewislen llywio a leolir ar ochr chwith y dudalen:

  • Dolen [enw eich sefydliad] (Tudalen y Sefydliad)
  • Dolen [eich enw] (Proffil)
  • Dolen Ffrwd Gweithgarwch (nid yw’r dudalen ar gael pan agorwch y rhaglen am y tro cyntaf)
  • Dolen Cyrsiau
  • Dolen Mudiadau
  • Dolen Calendr
  • Dolen Negeseuon
  • Dolen Graddau
  • Dolen Offer
  • Dolen Allgofnodi

Tudalen y Sefydliad

Mae cynnwys Tudalen y Sefydliad yn amrywio. Yn gyffredinol, mae adrannau yn dechrau gyda phennawd lefel 3.

Mae gan rôl y Gweinyddwr freintiau ychwanegol.

  1. Llywiwch i [enw eich sefydliad]
  2. Rhowch neu cliciwch ar [enw eich sefydliad] i agor tudalen [enw eich sefydliad]
  3. Llywiwch i'r dudalen i ganfod cyhoeddiadau a gwybodaeth eraill sy’n benodol i'ch sefydliad

Proffil

  1. Llywiwch i ddolen [eich enw].
  2. Rhowch neu cliciwch ar [eich enw] i agor y dudalen Proffil
  3. Unwaith bod y dudalen ar agor, bydd y wybodaeth ganlynol ar gael i chi:
    • Newid llun proffil
    • Gwybodaeth Sylfaenol
      • Enw llawn
      • Cyfeiriad e-bost
      • ID Myfyriwr
      • Cyfrinair
    • Gwybodaeth Ychwanegol
      • Rhyw
      • Enw Arall/Llysenw
      • Dyddiad geni
      • Lefel Addysg
      • Gwefan
    • Manylion Cyswllt
      • Cyfeiriad Post
      • Rhif Ffôn
      • Rhif Ffacs Busnes
    • Manylion Swydd
      • Cwmni
      • Teitl y Swydd
      • Adran
    • Gosodiadau System
      • Iaith
      • Gosodiadau Preifatrwydd
      • Gosodiadau Hysbysiadau Cyffredinol
    • I newid eich gwybodaeth bersonol, rhowch neu cliciwch ar ddolen yn Gwybodaeth Ychwanegol, Manylion Cyswllt, neu Manylion Swydd.

Ffrwd Gweithgarwch

Pan fyddwch yn agor Learn Ultra am y tro cyntaf, byddwch yn cyrraedd tudalen y Ffrwd Gweithgarwch. Pan fyddwch yn llywio i'r dudalen, bydd cynnwys yn llwytho yn awtomatig. Mae gan bob rôl nodweddion ychydig yn wahanol, fodd bynnag, mae'r nodweddion canlynol yn tueddu i fod ar gael yn gyffredinol:

  1. Adrannau a rennir yn I ddod, Heddiw, a Diweddar sy’n defnyddio penawdau lefel 2
  2. Mae cynnwys ym mhob adran mewn rhestr gyda'r mathau canlynol o wybodaeth
    • Enw'r Cwrs
    • Unrhyw brofion, aseiniadau ac ati sy'n ddyledus
    • Dyddiadau Cyflwyno
    • Eitemau newydd sydd wedi’u hychwanegu neu’u diweddaru
    • Gweithredoedd sydd angen eu gwneud
  3. Botwm hidlo wedi’i osod yn ddiofyn i Dangos Popeth
  4. Dolen Gosodiadau Hysbysiadau

Ffrwd Gweithgarwch - Hidlo

  1. Llywiwch i’r botwm Hidlo
  2. Defnyddiwch y bylchwr neu cliciwch ar fotwm naid Hidlo i agor y ddewislen
  3. Llywiwch a defnyddiwch y bylchwr neu cliciwch i ddewis un o'r hidlyddion canlynol
    1. Aseiniadau a Phrofion
    2. Graddau ac Adborth
  4. Diweddarir tudalen y Ffrwd Gweithgarwch i ddangos cynnwys sydd wedi’i hidlo yn unig

Gosodiadau Hysbysiad

  1. Llywiwch i ddolen Gosodiadau Hysbysiadau
  2. Rhowch neu cliciwch ar ddolen Gosodiadau Hysbysiadau i agor y panel Gosodiadau Hysbysiadau
  3. Gallwch wedyn lywio rhwng y tabiau canlynol:
    • Gosodiadau Hysbysiadau Ffrwd
    • Gosodiadau Hysbysiadau E-bost
    • Gosodiadau Hysbysiadau Gwthio
  4. Mae gan bob tab nodweddion unigryw sy’n seiliedig ar eich rôl.

Gosodiadau Hysbysiadau – Cau

  1. I gau panel Gosodiadau Hysbysiadau, llywiwch i'r botwm Cau.
  2. Defnyddiwch y bylchwr neu cliciwch ar y botwm Cau.
  3. Bydd ffocws yn dychwelyd i dudalen y Ffrwd Gweithgarwch

Gosodiadau Hysbysiadau – Canslo

  1. I ganslo unrhyw newidiadau a gwnaethoch ym mhanel Gosodiadau Hysbysiadau, llywiwch i'r botwm Canslo.
  2. Defnyddiwch y bylchwr neu cliciwch ar y botwm Canslo.
  3. Bydd ffocws yn dychwelyd i dudalen y Ffrwd Gweithgarwch

Gosodiadau Hysbysiadau - Cadw

  1. I gadw unrhyw newidiadau a gwnaethoch ym mhanel Gosodiadau Hysbysiadau, llywiwch i'r botwm Cadw.
  2. Defnyddiwch y bylchwr neu cliciwch ar y botwm Cadw.
  3. Bydd ffocws yn dychwelyd i dudalen y Ffrwd Gweithgarwch.

Cyrsiau

Mae'r cyrsiau a rhestrir ar y dudalen hon yn unigryw i chi. Os ydych yn fyfyriwr, gweithiwch gyda’ch hyfforddwr i wirio dan ba enw mae’ch cwrs wedi’i rhestru. Os ydych yn hyfforddwr ac mae rhywun yn creu'ch tudalen cyrsiau ar eich rhan, gweithiwch gyda’r unigolyn hwnnw i wirio dan ba enw mae’ch cwrs wedi’i rhestri.

Pan fyddwch yn llywio i'r dudalen, bydd cynnwys yn llwytho yn awtomatig.

  1. O'r ddewislen llywio ar ochr chwith y dudalen, llywiwch i'r ddolen Cyrsiau.
  2. Rhowch neu cliciwch ar y ddolen Cyrsiau i agor y dudalen Cyrsiau.
  3. Felly, bydd gan y dudalen Cyrsiau y nodweddion safonol canlynol:
    • Dolen Agor y Catalog Cyrsiau
    • Botwm [eitem flaenorol]
    • Botwm naid Cyrsiau presennol
    • Botwm Cyrsiau i Ddod
    • Botwm radio Gweld Rhestr Cyrsiau
    • Botwm radio Gweld Grid Cyrsiau
    • Maes golygu Chwilio yn eich cyrsiau
    • Botwm naid hidlo cwrs
    • Botwm naid eitemau fesul tudalen
    • Dolen enw cwrs
    • Botwm Rhagor o wybodaeth/Gwybodaeth am y Cwrs (yn dibynnu ar y wedd)
    • Botwm toglo Ffefrynnau
    • Botwm naid Rhagor o opsiynau [enw cwrs] (Ar gyfer rolau Gweinyddwyr a Hyfforddwyr yn unig)

Cynnwys y Cwrs

Mae dwy ffordd i gael cynnwys y cwrs, o'r Ffrwd Gweithgarwch neu o Cyrsiau.

Bydd y cynnwys yng nghynnwys y cwrs yn unigryw i'r cwrs. Os ydych yn fyfyriwr, gweithiwch gyda’ch hyfforddwr i wirio’r enwau ar gyfer aseiniadau, ffolderi, modiwlau dysgu, ac ati. Os ydych yn hyfforddwr sy’n gweithio gyda rhywun arall i uwchlwytho cynnwys i’ch cwrs, gwiriwch enwau'r aseiniadau, ffolderi, modiwlau dysgu, ac ati.

Bydd cynnwys yn llwytho yn awtomatig ar y dudalen wrth lywio.

  1. Ar ôl agor tudalen Cynnwys y Cwrs, mae’r nodweddion sylfaenol canlynol ar gael ar gyfer pob rôl:
    • Dolen Cynnwys
    • Dolen Calendr
    • Dolen Trafodaeth
    • Dolen Llyfr graddau
    • Dolen Negeseuon
    • Pennawd Manylion a Gweithrediadau
      • Pennawd Rhestr 
        • Dolen Gweld pawb sydd ar eich cwrs 
      • Pennawd Blackboard Collaborate (os yw’r cynnyrch ar gael): 
        • Botwm naid Rhagor o opsiynau ar gyfer Collaborate
        • Botwm naid Ymuno â'r Sesiwn
      • Pennawd Presenoldeb
        • Dolen Gweld eich presenoldeb
      • Pennawd Cyhoeddiadau
        • Dolen Gweld yr archif
      • Pennawd Llyfrau ac Offer
        • Gweld offer cwrs a sefydliad
    • Pennawd Cynnwys y Cwrs

Cynnwys y Cwrs - o’r Ffrwd Gweithgarwch

  1. Ar y Ffrwd Gweithgarwch, llywiwch i ddolen [enw cwrs].
  2. Rhowch neu cliciwch ar [enw cwrs].
  3. Bydd tudalen Cynnwys y Cwrs yn agor. 

Cynnwys y Cwrs – o Cyrsiau

  1. Ar dudalen Cynnwys y Cwrs yn naill ai gwedd rhestr neu rid, llywiwch i ddolen [enw cwrs].
  2. Rhowch neu cliciwch ar [enw cwrs].
  3. Bydd tudalen Cynnwys y Cwrs yn agor.

Trafodaeth

Mae’r atebion ac ymatebion yn wahanol ar gyfer pob trafodaeth. Bydd cynnwys yn llwytho yn awtomatig ar y dudalen wrth lywio.

Ar dudalen y drafodaeth, bydd y nodweddion canlynol ar gael:

  • Pennawd Pwnc Trafod
  • Testun Pwnc Trafod
  • Ymatebion
  • Dolenni Ateb
  • Dolenni Dangos Ymatebion (#)
  • Pennawd Manylion a Gwybodaeth
  • Pennawd Cyfranogwyr (#)
  • Maes golygu Canfod cyfranogwyr
  • Rhestr o gyfranogwyr gyda'r nifer o (#) Atebion ac (#) Ymatebion
  • Dolen +(#) yn rhagor

Trafodaeth – o'r Ffrwd Gweithgarwch

  1. Llywiwch i ddolen y drafodaeth [enw].
  2. Rhowch neu cliciwch ar ddolen [enw].
  3. Bydd y dudalen Trafodaeth yn agor. 

Trafodaeth – o Cynnwys y Cwrs

  1. Llywiwch i ddolen y drafodaeth [enw].
  2. Rhowch neu cliciwch ar ddolen [enw].
  3. Bydd y dudalen Trafodaeth yn agor. 

Trafodaeth – o'r Llyfr graddau

  1. Llywiwch i ddolen y drafodaeth [enw].
  2. Rhowch neu cliciwch ar ddolen [enw].
  3. Bydd y dudalen Trafodaeth yn agor.

Mudiadau

  1. Llywiwch i'r ddolen Mudiadau yn y ddewislen llywio ar ochr chwith y sgrin.
  2. Rhowch neu cliciwch ar ddolen Mudiadau.
  3. Bydd y dudalen Mudiadau yn agor gyda’r nodweddion canlynol:
    • Botwm naid Mudiadau Presennol
    • Botwm Mudiadau i Ddod
    • Botwm radio Gweld Rhestr Mudiadau
    • Botwm radio Gweld Grid Mudiadau
    • Maes golygu Chwilio yn eich Mudiadau
    • Botwm naid hidlo Mudiadau
    • Botwm naid eitemau fesul tudalen
    • Dolen enw mudiadau
    • Botwm Rhagor o wybodaeth/Gwybodaeth am y Mudiad (yn dibynnu ar y wedd)
    • Botwm toglo Ffefrynnau
    • Botwm naid Rhagor o opsiynau [enw mudiad] (Ar gyfer rolau Gweinyddwyr a Hyfforddwyr yn unig)

Calendr

Gellir agor y calendr hwn o’r ddewislen llywio ar y chwith ac o’r ddewislen llywio ar frig yn sgrin ar y tudalennau canlynol:

  • Cynnwys y Cwrs
  • Calendr
  • Llyfr Graddau
  • Negeseuon

Pan fydd y Calendr ar agor, bydd y nodweddion canlynol ar gael ar gyfer pob rôl:

  • Botwm Digwyddiad Newydd
  • Dolen Gosodiadau Calendr
  • Botwm Amserlen (diofyn)
  • Botwm Dyddiadau Cyflwyno
  • Botwm Diwrnod (ar ddyddiad heddiw yn ddiofyn)
  • Botwm Mis
  • Botwm Heddiw (ni fydd ar gael os ydych ar ddyddiad heddiw)
  • Botwm Wythnos flaenorol
  • Dolen Dyddiad y golwg cyfredol yw [diwrnod o'r wythnos, diwrnod o'r mis, blwyddyn, agor golwg fis] a ddangosir fel [Mis Blwyddyn], Er enghraifft, Gor 2019.
  • Botwm Gweld digwyddiadau ar gyfer Dydd Sul, [diwrnod o'r mis, blwyddyn], a ddangosir fel rhif
  • Botwm Gweld digwyddiadau ar gyfer Dydd Llun, [diwrnod o'r mis, blwyddyn], a ddangosir fel rhif
  • Botwm Gweld digwyddiadau ar gyfer Dydd Mawrth, [diwrnod o'r mis, blwyddyn], a ddangosir fel rhif
  • Botwm Gweld digwyddiadau ar gyfer Dydd Mercher, [diwrnod o'r mis, blwyddyn], a ddangosir fel rhif
  • Botwm Gweld digwyddiadau ar gyfer Dydd Iau, [diwrnod o'r mis, blwyddyn], a ddangosir fel rhif
  • Botwm Gweld digwyddiadau ar gyfer dydd Gwener, [diwrnod o'r mis, blwyddyn], a ddangosir fel rhif
  • Botwm Gweld digwyddiadau ar gyfer Dydd Sadwrn, [diwrnod o'r mis, blwyddyn], a ddangosir fel rhif
  • Botwm Wythnos Nesaf
  • Tabl – Golygon Diwrnod a Mis
  • Dolenni Digwyddiad

Calendr – o'r ddewislen llywio ar y chwith

  1. Llywiwch i'r ddolen Calendr yn y ddewislen llywio ar ochr chwith y sgrin.
  2. Rhowch neu cliciwch ar ddolen Calendr.
  3. Bydd y dudalen Calendr yn agor. 

Calendr – o Dewislen y Cwrs

Nid yw'r botwm Digwyddiad Newydd na’r ddolen Gosodiadau Calendr ar gael wrth agor y Calendr o Dewislen y Cwrs.

  1. Llywiwch i'r ddolen Calendr yn y ddewislen llywio ar frig y sgrin ar y tudalennau canlynol:
    • Cynnwys y Cwrs
    • Trafodaethau
    • Llyfr Graddau
    • Negeseuon
  2. Rhowch neu cliciwch ar ddolen Calendr.
  3. Bydd y dudalen Calendr yn agor.

Negeseuon

Negeseuon – o'r ddewislen llywio ar y chwith

  1. Llywiwch i'r ddolen Negeseuon yn y ddewislen llywio ar ochr chwith y sgrin.
  2. Rhowch neu cliciwch ar ddolen Negeseuon.
  3. Bydd y dudalen Negeseuon yn agor gyda’r nodweddion canlynol:
    • Botwm Tymor Blaenorol
    • Enwau Cyrsiau
    • Rhifau ID y Cyrsiau
    • (#) Neges Newydd
    • (#) Negeseuon
    • Dolen Neges Newydd ar gyfer [enw cwrs]
  4. Llywiwch i [enw cwrs]
  5. Rhowch neu cliciwch ar [enw cwrs]
  6. Bydd y dudalen Negeseuon yn agor gyda’r nodweddion canlynol:
    • (#) Neges Newydd
    • (#) Negeseuon
    • Botwm naid eitemau fesul tudalen
    • Dolen Neges Newydd
    • Rhestr o negeseuon
    • Botymau dileu ar gyfer pob neges

Negeseuon – o Dewislen y Cwrs

  1. Llywiwch i'r ddolen Negeseuon yn y ddewislen llywio ar frig y sgrin ar y tudalennau canlynol:
    • Cynnwys y Cwrs
    • Calendr
    • Trafodaethau
    • Llyfr Graddau
  2. Rhowch neu cliciwch ar ddolen Negeseuon.
  3. Bydd y dudalen Negeseuon yn agor gyda’r nodweddion canlynol:
    • (#) Neges Newydd
    • (#) Negeseuon
    • Botwm naid eitemau fesul tudalen
    • Dolen Neges Newydd
    • Rhestr o negeseuon
    • Botymau dileu ar gyfer pob neges

Llyfr Graddau

Llyfr Graddau – o Graddau

Bydd cynnwys yn llwytho yn awtomatig ar y dudalen Graddau wrth lywio.

  1. Llywiwch i'r ddolen Graddau yn y ddewislen llywio ar ochr chwith y sgrin.
  2. Rhowch neu cliciwch ar ddolen Graddau.
  3. Bydd y dudalen Graddau yn agor gyda’r nodweddion canlynol:
    • Botwm Tymor Blaenorol
    • Dolen [enw cwrs]
    • Dolen Siart cynnydd cwrs
    • Dolen Gradd gyffredinol
    • Dolen Gweld pob darn o waith cwrs (#)
    • Graddau diweddar (os ar gael)
  4. Llywiwch i [enw cwrs].
  5. Rhowch neu cliciwch ar [enw cwrs].
  6. Bydd y dudalen Llyfr Graddau yn agor. 

Llyfr Graddau – o Dewislen y Cwrs

  1. Llywiwch i'r ddolen Llyfr Graddau yn y ddewislen llywio ar frig y sgrin ar y tudalennau canlynol:
    • Cynnwys y Cwrs
    • Calendr
    • Trafodaethau
    • Negeseuon
  2. Rhowch neu cliciwch ar ddolen Llyfr Graddau.
  3. Bydd y dudalen Llyfr Graddau yn agor.

Offer

  1. Llywiwch i'r ddolen Offer yn y ddewislen llywio ar ochr chwith y sgrin.
  2. Rhowch neu cliciwch ar ddolen Offer.
  3. Bydd y dudalen Offer yn agor gyda’r nodweddion canlynol:
    • Pennawd Rhaglenni Cwmwl
    • Rhestr o ddolenni rhaglenni cwmwl
    • Pennawd Offer Blackboard
    • Rhestr o ddolenni offer Blackboard

Allgofnodi

  1. Llywiwch i’r ddolen Allgofnodi yn y ddewislen llywio ar y chwith.
  2. Rhowch neu cliciwch ar Allgofnodi.
  3. Bydd y dudalen Blackboard Learn ar gael.