Golygu'ch gwybodaeth a dewisiadau

Eich proffil yw'r lle i olygu’r wybodaeth sy'n gysylltiedig â'ch persona. Mae'ch proffil yn ymddangos gydag ychydig o wybodaeth, a ni allwch ddileu'ch proffil. Eich sefydliad sy'n penderfynu beth gallwch ei bersonoli.

  1. Ar y bar llywio, dewiswch eich enw i gael mynediad i'ch proffil.
  2. Hofranwch dros fanylyn, fel Enw Llawn, a dewiswch fotwm y pensil.
  3. Yn y panel, gwnewch newidiadau.
  4. Dewiswch Gorffen.

Dewis eich rhagenwau

Pan fo modd golygu rhagenwau, gallwch ddewis gwerthoedd eich rhagenwau ar y dudalen proffil. Dewiswch eich enw ar y bar llywio. Ychwanegwch neu olygu'r gwerthoedd yn ôl yr angen. 

Add pronouns to your profile's basic information as an instructor

I ychwanegu rhagenwau, yn y maes Dewiswch eich rhagenwau , gallwch ddewis gwerthoedd lluosog. Gallwch ddewis y drefn maent yn cael eu dangos ynddi i ddefnyddwyr eraill. Os yw'r gweinyddwr wedi diffinio opsiynau ar gyfer rhagenwau mewn mwy nag un iaith, gallwch ychwanegu'r rhagenwau rydych yn eu defnyddio yn yr ieithoedd rydych yn eu siarad. 

Add pronouns to your profile's basic information as an instructor

Os nad ydych yn gweld opsiynau ar gyfer y rhagenwau gorau i chi, gallwch gyflwyno cais amdanynt os yw'ch sefydliad yn caniatáu gwneud hynny. Anfonir ceisiadau at y gweinyddwr i gael eu hadolygu a'u cymeradwyo.

New personal pronoun request

Yn eich cyrsiau, bydd eich rhagenwau yn ymddangos mewn sawl lleoliad yn yr offer rhyngweithiol, gweithgareddau grŵp a rhestri o enwau. Os nad ydych eisiau i bobl eraill weld eich rhagenwau, dylech dynnu eich rhagenwau.

How personal pronouns are shown in a course's roster

 

Lleoliadau dangos rhagenwau yn y Wedd Cwrs Ultra:

Lleoliadau dangos rhagenwau yn y Wedd Cwrs Ultra
AdranLleoliad
Asesiadau GrŵpGall defnyddiwr weld rhagenwau aelodau grŵp yn y panel trosolwg
Gall defnyddiwr weld rhagenwau aelodau grŵp wrth weithio ar asesiad
Adolygiad gan GyfoedionGall ddefnyddwyr sy'n gallu gweld enwau adolygwyr cyfoedion weld eu rhagenwau uwchben eu hadborth wrth weld ymgais myfyriwr
Cofrestr y Cwrs 
RhestrGall defnyddwyr weld rhagenwau defnyddwyr eraill yng ngwedd cofrestr y cwrs
Rheoli DefnyddwyrGall defnyddiwr weld rhagenwau defnyddwyr wrth chwilio am ddefnyddwyr i'w cofrestru yn y cwrs gall defnyddiwr weld
Rhagenwau defnyddiwr wrth eu golygu yn rhestr y cwrs
Gall defnyddiwr weld rhagenwau defnyddiwr wrth olygu eu cymwysiadau
Offer Cyfathrebu 
TrafodaethauGall defnyddiwr weld rhagenwau defnyddwyr eraill gyda'u hymatebion
NegeseuonGall defnyddwyr weld rhagenwau defnyddwyr eraill wrth chwilio am dderbynyddion neges
Gall defnyddwyr weld rhagenwau defnyddwyr eraill yn y panel negeseuon
Llyfr GraddauGall hyfforddwyr a graddwyr weld rhagenwau defnyddwyr yn y wedd Graddau
Gall myfyrwyr weld eu rhagenwau eu hunain wrth weld eu graddau eu hunain
GrwpiauGall defnyddiwr weld rhagenwau defnyddwyr mewn grŵp
Gall hyfforddwyr weld rhagenwau myfyrwyr yng ngwedd rheoli'r grŵp
Proffil DefnyddiwrGall defnyddiwr weld eu rhagenwau eu hunain ar eu tudalen proffil
Gall defnyddiwr weld eu rhagenwau eu hunain wrth olygu eu proffil ym mhanel gosodiadau'r proffil

Newid eich cyfrinair

Gallwch newid eich cyfrinair gan ddefnyddio'r ddolen Wedi anghofio eich cyfrinair? ar y dudalen mewngofnodi. Os ydych eisoes wedi mewngofnodi, allgofnodwch i gael mynediad at y dudalen.

Rhowch eich enw cyntaf, enw olaf ac enw defnyddiwr. Mae angen cael cyfeiriad e-bost gweithredol yn gysylltiedig â'ch cyfrif i dderbyn cyfarwyddiadau. Neu, rhowch eich enw cyntaf, enw olaf, a chyfeiriad e-bost.

Ar ôl i chi gyflwyno'ch gwybodaeth, gallwch greu cyfrinair newydd yn seiliedig ar y cyfarwyddiadau a dderbyniwch mewn e-bost. Mae'ch cyfrinair cyfredol yn parhau'n weithredol nes i chi ei newid.

Gallwch hefyd newid eich cyfrinair o'ch tudalen Proffil. Ewch i'ch proffil a dewiswch Newid Cyfrinair. O'r panel Newid Cyfrinair, rhowch eich hen gyfrinair a'ch cyfrinair newydd. Dewiswch Cadw.

Os ydych yn newid eich cyfrinair system, ni fydd yn effeithio ar unrhyw gyfrifon allanol, megis Google, yr ydych yn eu defnyddio i fewngofnodi i Blackboard Learn.