Mae mudiadau'n ymddwyn fel cyrsiau ac yn cynnwys offer sy'n galluogi cyfranogwyr i gyfathrebu'n effeithiol. Gallwch bostio gwybodaeth, cael trafodaethau a rhannu dogfennau. Gallwch chwilio am, hidlo a nodi fel ffefryn eich mudiadau. Mae mudiadau’n lle delfrydol i gysylltu â defnyddwyr eraill sydd â diddordebau neu weithgareddau allgyrsiol yn gyffredin. Eich sefydliad sy'n rheoli pwy all greu mudiadau.

Ynglŷn â mudiadau

Y tro cyntaf i chi fewngofnodi i Blackboard Learn, dewiswch dab Cymuned. Gallwch chwilio am fudiadau neu bori'r rhestr lawn o fudiadau sydd ar gael yn eich sefydliad. Mae rhestr o fudiadau rydych eisoes wedi ymuno â hwy hefyd yn ymddangos ar y dudalen hon.

Ar ôl i chi chwilio neu bori am fudiadau, bydd rhestr o fudiadau sy'n cyfateb ac sydd ar gael yn ymddangos. I ymuno â mudiad sydd ar gael, agorwch ddewislen y mudiad a dewis Ymrestru.

Gallwch ddewis mudiad i weld ei hafan. Rhaid i chi fod yn aelod cyn i chi allu gweld yr holl gynnwys ac offer sydd ar gael mewn mudiad.

Mae mudiadau'n edrych ac yn teimlo'n union fel cyrsiau. Gallwch ddefnyddio nifer o'r un offer y defnyddiwch chi mewn cyrsiau, ond arweinydd y mudiad neu eich gweinyddwr sy'n penderfynu at ba offer mae gennych fynediad:

Rhagor am drafodaethau

Rhagor am wikis

Rhagor am negeseuon

Rhagor am Blackboard Collaborate