Gall hyfforddwyr greu grwpiau o fyfyrwyr o fewn cyrsiau. Mae grwpiau fel arfer yn cynnwys nifer fechan o fyfyrwyr ar gyfer grwpiau astudio neu brosiectau. Mae gan y grwpiau hyn eu hardaloedd cydweithio eu hunain yn y cwrs er mwyn iddynt allu cyfathrebu a rhannu ffeiliau.

Mae'ch hyfforddwr yn eich rhoi mewn grŵp neu'n caniatáu i chi ddewis pa grŵp rydych eisiau ymuno. Eich hyfforddwr sy'n dewis pa offer cyfathrebu a chydweithio sydd ar gael i'ch grŵp.


Dod o hyd i'ch grwpiau cwrs.

Gall eich hyfforddwr ddarparu mynediad at eich grwpiau cwrs mewn tair ffordd.

  1. Dolen tudalen grwpiau: Mae'r ddolen i'r dudalen Grwpiau yn ymddangos ar ddewislen y cwrs neu mewn ardal gynnwys. Mae’r dudalen Grwpiau yn rhestru'r holl grwpiau sydd ar gael a'r taflenni cofrestru ar gyfer grwpiau hunan-gofrestru.
  2. Panel Fy Ngrwpiau: Mae panel Fy Ngrwpiau yn ymddangos ar ôl dewislen y cwrs. Mae gennych ddolenni uniongyrchol i'r ardal grŵp ar gyfer pob grŵp rydych yn aelod ohono. Gallwch ehangu'r panel i ddatgelu pa offer sydd ar gael i'w grwpiau. Os ydych wedi cofrestru mewn grŵp, mae'r panel yn ymddangos yn awtomatig.
  3. Dolen grŵp: Mae'n bosib y byddwch yn gallu cael mynediad at eich grwpiau mewn ardal cwrs gyda dolenni i un grŵp, taflen gofrestru neu'r dudalen Grwpiau.

Pan fyddwch yn cael mynediad at grŵp, byddwch yn gweld hafan y grŵp. Mae hafan y grŵp yn ganolbwynt ar gyfer gweithgarwch y grŵp a gall gynnwys disgrifiad o'r grŵp, rhestr o aelodau ac offer. Os yw'ch hyfforddwr yn caniatáu, gallwch bersonoli'r dudalen hon gyda baner, dewis gwahanol liwiau ac ychwanegu modiwlau personol, megis Cerdyn Adroddiad. Mae modiwlau personol yn weladwy'n unig i'r aelod a ychwanegodd y modiwlau. Gallwch hefyd gyrchu offer ac aseiniadau eich grŵp yma.


Cofrestru i ymuno â grŵp cwrs

Efallai bydd eich hyfforddwr yn gofyn i chi hunan-gofrestru ar grŵp cwrs. Yn seiliedig ar osodiadau'ch hyfforddwr, efallai byddwch yn gweld enwau aelodau eraill y grŵp.

Ar y dudalen Grwpiau, dewiswch Ymgofrestru neu Gweld Taflen Ymgofrestru er mwyn Ymuno â Grŵp. Pan fyddwch yn dewis Ymgofrestru eto ar y dudalen Taflen Gofrestru, fe’ch ychwanegir yn awtomatig at y grŵp.

Mae defnyddwyr anabl yn cael eu cyfrif yng nghyfanswm cofrestru'r grŵp cyfan nes bod aelodaeth y cwrs neu'r defnyddiwr yn cael eu dileu.


Creu grŵp

Os yw'ch hyfforddwr yn caniatáu, gallwch greu grwpiau cwrs y gall eich cyd-ddisgyblion ymuno â hwy.

  1. Ar y dudalen Grwpiau, dewiswch Creu Grŵp.
  2. Ar y dudalen Creu Grŵp Hunan-gofrestru, teipiwch enw'r grŵp a disgrifiad ohono.
  3. Teipiwch enw ar gyfer y Daflen Gofrestru a Chyfarwyddiadau ar gyfer y Daflen Gofrestru.
  4. Dewiswch Uchafswm Nifer yr Aelodau.
  5. Dewiswch Cyflwyno.

Offer grwpiau

Eich hyfforddwr sy'n dewis pa offer cyfathrebu a chydweithio sydd ar gael i'ch grŵp. Os ydych chi eisiau defnyddio darn o offer ond eich bod yn methu dod o hyd iddo ar dudalen eich grŵp, gofynnwch i'ch hyfforddwr ei alluogi.

Disgrifiadau o offer grwpiau
Offeryn Disgrifiad
Collaborate Ultra Mae aelodau'r grŵp a hyfforddwyr yn gallu rhannu cynnwys a defnyddio'r bwrdd gwyn, yn ogystal â chreu recordiadau.
Cydweithio Gall aelodau'r grŵp greu a mynychu sesiynau sgwrsio ac ystafell ddosbarth rithwir.

Mae gan y sesiynau cydweithio grŵp yr un nodweddion â'r rhai hynny a ddefnyddir mewn cwrs. Mae pob aelod o'r grŵp a'r cymedrolwyr mewn sesiynau cydweithio grwpiau'n gallu rheoli sesiynau a chael mynediad at yr holl offer sydd ar gael.

Cyfnewid Ffeiliau Gall aelodau grwpiau a hyfforddwyr rannu ffeiliau yn yr ardal hon. Gall yr holl aelodau ychwanegu a dileu ffeiliau, ta waeth pwy bynnag ychwanegodd nhw.
Blog Grŵp Yn yr ardal grŵp, mae pob aelod o'r grŵp yn gallu creu cofnodion ar gyfer yr un blog ac adeiladu ar yr un cofnod. Mae pob aelod o'r cwrs yn gallu darllen a gwneud sylw ar flog grŵp, ond ni allant bostio os nad ydynt yn aelod o'r grŵp. Gall hyfforddwyr ddewis graddio blogiau grŵp. Mae pob aelod o'r grŵp yn derbyn yr un radd.
Bwrdd Trafod Grŵp Gall aelodau grŵp greu a rheoli eu fforymau eu hunain a thrafod pynciau gydag aelodau'r grŵp yn unig. Gall hyfforddwyr ddewis graddio trafodaethau grŵp, ond caiff pob aelod ei raddio'n unigol.
Dyddlyfr Grŵp Ym maes y grŵp, gall pob aelod o'r grŵp edrych ar gofnodion ei gilydd. Aelodau grŵp a hyfforddwyr yw'r unig rai all weld dyddlyfrau grŵp. Gall hyfforddwyr ddewis graddio dyddlyfrau grŵp. Mae pob aelod o'r grŵp yn derbyn yr un radd.
Tasg Grŵp Gall aelodau grŵp greu tasgau i'w dosbarthu i holl aelodau'r grŵp.
Wici Grŵp Gall aelodau'r grŵp olygu a weld wiki eu grŵp. Gall hyfforddwyr weld a golygu wikis grwpiau, a dewis graddio wikis grwpiau. Mae pob aelod o'r grŵp yn derbyn yr un radd.
Anfon Neges E-bost Gall aelodau grŵp e-bostio aelodau unigol neu’r grŵp cyfan.

Cyfnewid ffeiliau gyda grwpiau

Gyda chyfnewid ffeiliau, gallwch rannu ffeiliau gydag aelodau eraill o'ch grŵp, gan gynnwys eich hyfforddwr.

Ni allwch greu ffeiliau yn y gyfnewidfa ffeiliau. Gyda'ch grŵp, dewiswch sut rydych eisiau enw'r ffeiliau er mwyn iddi fod yn haws dod o hyd iddynt mewn rhestr hir.

Ychwanegu ffeil at y gyfnewidfa ffeiliau

Offer Grŵp > Cyfnewidfa Ffeiliau > Ychwanegu Ffeil

Ychwanegwch enw ar gyfer y ffeil rydych eisiau ei huwchlwytho. Porwch am ffeil a'i chyflwyno.

Dileu ffeil o'r gyfnewidfa ffeiliau

Gallwch ddileu unrhyw ffeil, hyd yn oed os mai nid chi uwchlwythodd y ffeil. Ar dudalen y Gyfnewidfa Ffeiliau, dewiswch Dileu yn newislen y ffeil.


Cwestiynau cyffredin

Sut ydw i'n tynnu fy hun neu rywun arall o grŵp?

Ar ôl i chi gofrestru mewn grŵp, eich hyfforddwr yw'r unig berson all eich tynnu o grŵp, gan gynnwys grwpiau hunan-gofrestru a'r rhai a grëwyd gan fyfyrwyr.

Sut alla'i ychwanegu cyd-ddisgyblion i grŵp rwyf wedi ei greu?

Os ydych chi wedi creu grŵp, rhaid i'ch cyd-ddisgyblion hunan-gofrestru i'r grŵp. Yn y rhestr o grwpiau, rhaid iddynt ddewis Cofrestru ar ôl enw'r grŵp.

Sut rwy'n ymuno â grŵp a grëwyd gan un o'm cyd-fyfyrwyr?

Dewch o hyd i'r grŵp wedi'i restru ar dudalen Grwpiau a dewiswch Cofrestru. Mae'r grŵp yn dangos yn eich ardal Fy Ngrwpiau.