Mae Google Meet ar gyfer Blackboard yn caniatáu i’ch hyfforddwr greu cyfarfod Google Meet a rhannu’r ddolen. Mae ein hintegreiddiad yn caniatáu i chi lansio cyfarfodydd Google Meet yn uniongyrchol o fewn unrhyw gwrs Learn.

Mae dolenni Google Meet yn ddilys am 24 awr ar ôl cael eu cyrchu am y tro cyntaf.


Ymuno â chyfarfod

Dewiswch enw’r cyfarfod i ymuno.

Ni allwch ymuno â chyfarfod nes i'r cyfarfod ddechrau.

Bydd y cynnwys ar gael ar ôl i’r cyfarfod ddechrau.

Efallai bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif GoogleEDU neu G Suite i ymuno â’r cyfarfod. Cysylltwch â’ch gweinyddydd os oes angen help arnoch gyda’ch manylion mewngofnodi.

Caniatáu mynediad at eich meicroffon a chamera os oes angen.