Yn edrych am eich cyd-ddisgyblion, hyfforddwr neu ddefnyddiwr arall Blackboard Learn? Gallwch ddod o hyd i bobl mewn amrywiaeth o leoedd os ydynt wedi dewis rhannu ei gwybodaeth gyswllt.
Cofrestr y cwrs
Defnyddiwch ddarn o offer y gofrestr i chwilio am fyfyrwyr eraill ym mhob un o'ch cyrsiau. Cynhwysir enw pob myfyriwr yn y rhestr yn awtomatig. Ni allwch dynnu'ch enw o'r rhestr, ond gallwch reoli a ydych eisiau i'ch cyfeiriad e-bost fod ar gael ai beidio.
- Yn newislen y cwrs, dewiswch Offer > Rhestr.
- Dewiswch Mynd i weld rhestr o'r holl fyfyrwyr sydd ar eich cwrs. Gallwch chwilio am fyfyrwyr wrth deipio gair allweddol yn y blwch testun a gan ddefnyddio'r hidlwyr canlynol:
- Enw Cyntaf
- Enw Olaf
- Yn cynnwys
- Yn cyfateb i
- Yn dechrau gyda
- Nid yw’n wag
Cyfeiriadur Defnyddwyr
Yn y Cyfeiriadur Defnyddwyr, gallwch chwilio am fyfyrwyr eraill a hyfforddwyr yn y system.
Gallwch ddewis pa wybodaeth i'w rhannu trwy osod eich opsiynau preifatrwydd. Er mwyn i'ch gwybodaeth bersonol ymddangos yn y gofrestr neu'r Cyfeiriadur Defnyddwyr, rhaid iddo ymddangos ar dudalen Golygu Gwybodaeth Bersonol.
Defnyddwyr sydd wedi diweddaru'u gwybodaeth bersonol a dewis Rhestri fy ngwybodaeth yn y Cyfeiriadur Defnyddwyr yn eu gosodiadau preifatrwydd yw'r unig rai sy'n ymddangos yn y canlyniadau chwilio.
- Ewch i dab Fy Sefydliad. Dewiswch Offer > Cyfeiriadur Defnyddwyr.
- Ar y dudalen Defnyddwyr, dewiswch Mynd i restru'r holl ddefnyddwyr sydd wedi rhannu gwybodaeth. Teipiwch allweddair i chwilio am ddefnyddiwr penodol a defnyddiwch yr hidlyddion hyn:
- Enw defnyddiwr
- Enw Cyntaf
- Enw Olaf
- E-bost
- Yn cynnwys
- Yn cyfateb i
- Yn dechrau gyda
Tudalen gysylltiadau
Ar y dudalen Cysylltiadau, gallwch weld manylion cyswllt hyfforddwr ynghyd â'i oriau swyddfa, llun ohonynt a gwybodaeth bersonol arall. Gallwch hefyd ddysgu am gynorthwywyr addysgu a'r siaradwyr gwadd nesaf.
O ddewislen y cwrs, dewiswch Offer > Cysylltiadau. Bydd cysylltiadau sy'n gysylltiedig â'ch cwrs yn ymddangos os yw’ch hyfforddwr wedi ychwanegu gwybodaeth.