Efallai bydd eich hyfforddwr yn cyfri cyfranogiad mewn trafodaethau fel rhan o'ch gradd. Ar ôl i chi bostio'ch meddyliau a bod eich hyfforddwr wedi graddio'ch cyfraniadau, bydd eich graddau'n ymddangos mewn gwahanol ardaloedd o Blackboard Learn.

Gweld graddau trafodaethau

Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i adran gymorth "Ultra" am weld graddau trafodaethau.

Os byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaeth wedi’i graddio, gallwch weld eich gradd yn Fy Ngraddau. Gall rhes y drafodaeth raddedig gynnwys symbol i ddynodi ei statws. Er enghraifft, mae ebychnod yn golygu bod eich cyfraniad yn disgwyl am radd. Neu, os yw’ch post wedi cael ei raddio, bydd y radd yn ymddangos.

  1. Ar ddewislen y cwrs, dewiswch Offer > Fy Ngraddau.
  2. Ar y dudalen Fy Ngraddau, dewiswch y ddolen i weld gradd y post. Gallwch hefyd weld:
    • Ystadegau’r Fforwm: Ehangwch yr adran hon i weld gwybodaeth am eich postiadau, megis Cyfanswm y Postiadau, Dyddiad y Postiad Diwethaf, Hyd Postiad ar Gyfartaledd, a Safle Postiad ar Gyfartaledd.
    • Gradd: Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth am eich gradd ac unrhyw adborth gan eich hyfforddwr. Os defnyddiodd eich hyfforddwr gyfarwyddyd, dewiswch Gweld y Cyfarwyddyd i ddangos wybodaeth fanwl am raddio.

ULTRA: Gweld graddau trafodaethau

Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i'r adran gymorth "Gwreiddiol" am weld graddau trafodaethau.

Gallwch ddod o hyd i raddau am eich cyfraniadau i drafodaethau mewn sawl lle:

  • Ar dudalen y drafodaeth, mae'ch gradd yn ymddangos dan Gradd.
  • Ar dudalen Graddau Cyrsiau, dewch o hyd i'r rhes ar gyfer y drafodaeth a chyfeiriwch at y golofn Gradd.
  • Yn y rhestr lle mae'ch enw yn ymddangos, gallwch weld eich graddau ar eich tudalen Graddau cyffredinol.
  • Mae graddau newydd hefyd yn ymddangos yn eich ffrwd gweithgarwch.

ULTRA: Gweld cyfarwyddyd y drafodaeth

Os yw'ch hyfforddwr wedi graddio'ch trafodaeth gan ddefnyddio cyfarwyddyd, gallwch ddewis y bilsen radd i agor y cyfarwyddyd ochr yn ochr â'r drafodaeth. Gallwch ehangu maen prawf unigol i adolygu’r lefelau cyflawniad. Fe amlygir y lefelau cyrhaeddiad a ddyfarnwyd.


ULTRA: Gwaith hwyr

Os yw’ch hyfforddwr wedi’i gosod, mae'n bosibl y byddwch yn gweld seroau ar gyfer gwaith nad ydych wedi'i gyflwyno ar ôl i'r dyddiad cyflwyno fynd heibio. Gallwch dal i gyfranogi i ddiweddaru'ch gradd. Eich hyfforddwr sy'n pennu cosbau gradd ar gyfer gwaith hwyr.

Mae graddau o sero yn ymddangos ar eich tudalennau Graddau ac ym mhanel Manylion a Gwybodaeth y drafodaeth.

Byddwch yn cael eich hysbysu am y radd o sero yn eich ffrwd gweithgarwch.


ULTRA: Gwrando ar adborth a recordiwyd.

Gall eich hyfforddwr adael fideo neu recordiad sain gydag adborth ychwanegol ar radd eich trafodaeth. Mae'r recordiadau'n ymddangos ym mhanel Adborth lle gallwch weld eich graddau.

Dewiswch eicon y ffilm i ffrydio'r fideo i'ch cyfrifiadur neu ddyfais. Gallwch reoli’r fideo trwy’r dulliau arferol megis rhewi’r fideo neu lithro bar y chwaraeydd. Mae porwyr modern yn cefnogi chwarae ffeiliau fel hyn heb fod angen ategyn porwr. Ni allwch allgludo neu lawrlwytho'r recordiad o adborth ar hyn o bryd.