Yn y bwrdd trafod, mae edefynnau’n tyfu wrth i ddefnyddwyr ymateb i’r postiadau cychwynnol a dilynol. Mae ymatebion yn adeiladu ar ben ei gilydd i lunio sgwrs. Wrth i nifer y postiadau dyfu, gallwch hidli, trefnu a chasglu postiadau.

Gallwch olygu neu ddileu'ch ymatebion os caniateir hyn gan eich hyfforddwr. Os byddwch yn postio ymateb ar gam a bod yr opsiynau i olygu neu ddileu ddim yn ymddangos, cysylltwch â'ch hyfforddwr.

Mwy ar olygu a dileu ymatebion

Ymateb i edefyn

Gallwch ymateb i drywyddion a gyhoeddwyd, ond ni allwch ymateb i drywyddion wedi'u cloi neu rai cudd.

  1. Agor trywydd y tu mewn i fforwm.
  2. Ar dudalen y trywydd, gallwch weld testun y postiad ynghyd â gwybodaeth, megis yr awdur a'r dyddiad postio. Mae'r holl atebion yn ymddangos ar yr un dudalen ynghyd â'r cyhoeddiad wreiddiol.
  3. Pwyntiwch at y postiad i weld swyddogaethau megis Ymateb, Dyfynnu, Golygu, Dileu, ac E-bostio'r Awdur. Mae'r nodwedd Dyfynnu yn cynnwys testun y postiad fel rhan o'ch ymateb. Dewiswch Ymateb. Os ydych eisiau gweld dim ond y postiadau heb eu darllen yn yr edefyn, dewiswch Heb eu Darllen. Bydd y postiadau heb eu darllen yn ymddangos ar un dudalen.
  4. Bydd y dudalen yn ehangu o dan y postiad rydych yn ymateb iddo. Gallwch weld y postiad a chael mynediad at y golygydd.
  5. Os oes angen, gallwch olygu'r Pwnc. Teipiwch eich ymateb yn y blwch Neges. Gallwch hefyd atodi ffeil.
  6. Ar ôl y blwch Neges, gallwch atodi ffeil. Dewiswch Pori Fy Nghyfrifiadur i uwchlwytho ffeil o'ch cyfrifiadur. Mae'n bosib y byddwch hefyd yn gallu uwchlwytho ffeil o storfa ffeiliau'r cwrs: y Casgliad o Gynnwys.

    Os byddwch yn llwytho ffeil o'ch cyfrifiadur, ni chaiff ei gadw yn y Casgliad o Gynnwys.

  7. Dewiswch Cadw Drafft i storio drafft o'r postiad neu ddewiswch Cyflwyno i gyhoeddi’ch ateb.

Ar y dudalen edefyn, mae’ch ateb yn ymddangos ar ddiwedd y rhestr. Os ydych chi wedi atodi ffeil, bydd eicon clip papur yn ymddangos wrth ochr teitl y postiad. Os ddefnyddioch swyddogaeth Mewnosod/Golygu Delwedd, bydd y ddelwedd yn ymddangos gyda'r testun.

Mwy ar olygu a dileu ymatebion

Mwy ar ymateb gyda JAWS®

Postiadau dienw

Gall eich hyfforddwr ganiatáu i chi bostio yn y drafodaeth yn ddienw.

I bostio'n ddienw, dewiswch y blwch ticio Postio Neges yn Ddienw o dan y golygydd cynnwys wrth i chi ddrafftio'ch neges. Ar ôl i chi gyflwyno'ch postiad, bydd yn ymddangos yn y fforwm neu drywydd a chaiff yr awdur ei restru fel Dienw. Ni fydd eich enw neu avatar yn ymddangos gyda'r postiad.

Nid yw postiadau dienw yn cynnwys unrhyw wybodaeth a ellid ei defnyddio i'ch adnabod. Ni fydd myfyrwyr eraill na'ch hyfforddwr yn gwybod pwy a bostiodd os yw'n ddienw. Os ydych yn postio'n ddienw sawl gwaith, ni all eich hyfforddwr na'r myfyrwyr eraill wybod mai un person sy'n gyfrifol am y postiadau.


Cadw postiad fel drafft

Gallwch chi ddefnyddio’r opsiwn Cadw Drafft os bydd angen i chi ddychwelyd i’r postiad yn ddiweddarach. Mae’r swyddogaeth hon yn cadw’ch sylwadau a ffeiliau ar y dudalen.

I weld eich drafftiau, ewch yn ôl i dudalen y fforwm a'i osod i Wedd Rhestr. Pwyntiwch at Dangos a dewiswch Drafftiau yn Unig i weld y postiad a gadwyd.

Dewiswch deitl y drafft i agor tudalen y Trywydd. Wrth weld eich postiad, pwyntiwch ato i weld swyddogaethau Golygu a Dileu. Dewiswch Golygu i agor y golygydd. Ar ôl i chi wneud eich diweddariadau, dewiswch Cadw Drafft eto i ddiweddaru’r drafft neu Cyflwyno i gyhoeddi’r postiad.

Mwy ar gadw'ch postiadau fel drafft gyda JAWS


Sgorio postiadau

Os yw’ch hyfforddwr yn caniatáu hynny, gallwch raddio postiadau. Mae sgorio postiadau'n helpu'r defnyddwyr i ganolbwyntio ar y negeseuon mae eraill yn eu hystyried i fod yn arbennig o ddiddorol neu ddefnyddiol.

Mae myfyrwyr yn dechrau edefynnau ac yn cynnwys eu gwaith yn eu postiadau cychwynnol. Mae defnyddwyr eraill yn adolygu’r gwaith, yn rhoi graddiad i’r post cychwynnol, ac yn cynnwys sylwadau mewn ymateb. Gall hyfforddwyr hefyd raddio postiadau.

  1. Agor trywydd y tu mewn i fforwm.
  2. Ar dudalen y trywydd, pan fyddwch yn pwyntio at at ardal sgorio trywydd, mae'n newid i ddangos Eich Sgôr.
  3. Dewiswch un i bum seren. Gallwch ychwanegu a thynnu sêr ar unrhyw bryd.
  4. Caiff eich sgôr ei gynnwys yn y Sgôr Cyffredinol—cyfuniad o sgôr pob defnyddiwr.

Mwy ar sgorio postiadau gyda JAWS