Gallwch reoli pan drywyddion a welwch mewn fforwm. Os ganiateir hyn gan eich hyfforddwr, efallai byddwch yn gallu golygu a dileu'ch ymatebion.

Hidlo rhestr o drywyddion

Eich hyfforddwr sy'n penderfynu os yw trywydd yn cael ei gyhoeddi, ei guddio neu ar ffurf drafft. Os gallwch weld trywydd, gallwch ddewis pa fath o drywyddion sy'n ymddangos mewn fforwm. Mae trywyddion a gyhoeddwyd yn ymddangos yn ddiofyn.

  1. Ar dudalen y fforwm, dewiswch Gwedd Rhestr.
  2. Yn y ddewislen Dangos, dewiswch y mathau o drywyddion i'w gweld yn y fforwm.
    • Dangos y Cwbl: Yn dangos yr holl drywyddion yn y fforwm.
    • Cyhoeddwyd yn Unig: Yn dangos trywyddion gyda statws cyhoeddedig.
    • Cudd yn Unig: Yn dangos trywyddion sy'n gudd a ddim yn weladwy yn ddiofyn. Gallwch ddewis dangos edefynnau cudd yn y wedd rhestr. Ni allwch olygu trywyddion cudd. Efallai byddwch eisiau cuddio trywyddion amherthnasol er mwyn helpu cadw cynnwys perthnasol mewn golwg.
    • Drafft yn Unig: Yn dangos trywyddion drafft a gadwyd gan yr awdur er mwyn eu golygu yn y dyfodol, ond sydd heb gael eu cyflwyno i'w cyhoeddi. Wedi ei gyhoeddi, gall defnyddwyr eraill ei weld. Eich drafftiau eich hun yn unig byddwch yn gallu eu gweld.

      Dewiswch Drafftiau yn Unig o'r rhestr hon i agor, golygu a chyhoeddi'r drafftiau a gadwyd gennych.


Golygu neu ddileu ymatebion.

Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i help "Ultra" am olygu neu ddileu trafodaethau.

Gallwch olygu neu ddileu'ch ymatebion os caniateir hyn gan eich hyfforddwr. Os byddwch yn postio ymateb ar gam a bod yr opsiynau i olygu neu ddileu ddim yn ymddangos, cysylltwch â'ch hyfforddwr.

  1. Agor trywydd mewn fforwm.
  2. Ar dudalen y trywydd, pwyntiwch at bostiad i weld y swyddogaethau sydd ar gael.
  3. Dewiswch Golygu neu Dileu. Ni ellir gwyrdroi’r weithred dileu.
    • Os oes gennych ganiatâd i ddileu'ch post gydag ymatebion, bydd yr holl bostiadau'n cael eu dileu'n barhaol.
  4. Pan fyddwch yn golygu, mae'r dudalen yn ehangu er mwyn i chi allu golygu yn y golygydd wrth i chi weld y postiad gwreiddiol.
  5. Dewiswch Cyflwyno. Mae’ch golygiadau yn ymddangos yn y postiad.

ULTRA: Golygu a dileu eich pynciau trafod

Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i'r adran gymorth "Gwreiddiol" am olygu neu ddileu postiad.

Ar brif dudalen Trafodaethau, agorwch drafodaeth rydych wedi’i chreu i gyrchu'r ddewislen. Dewiswch Golygu i wneud newidiadau.

Ni allwch olygu teitl y drafodaeth ar ôl ei greu.

Dewiswch Dileu i dynnu’r pwnc trafod. Os nad oes unrhyw ymatebion nac atebion, tynnir eich trafodaeth o'r rhestr.

Os ydych yn dileu eich pwnc trafod ac mae ymatebion ac atebion yn bodoli, mae’r system yn dangos neges am eich dilead er mwyn i bobl eraill wybod beth sydd wedi digwydd.

Ar brif dudalen Trafodaethau, gallwch ddileu trafodaeth rydych wedi’i chreu os nad oes neb wedi ymateb. Ni fydd y ddewislen yn ymddangos os oes ymatebion.


ULTRA: Golygu a dileu eich ymatebion ac atebion

Agorwch y ddewislen i gyrchu Golygu a Dileu. Os ydych yn dileu'ch ymateb cychwynnol, mae pob ymateb arall yn aros.

Pan fydd ymatebion yn aros, mae’r system yn dangos neges am eich dilead er mwyn i bobl eraill wybod beth sydd wedi digwydd.