Pam nad ydw i'n gallu gweld fy mhostiad mewn trafodaeth?

Gwiriwch os ydych chi wedi cadw'ch cyfraniad fel drafft ar gamgymeriad. Dychwelyd i'r dudalen fforwm, ewch i'r ddewislen Dangos, a dewiswch Drafftiau yn unig.

Dewiswch Chwilio ar dop y prif fwrdd trafod, fforwm neu dudalen y trywydd a chwiliwch am derm ddefnyddioch chi yn eich neges.


A allaf atal colli testun?

Wrth ychwanegu testun at eich cwrs, gallwch eich diogelu rhag colli gwaith os ydych yn colli eich cysylltiad â'r rhyngrwyd neu os oes gwall gyda'r feddalwedd. Gallwch deipio mewn golygydd testun syml heb gyswllt, megis Notepad neu TextEdit, a chopïo a gludo'ch gwaith i mewn i'ch cwrs.

Neu, cyn i chi gyflwyno neu gadw, gallwch gopïo’r holl destun rydych chi eisiau ei ychwanegu. Dewiswch y testun a de-gliciwch i'w gopïo. Gallwch hefyd ddefnyddio cyfuniadau ar y bysellfwrdd i gopïo a gludo:

  • Windows: Ctrl + A i ddethol yr holl destun, Ctrl + C i gopïo, a Ctrl + V i ludo.
  • Mac: Command + A i ddethol yr holl destun, Command + C i gopïo, a Command + V i ludo.

Ydw i'n gallu gludo testun o Microsoft® Word?

Fe gewch y canlyniadau gorau os ydych yn teipio'ch testun yn uniongyrchol yn y golygydd ac yn ei fformatio gyda'r opsiynau sydd ar gael.

Efallai y cewch broblemau os byddwch yn copïo ac yn gludo o ddogfen Word yn uniongyrchol i mewn i'r golygydd. Efallai ni fydd eich fformatio yn ymddangos fel y dymunwch. Efallai ni fyddwch chwaith yn gallu tynnu neu ychwanego fformation ar ôl i chi ei gludo i mewn i'r golygydd. Er mwyn osgoi'r problemau fformatio, gallwch dynnu'r fformat a'i ailfformatio gyda'r swyddogaethau yn y golygydd.

I dynnu fformatio Word ar ôl i chi ludo'r testun yn y golygydd, dewiswch yr holl destun a dewiswch eicon Tynnu'r Fformatio. Dylech ddefnyddio'r opsiwn hwn dim ond os ydych yn deall y bydd yr holl fformatio yn cael ei dynnu. Bydd unrhyw fwledi, rhestrau â rhifau, mewnoliadau, bylchau rhwng llinellau, testun a ganolwyd, a fformatio a maint testun yn cael eu tynnu.

Remove text formatting

Neu, cyn i chi ychwanegu'ch testun yn y golygydd, gallwch ei ludo i mewn i olygydd testun syml all-lein, megis Pad Ysgrifennu neu TextEdit, a chlirio'r fformatio. Yna, gallwch ludo'r testun i mewn i'r golygydd a'i fformatio fel y mynnwch.

Mwy ar weithio yn y golygydd


Beth mae golygu yn ei olygu?

Os caniateir gan eich hyfforddwr, gallwch dderbyn hysbysiadau ar e-bost pan fydd postiadau newydd yn cael eu gwneud. Eich hyfforddwr sy'n dewis os yw'r hysbysiadau ar gyfer postiadau'n cael eu gwneud ar lefel fforwm neu edefyn.

Pan mae nodwedd tanysgrifio i e-byst fforymau wedi'i alluogi, dewiswch Tanysgrifio. Byddwch yn derbyn e-byst pan fydd postiadau newydd yn cael eu hychwanegu at y fforwm.

Pan mae'r nodwedd tanysgrifio i e-byst fforymau wedi'u galluogi, dewiswch un neu ragor o'r blychau ticio a dewiswch Tanysgrifio yn newislen Gweithrediadau'r Trywydd. Byddwch yn derbyn e-bost pan fydd aelodau'n gwneud postiadau newydd yn yr edeifion a ddewiswyd.