Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Blog yw eich dyddlyfr personol ar-lein. Gall pob cofnod blog rydych yn ei wneud gynnwys unrhyw gyfuniad o destun, delweddau, dolenni, amlgyfryngau, cyfuniadau, ac atodiadau. Mae blogiau'n fodd effeithiol i chi rannu gwybodaeth a deunyddiau a grëwyd ac a gasglwyd yn y cwrs. Gallwch bostio cofnodion ac ychwanegu sylwadau at flogiau cyfredol. Defnyddiwch eich blog i fynegi eich syniadau a'u rhannu gyda'r dosbarth.

Fel perchennog y blog, gallwch greu cofnodion a gall eich hyfforddwr a chyd-ddisgyblion ychwanegu sylwadau. Mae cwrs neu grŵp hefyd yn gallu perchen ar flog. Yn maes y grŵp, gall pob aelod o grŵp greu cofnodion ar gyfer yr un blog, gan adeiladu ar ei gilydd. Mae unrhyw aelod o gwrs yn gallu darllen a gwneud sylw ar flog grŵp, ond ni allant greu cofnod os nad yw'r defnyddiwr yn aelod o'r grŵp. Gall eich hyfforddwr hefyd gynnig sylwadau a graddio cofnodion.

Os yw'ch sefydliad yn defnyddio avatars neu broffiliau Blackboard, bydd y ddelwedd a ddewiswyd gennych yn ymddangos gyda'ch blog.


Ble i ddod o hyd i flogs

Gallwch ddod o hyd i flogiau ar ddewislen y cwrs neu ar y dudalen Offer. Ar y dudalen sy'n rhestri'r blogiau, dewiswch bwnc y blog rydych eisiau ei darllen o'r rhestr yn nhrefn yr wyddor.

Gallwch gyrchu dri math o flog:

  • Cwrs: Gall unrhyw ddefnyddiwr sydd wedi cofrestru greu cofnodion blog ac ychwanegu sylwadau i gofnodion.
  • Unigolion: Dim ond perchennog y blog gall greu cofnodion blog. Gall pob defnyddiwr arall sydd wedi ymrestru weld cofnodion ac ychwanegu sylwadau.
  • Grwpiau: Os yw'ch hyfforddwr yn galluogi'r offer blogiau ar gyfer grŵp, bydd pob aelod o'r grŵp yn gallu creu cofnodion blog a gwneud sylwadau. Gall unrhyw aelodau cwrs weld blogiau grŵp, ond mae ganddynt yr opsiwn i ychwanegu sylwadau yn unig. Gallwch ychwanegu cofnodion at eich grŵp blog eich hun yn unig.

    Gall eich hyfforddwr olygu a dileu cofnodion yn y tri math o flog a dileu sylwadau defnyddiwr.


Tudalen pwnc blog

Rhennir tudalen pwnc y blog i ddwy brif adran: y ffrâm gynnwys a'r bar ochr.

  1.  Dewiswch Creu Cofnod Blog i greu cynifer o gofnodion blog ag y mynnwch. Dewiswch Gweld Drafftiau i weld cofnodion heb eu cyhoeddi. Ehangwch adran Cyfarwyddiadau Blog i adolygu cyfarwyddiadau'r blog ac unrhyw nodau y gallai'ch hyfforddwr fod wedi'u halinio gyda'r blog.
  2. Yn y bar ochr, ehangwch adran Manylion y Blog  i weld gwybodaeth am y blog, gan gynnwys a wnaed unrhyw sylwadau. Ehangwch yr adran i weld rhestr o bwy arall sydd wedi gwneud cofnodion blog.
  3. Dewiswch enw i weld y cofnodion. Mae'r adran Graddio yn ymddangos os yw'ch hyfforddwr wedi galluogi graddio ar gyfer y blog. Gallwch weld os yw eich cofnodion blog wedi eu graddio.
  4. Mae Sylwadau yn dangos pwy sydd wedi ychwanegu sylw ar y postiad. Dewiswch Mynegai i weld teitlau'r cofnodion a ddewiswyd gennych naill ar gyfer yr wythnos neu'r mis, yn seiliedig ar y gosodiadau a wneir gan eich hyfforddwr wrth greu'r blog. Mae teitl y cofnod mwyaf diweddar yn ymddangos yn gyntaf.

Creu cofnod blog

Eich hyfforddwr yn unig gall greu blog. Ar ôl creu'r blog, gallwch greu cofnodion blog.

  1. Ar y dudalen rhestru Blogiau, dewiswch deitl blog.
  2. Ar dudalen pwnc y blog, dewiswch Creu Cofnod Blog.
  3. Teipiwch deitl a chofnod.
  4. Os yw wedi'i galluogi a'i bod yn briodol, dewiswch y blwch ticio ar gyfer Postio'r Cofnod fel un Di-enw.
  5. Dewiswch Pori Fy Nghyfrifiadur i uwchlwytho ffeil o'ch cyfrifiadur. Gallwch hefyd ychwanegu ffeil o'r gronfa: Ffeiliau’r Cwrs neu’r Casgliad o Gynnwys.

    -NEU-

    Llusgwch ffeiliau o'ch cyfrifiadur i'r "ddolen glicio" yn ardal Atodi Ffeiliau. Os yw'ch porwr yn ei ganiatáu, gallwch hefyd lusgo ffolder o ffeiliau. Bydd y ffeiliau'n uwchlwytho'n unigol. Os nad yw'r porwr yn caniatáu i chi gyflwyno'ch aseiniad ar ôl i chi uwchlwytho ffolder, dewiswch Peidiwch ag atodi yn rhes y ffolder i'w dynnu. Gallwch lusgo'r ffeiliau'n unigol a'u cyflwyno eto.

    Ni fyddwch yn gallu llusgo ffeiliau i'w huwchlwytho os yw'ch sefydliad yn defnyddio fersiwn hŷn o Blackboard Learn.

    Gallwch ddefnyddio enw'r ffeil neu roi enw arall i'r ffeil.

  6. Dewiswch Postio Cofnod i gyflwyno'r cofnod blog neu dewiswch Cadw Cofnod fel Drafft i ychwanegu'r cofnod yn nes ymlaen.

Gweld drafftiau blog

Os gadwoch chi gofnod blog i'w olygu'n ddiweddarach, dewiswch Gweld Drafftiau ar dudalen pwnc y blog. Dewiswch deitl y cofnod i'w olygu a phostio.


Rhoi sylw ar gofnod blog

Gallwch wneud sylw ar gofnodion blog eich gilydd, os ydynt yn berchen i unigolyn, y cwrs neu grŵp. Mae eich hyfforddwr yn penderfynu os gallwch wneud sylwadau dienw ac os gallwch ddileu sylwadau blog.

Ar dudalen pwnc y blog, dewiswch enw defnyddiwr yn y bar ochr i weld blog. Bydd cofnodion blog y defnyddiwr yn agor yn y ffrâm gynnwys. Dewiswch Gwneud Sylw i ychwanegu'ch meddyliau.


Golygu neu ddileu cofnod blog

Eich hyfforddwr sy'n pennu a oes caniatâd gennych i olygu neu ddileu'ch cofnodion blog. Ar dudalen pwnc y blog, ewch i ddewislen y cofnod a dewiswch Golygu neu Dileu. Mae dileu cofnod blog bob amser yn derfynol ac ni ellir dadwneud y weithred.


Gweld graddau blog

Ar ôl i'ch hyfforddwr raddio eich cofnodion blog, gallwch edrych ar eich gradd mewn dau fan. Mae'r wybodaeth raddio'n ymddangos yn yr adran Graddio ar dudalen pwnc y blog ac yn Fy Ngraddau. Gallwch hefyd edrych ar adborth eich hyfforddwr a'r dyddiad y dynodwyd y radd. I ddysgu mwy, ewch i Graddau.

Cyfarwyddiadau

Os yw'ch hyfforddwr wedi cysylltu cyfarwyddyd â'r blog ac wedi'i wneud ar gael, dewiswch Gweld y Cyfarwyddyd yn yr adran Graddio i ddangos y meini prawf graddio.


Datrys problemau

  • Os cewch eich tynnu o gwrs, ni fydd gennych fynediad at unrhyw flogiau. Os cewch eich tynnu o gwrs ar ôl bod blogiau unigol wedi cael eu creu, bydd unrhyw gofnodion a sylwadau a wnaed gennych yn cael eu dileu. Os cewch eich tynnu o gwrs ar ôl bod blogiau cwrs wedi cael eu creu, bydd unrhyw gofnodion a sylwadau a wnaed gennych yn cael eu cadw, ond caiff eich enw ei newid i "Ddienw".
  • Os yw'ch hyfforddwr yn dileu blog tra'ch bod yn postio, bydd y blog a'r holl sylwadau'n cael eu dileu.
  • Os yw'ch hyfforddwr yn newid argaeledd blog tra'ch bod yn postio, bydd y blog yn parhau i fod yn weladwy i'ch hyfforddwr yn unig.
  • Os yw'ch hyfforddwr yn newid gosodiad Caniatáu i Ddefnyddwyr Olygu a Dileu Cofnodion, bydd y cofnodion yn aros ond ni allwch eu golygu.
  • Os bydd eich hyfforddwr yn newid y gosodiad Caniatáu i Ddefnyddwyr Ddileu Sylwadau, bydd y sylwadau'n aros ond ni allwch eu golygu.