Os yw'ch hyfforddwr wedi pennu graddau presenoldeb, gallwch weld eich gradd presenoldeb gyffredinol a chofnodion manwl.

Ar gyfer pob cyfarfod dosbarth, gall hyfforddwyr nodi a oeddech yn bresennol, yn hwyr, yn absennol neu wedi'ch esgusodi. Pennir canran allan o 100 i bob statws. Mae'ch gradd presenoldeb gronnol yn seiliedig ar 100 y cant.

Gall eich hyfforddwyr ddefnyddio'ch gradd presenoldeb fel rhan o radd gyffredinol eich cwrs. Hefyd, mae gan rai sefydliadau a rhaglenni bolisïau presenoldeb sy'n mynnu bod hyfforddwyr yn olrhain nifer y cyfarfodydd dosbarth y mae myfyrwyr wedi'u colli.

Gwirio'ch graddau presenoldeb

I weld y radd presenoldeb gyffredinol ar gyfer y cwrs rydych ynddo, dewiswch ddolen Fy Ngraddau ar ddewislen y cwrs neu ar dudalen Offer. Mae'ch gradd presenoldeb yn ymddangos ar y tabiau Popeth a Graddedig.

Eich hyfforddwr sy'n rheoli pa ddolenni sy'n ymddangos yn newislen y cwrs.

Dewiswch ddolen Presenoldeb er mwyn gweld manylion pob cyfarfod cwrs. Gallwch weld crynodeb a gweld yn hawdd sawl cyfarfod dosbarth rydych wedi'u colli.

Gall eich hyfforddwr ddefnyddio'ch gradd presenoldeb wrth gyfrifo'ch gradd gyffredinol. Os yw'ch hyfforddwr wedi gosod cyfanswm pwysol a'i wneud ar gael, dewiswch y ddolen Meini Prawf Graddio sy'n dangos sut caiff eitemau a chategorïau eu pwysoli.