Eich hyfforddwr sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Archwilio'r panel Offer

Gall yr offer hyn ymddangos ar banel Offer ar dab Fy Sefydliad:

  • Cyhoeddiadau: Yn dangos cyhoeddiadau ar gyfer y cyrsiau rydych wedi cofrestru arnynt ac o'ch sefydliad. Mae cyhoeddiadau'n rhoi gwybodaeth bwysig, sy'n sensitif o ran amser.
  • Calendr: Mae'n arddangos digwyddiadau y mae eich hyfforddwyr wedi eu hychwanegu. Gallwch hefyd bostio digwyddiadau preifat, personol.
  • Tasgau: Cadwch olwg ar waith gyda thasgau y mae eich hyfforddwyr wedi eu hychwanegu. Gallwch hefyd ychwanegu tasgau personol.
  • Fy Ngraddau: Mae'n arddangos statws eitemau graddedig fel profion, aseiniadau, dyddiadur a chofnodion blog, a phostiadau bwrdd trafod. Pan fyddwch yn cael mynediad at dudalen Fy Ngraddau o'r panel Offer, byddwch yn gweld graddau ar gyfer pob un o'ch cyrsiau rydych wedi cofrestru arnynt.
  • Anfon E-byst: Mae rhestr o'r holl gyrsiau rydych wedi cofrestru arnynt yn ymddangos. Anfon negeseuon e-bost i gyfeiriadau e-bost allanol aelodau eraill o'r cwrs.
  • Cyfeiriadur Defnyddwyr: Mae'n rhestru defnyddwyr o fewn Blackboard Learn. Mae defnyddwyr yn ymddangos yma dim ond os ydynt wedi dynodi eu bod eisiau cael eu cynnwys ar dudalen Gosod Opsiynau Preifatrwydd.
  • Llyfr Cyfeiriadau: Cadwch wybodaeth gyswllt yn y llyfr cyfeiriadau. Mae'r llyfr cyfeiriadau yn wag tan eich bod yn creu cysylltiadau. Mae rhaid i chi greu proffil ar gyfer unrhyw un rydych eisiau ei ychwanegu at y llyfr cyfeiriadau hyd yn oed os yw'r cyswllt yn ddefnyddiwr Blackboard Learn.
  • Gwybodaeth Bersonol: Cyrchwch a golygwch eich gwybodaeth bersonol sy'n ymddangos i ddefnyddwyr eraill. Gallwch hefyd newid eich cyfrinair, gosod eich opsiynau preifatrwydd a phersonoli eich gosodiadau.
  • Nodau: Os yw wedi'i galluogi gan eich sefydliad, gallwch gael mynediad at y Dangosfwrdd Perfformiad Nod yn y panel Offer.