Mae Gwedd 360° yn rhoi'r holl wybodaeth a gedwir am unrhyw ddarn o gynnwys yn y Casgliad o Gynnwys i chi. Gallwch ddysgu holl nodweddion sylfaenol yr eitem, gwybodaeth am ddolenni sy'n bodoli i'r eitem, ac unrhyw fetaddata sy'n gysylltiedig â'r eitem. Defnyddiwch Wedd 360° os oes angen i chi wybod yn sydyn pwy oedd yr olaf i olygu eitem, beth yw'r ddolen URL barhaol ac unrhyw sylwadau neu weithgarwch ffeil diweddar. Mae'r wedd hon yn ddefnyddiol os ydych am edrych ar yr holl wybodaeth am eitem mewn un lleoliad.
Gallwch gael mynediad at Wedd 360° eitem trwy ddethol yr opsiwn hwn yn newislen yr eitem. Mae tudalen Gwedd 360° yn cynnwys y wybodaeth hon am eitem:
- Tabl Cynnwys
- Priodweddau
- Sylwadau
- Fersiynau
- Cofnodion Catalog Gwrthrychau Dysgu
- Caniatadau
- Caniatâd
- Dolenni
- Olrhain Data
- Metaddata