Gallwch ddefnyddio trwyddedau i rannu ffeil neu ffolder â defnyddiwr sydd heb fynediad at y Casgliad o Gynnwys. Mae pasys yn fodd diogel o gydweithio ar brosiectau gydag eraill y tu allan i'r sefydliad gan fod y mynediad yn benodol ac yn cael ei reoli.
Ynglŷn â phasys
Mae trwydded yn creu URL er mwyn i ddefnyddwyr allanol gael mynediad at ffeil neu ffolder yn y Casgliad o Gynnwys. Gallwch gyfyngu pasys trwy bennu amser neu ddyddiad pan fyddant yn dod i ben. Gallwch hefyd reoli breintiau pasys er mwyn i ddefnyddwyr allanol - defnyddwyr heb fynediad at system Blackboard - allu cydweithio ar waith neu weld ffeil neu ffolder heb ei newid.
Caiff y pasys eu rhestri mewn tabl ar dudalen Rheoli Pasys. Mae pob rhes yn cynrychioli un pas ac yn cynnwys y wybodaeth hon:
- Y dyddiad a'r amser pan fydd y pas yn dod i ben.
- Y caniatadau a neilltuwyd i’w pas. Mae tic gwyrdd yn cynrychioli caniatâd sy'n gysylltiedig â phas.
- URL y drwydded fydd yn caniatáu i'r sawl y tu allan i'r Casgliad o Gynnwys gael mynediad at y cynnwys.
Mae anfon pas ar gyfer ffoler yn rhoi mynediad i’r holl is-ffolderi a ffeiliau yn y ffolder ble crëwyd y pas. Mae gan dderbynwyr pas gyda mynediad darllen y gallu i weld is-ffolderi a ffeiliau. Mae gan dderbynwyr pas gyda mynediad darllen/ysgrifennu y gallu i ychwanegu a golygu ffolderi a ffeiliau.
Os oes sylwadau a rennir wedi'u galluogi ar y ffeil neu ffolder, gall y defnyddiwr gyda'r pas ddarllen y sylwadau ac ychwanegu sylwadau newydd. Os yw defnyddiwr tu allan i’r system yn ychwanegu sylw newydd, mae’r enw sy’n gysylltiedig â’r sylw yn ‘Ddienw’.
Defnyddio pas
Rhaid i berson sy'n derbyn pas gael yr eitemau hyn:
- Cyfrif e-bost
- Mynediad at y rhyngrwyd
- Rhaglen sy'n gallu agor y ffeil, er enghraifft, Microsoft Word i agor dogfen Microsoft Word.
Creu pas
- Llywiwch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffeil neu ffolder.
- Dewiswch Pasys o ddewislen yr eitem.
- Dewiswch Creu Pas.
- Dewiswch am ba hyd dylai'r pas fod yn weithredol yn Gosod Diwedd y Pas.
- Dewiswch ganiatâd ar gyfer defnyddiwr y pas.
- Dewiswch Cyflwyno.
Yn dechnegol, daw pas heb ddyddiad terfyn i ben ar Ionawr 1, 2038. Nid yw defnyddwyr yn gallu pennu cyfnod sy'n mynd heibio'r dyddiad hwn.
E-bostio pas
Ar ôl i chi greu pas, gallwch ei rannu gyda defnyddwyr allanol trwy'r dudalen E-bostio Pas. Gallwch anfon neges e-bost at ddefnyddwyr allanol gyda'r URL i gael mynediad at ffeil neu ffolder y Casgliad o Gynnwys.
- Llywiwch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffeil neu ffolder.
- Dewiswch Pasys o ddewislen yr eitem.
- Dewiswch y blwch ticio nesaf at bas i ddewis y botwm E-bostio Pas.
- Neu, gallwch ddewis E-bostio Pas o ddewislen yr eitem.
- Nodwch y wybodaeth ar y dudalen E-bostio Pasys.
- Os ydych wedi rhoi caniatâd darllen yn unig i'r defnyddiwr allanol, bydd gennych yr opsiwn i Anfon dudalen Gwybodaeth y Ffeil i dderbynyddion. Ticiwch y blwch hwn os ydynt eisiau gwneud hynny.
- I anfon y neges, dewiswch Cyflwyno.
Os ydych wedi rhoi caniatâd darllen yn unig i ddefnyddwyr i'r eitem, mae gennych dau opsiwn o ran cysylltu'r llwybr URL. Gallwch ffurfweddu'r URL i anfon defnyddwyr yn uniongyrchol i'r ffeil neu gael dolen i'r dudalen gyda gwybodaeth ar y ffeil. Mae tudalen wybodaeth y ffeil yn darparu mynediad i’r eitem ac i unrhyw sylwadau a rennir.
Os ydych wedi rhoi caniatâd darllen ac ysgrifennu i ddefnyddwyr i'r eitem, bydd yr URL yn eu cyfeirio i'r dudalen gyda gwybodaeth ar y ffeil. Gall y defnyddwyr gael mynediad at y ffeil o'r dudalen hon, neu gallant gael mynediad at wybodaeth ychwanegol megis sylwadau a fersiynau a rennir.