Sut ydw i'n chwilio?
Gallwch chwilio’r cynnwys sydd ar gael i chi yn y Casgliad Cynnwys.
Gweld ffeiliau a ffolderi nad sydd wedi'u harddangos yn y goeden ffolderi. Mae'n bosib bod caniatâd darllen wedi cael ei roi i chi ar gyfer ffeil neu ffolder nad sydd wedi'i harddangos yn eich coeden ffolderi neu wedd llwybrau byr. Defnyddiwch feini prawf chwilio, megis enw'r ffeil neu ffolder neu enw defnyddiwr y person a greodd y ffeil, er mwyn dod o hyd i'r eitem.
Darganfod gwybodaeth. Defnyddiwch y chwilio i ddod o hyd i wybodaeth am bwnc penodol, wedi'i ysgrifennu gan ddefnyddiwr penodol, neu gyda metaddata penodol.
Mae pob chwiliad yn sensitif i faint llythrennau. Mae chwiliadau'n anwybyddu priflythrennau a llythrennau bach ac yn dychwelyd yr un canlyniadau.
Chwilio'n gyflym o'r ddewislen Chwilio yn newislen y Casgliad o Gynnwys. Gallwch ddefnyddio Chwiliad Sylfaenol neu Uwch Chwiliad. Gallwch gadw chwiliadau a'u cynnal tro ar ôl tro yn y dudalen Chwiliadau a Gadwyd. Gall defnyddwyr hefyd chwilio mewn portffolios ac eitemau portffolios.
Chwilir eitemau Casgliad o Gynnwys a atodwyd i bortffolios yn ystod chwiliad sylfaenol neu fanwl. Ni ellir dod o hyd i bortffolios cyfan ac eitemau portffolios, megis tudalennau croeso a thudalennau eitemau, gan ddefnyddio chwiliadau sylfaenol ac uwch chwiliadau. Defnyddiwch y chwiliad portffolio i leoli'r eitemau hyn.
Chwiliadau 'clyfar'
Mae pob chwiliad yn seiliedig ar eich caniatâd ar ffeil neu ffolder. Os nad oes gennych ganiatâd darllen ar eitem, ni fyddwch yn ei weld yng nghanlyniadau'r chwilio, hyd yn oes os yw'n cyd-fynd â'r meini prawf chwilio. Os oes caniatâd ychwanegol yn bodoli ar ffeil neu ffolder, mae'r caniatâd yn berthnasol i'r ffeil neu ffolder yna os ydych yn ei agor o'r canlyniadau chwilio.
Canlyniadau 'A'
Gallwch deipio meini prawf mewn blychau chwilio lluosog i greu chwiliad 'A'. Rhaid i eitem fodloni'r holl feini prawf er mwyn cael ei dychwelyd yng nghanlyniadau'r chwilio. Mae pob un o'r meini prawf yn culhau'r chwiliad.
Rhaid cael meini prawf mewn un blwch yn unig er mwyn chwilio.
Meini prawf chwilio
Mae'r wybodaeth hon yn ddefnyddiol pan rydych yn chwilio yn y Casgliad o Gynnwys:
- Rhaid i chi deipio o leiaf un term ar y dudalen chwilio.
- Os ydych yn teipio geiriau lluosog mewn chwiliad, bydd yr ymholiad yn dychwelyd y ffeiliau hynny sy'n cynnwys yr holl eiriau a nodwyd yn unig.
- Gallwch ddefnyddio chwiliadau cardiau gwyllt wrth chwilio mewn cynnwys ffeiliau. Er enghraifft, os byddwch yn teipio "chwilio*", bydd eitemau gyda "chwilio" a "chwiliadau" yn y cynnwys yn cael eu dychwelyd. Ni allwch chwilio am rannau o eiriau yn y sefyllfa hon.
- Gallwch chwilio am rannau o eiriau wrth chwilio mewn enwau ffeiliau. Er enghraifft, os byddwch yn teipio "chwiliadau", bydd eitemau gyda "chwilio" yn enw'r ffeil yn cael eu dychwelyd. Ni allwch ddefnyddio chwiliadau cardiau gwyllt yn y sefyllfa hon.
- Gallwch deipio estyniad ffeil yn y blwch Enw Ffeil neu Ffolder i ddychwelyd ffeiliau ar gyfer un math o estyniad. Er enghraifft, teipiwch ".xls" i ddychwelyd ffeiliau Excel yn unig.
Chwiliadau cardiau gwyllt, agosrwydd a lled-debyg
Mae'r wybodaeth hon yn ddefnyddiol pan fyddwch yn cynnal chwiliadau nod chwilio, agosrwydd a lled-debyg yn y Casgliad o Gynnwys. Defnyddiwch y mathau hyn o chwiliadau pan fyddwch yn chwilio mewn cynnwys ffeiliau yn unig, nid pan fyddwch yn chwilio mewn enwau ffeiliau.
- Gallwch berfformio chwiliad cerdyn gwyllt trwy ychwanegu seren ( * ) yng nghanol neu ar ddiwedd eich termau chwilio. Defnyddiwch nhw i ddod o hyd i derm pan mae un nod yn ddadleuol. Er enghraifft, ychwanegwch "sa*th" os ydych yn edrych am saeth neu saith. Neu, os oes nodau lluosog yn ddadleuol. Er enghraifft, ychwanegwch "saeth*" pan rydych yn edrych am amrywiadau o'r gair megis saethau.
- Ni allwch ddefnyddio seren ( * ) fel y nod cyntaf mewn chwiliad oherwydd bydd hyn yn dychwelyd pob eitem yn y Casgliad o Gynnwys.
- Gallwch wneud chwiliad lled-debyg trwy ychwanegu tild ( ~ ). Er enghraifft, gallwch chwilio am derm gyda sillafiad tebyg i "aseiniad". Math: aseiniad~
- Gallwch chwilio am eiriau o fewn agosrwydd penodol at ei gilydd trwy ychwanegu tild ( ~ ). Er enghraifft, gallwch chwilio am "hanes" a "profion" o fewn 10 gair o'i gilydd mewn dogfen. Math: "hanes profion"~10
Chwiliadau Boolean
Gallwch ddefnyddio'r gweithredwyr Boolean hyn i chwilio yn y Casgliad o Gynnwys: A, NEU, NID, "-", "+". Rhaid i chi deipio gweithredwyr Boolean mewn PRIFLYTHRENNAU. Gallwch ddefnyddio cromfachau i grwpio cymalau a llunio is-ymholiadau mewn chwiliadau.
- Gweithredwr NEU: Mae gweithredwr NEU yn cysylltu dau derm ac yn chwilio am ddogfen gyfatebol os yw'r naill derm neu'r llall yn bodoli yn y ddogfen. Gallwch ddefnyddio symbol "ll" yn lle'r gair NEU. Er enghraifft, i chwilio am ddogfennau sy'n cynnwys naill ai "hanes profion" neu "profion" yn unig, defnyddiwch un o'r ymholiadau hyn: "test history" ll test, "test history" OR test
- Gweithredwr A: Mae'r gweithredwr A yn cyfateb dogfennau pan fo'r ddau derm yn bodoli unrhyw le yn nhestun dogfen unigol. Gallwch ddefnyddio symbol "&" yn lle'r gair A. Er enghraifft, i chwilio am ddogfennau sy'n cynnwys "hanes profion" a "prawf hanes", defnyddiwch un o'r ymholiadau hyn: "test history" && "history test", "test history" AND "history test"
- Gweithredwr NID: Mae'r gweithredwr DIM yn eithrio dogfennau sy'n cynnwys term arbennig. Gallwch ddefnyddio symbol "!" yn lle'r gair NID. Er enghraifft, i chwilio am ddogfennau sy'n cynnwys "prawf hanes" ond nid "prawf calcwlws", defnyddiwch un o'r ymholiadau hyn: "history test" ! "calculus test", "history test" NOT "calculus test"
- Gweithredwr +: Mae gweithredwr + yn gofyn bod y term ar ôl y + yn bodoli rhywle yn nhestun un ddogfen. Er enghraifft, i chwilio am ddogfen sy'n cynnwys "prawf" ac y gallai fod yn cynnwys "hanes", defnyddiwch yr ymholiad hwn: +test history
- Gweithredwr -: Bydd gweithredwr - yn gadael allan dogfennau sy'n cynnwys term penodol. Er enghraifft, i chwilio am ddogfennau sy'n cynnwys "prawf hanes" ond nid "aseiniad hanes", defnyddiwch yr ymholiad hwn: history test - assignment
- Grwpio: Gallwch ddefnyddio cromfachau i grwpio cymalau i lunio is-ymholiadau o fewn chwiliad. Er enghraifft, i chwilio am naill ai "hanes" neu "chwyldro" a "prawf", defnyddiwch yr ymholiad hwn: (history OR revolution) AND test
Chwiliadau sylfaenol
Gallwch ddefnyddio chwiliad sylfaenol i chwilio'r gyflym am eitemau'r Casgliad o Gynnwys gyda nifer gyfyngedig o feini prawf chwilio. Caiff enw'r ffeil a'r holl fetaddata sy'n gysylltiedig â'r ffeil eu cynnwys yn awtomatig yn y chwiliad.
Mae'r chwiliad sylfaenol yn cynnwys dau opsiwn:
Opsiwn | Disgrifiad |
---|---|
Meini Prawf Chwilio | |
Chwilio Cynnwys y Ffeil | Dewiswch y blwch ticio hwn i chwilio drwy gynnwys y ffeiliau eu hun. |
Chwilio o | Dewiswch ffolder i chwilio yn y Casgliad o Gynnwys. I ddewis lleoliad, dewiswch Pori. Gallwch edrych trwy'r ffolderi yn y Casgliad o Gynnwys. Pan fyddwch yn dod o hyd i un lle rydych eisiau chwilio, dewiswch fotwm y radio nesaf at enw'r ffolder. Ni all mwyafrif y defnyddwyr chwilio o gyfarwyddiaduron lefel uchaf, megis /llyfrgell neu /cyrsiau. Mae angen y breintiau priodol ar eich rôl yn y system er mwyn chwilio yn y cyfarwyddiaduron lefel uchaf. |
Uwch chwiliadau
Mae'r Uwch Chwiliad yn cynnwys yr un opsiynau â chwiliad sylfaenol ynghyd â'r opsiynau hyn:
- Gallwch chwilio am ganlyniadau mwy gronynnog gyda opsiynau a metaddata ychwanegol.
- Gallwch gadw meini prawf chwilio ac ail-redeg yr un chwiliad o'r dudalen Chwiliadau a Gadwyd.
- Gallwch ddefnyddio Chwilio Cynnwys Ffeiliau. Yr un opsiwn chwilio yw Chwilio Cynnwys y Ffeil ag a roddwyd yn y Chwilio Sylfaenol. Os yw ffeil yn cynnwys y meini prawf a ychwanegwyd, bydd y ffeil yn ymddangos yn y canlyniadau.
- Gallwch ddefnyddio Chwilio Sylwadau Ffeiliau. Os yw ffeil yn cynnwys sylwadau arni sy'n bodloni meini prawf y chwiliad, bydd y ffeil yn ymddangos yn y canlyniadau. I edrych ar sylwadau ar ffeil, rhaid Rhannu sylwadau (nid Preifat), neu rhaid bod caniatâd Rheoli gan y defnyddiwr ar y ffeil.
Opsiynau chwilio ychwanegol
Gallwch ddefnyddio opsiynau chwilio ychwanegol er mwyn culhau canlyniadau'r chwilio i feini prawf mwy penodol. Mae pob un o'r meini prawf ychwanegol yn culhau'r chwiliad.
Gall sefydliadau ddefnyddio metadata mewn modd cydgysylltiedig i wneud dod o hyd i gynnwys yn haws. Er enghraifft, gall lyfrgellwyr ddefnyddio metaddata'n gyson i deipio gwybodaeth ar bwnc neu enw defnyddiwr. Yna, gall myfyrwyr chwilio am wybodaeth gyfredol, yr holl ddogfennau gan awdur penodol, neu unrhyw feini prawf arall.
Aliniadau
Chwiliwch am gynnwys yn ôl aliniadau nod. Dewiswch Y Cwbl neu Yr holl nodau a ddewiswyd neu Pori Nodau.
Metaddata
Teipiwch unrhyw fetadata y gwyddys amdano yn y meysydd a ddarperir.
Cadw chwiliad
Mae'r dudalen Chwiliadau a Gadwyd yn storio chwiliadau er mwyn i chi allu eu defnyddio eto. Gallwch gadw chwiliad pan fyddwch yn creu chwiliad ar y dudalen Uwch Chwiliadau neu ar y dudalen Chwilio Portffolios. Gallwch hefyd gadw chwiliad yn y dudalen Canlyniadau Chwilio.
Gallwch gadw chwiliad rydych eisiau ei redeg yn rheolaidd. Gallwch rannu chwiliadau a gadwyd gyda defnyddwyr eraill.
Rhannu chwiliadau a gadwyd
- O'r panel Cynnwys Chwiliad, dewiswch Chwiliadau a Gadwyd.
- Ar y dudalen Chwiliadau a Gadwyd, dewiswch y cofnod yng ngholofn URL Chwiliad y chwiliad priodol.
- Copïwch y cofnod hwnnw.
- Agorwch ffenestr pori newydd.
- Gludwch y cofnod a gopïwyd i mewn i faes y cyfeiriad a phwyswch y fysell Enter. Bydd y dudalen Cynnwys Chwiliad yn ymddangos.
Ail-redeg chwiliad
Dewiswch enw chwiliad a gadwyd i weld canlyniadau'r chwiliad. Bydd y chwiliad hwn yn rhedeg o'r newydd bob tro i chi ei dewis. Bydd canlyniadau'r chwiliad yn newid os ychwanegwyd ffeil neu ffolder sy'n cwrdd â'r meini prawf, os tynnwyd ffeil neu ffolder, neu os newidiwyd y caniatâd i'r ffeil.
Gallwch roi nodau tudalen ar y ffeil neu ffolder un uniongyrchol o'r dudalen Canlyniadau Chwilio a chael mynediad ato nes ymlaen yn y dudalen Nodau Tudalen.
Rheoli'ch chwiliadau
Gallwch olygu chwiliad. Ewch i ddewislen y chwiliad a dewiswch Golygu i newid meini prawf y chwiliad. Mae'r tudalen lle cychwynnwyd y chwiliad yn agor ac yn dangos y meini prawf chwilio cyfredol. Os mai chwiliad sylfaenol oedd y chwiliad a gadwyd, bydd y meini prawf yn ymddangos ar y dudalen Uwch Chwiliad a gallwch eu golygu o'r dudalen honno. Golygwch unrhyw feini prawf a dewiswch Cyflwyno.
Gallwch ddileu chwiliad o'r ddewislen chwilio.