Mae rhoi caniatâd yn caniatáu i ddefnyddwyr unigol, mathau o ddefnyddwyr a grwpiau i wneud pethau penodol gyda'ch eitemau, megis darllen, ysgrifennu neu dynnu. Defnyddiwch ganiatâd i reoli pwy all weld a newid eich ffeiliau a ffolderi. Yn yr un modd, gall eich hyfforddwr ddefnyddio caniatâd i reoli'r cynnwys y gallwch chi a chyfranogwyr eraill yn y cwrs ei weld a golygu.

Beth yw caniatâd?

Ar ôl ychwanegu cynnwys i'r Casgliad o Gynnwys, mae'n rhaid rhoi caniatâd i wneud y cynnwys ar gael i ddefnyddwyr a grwpiau o ddefnyddwyr. Mae caniatâd yn caniatáu i ddefnyddwyr wneud gweithrediadau penodol ar eitemau yn y Casgliad o Gynnwys, sy’n amrywio o fynediad darllen yn unig, i olygu, rheoli a thynnu cynnwys. Gallwch ffurfweddu caniatâd ar gyfer ffeiliau unigol neu ar gyfer ffolderi cyfan ynghyd â holl gynnwys y ffolder. Gall sawl caniatâd weithio gyda'i gilydd felly mae'n bwysig deall beth mae pob lefel o fynediad yn ei olygu.

Os ydych yn creu dolen i'ch eitemau y tu allan i'r Casgliad o Gynnwys, sicrhewch eich bod yn rhoi caniatâd i'r defnyddwyr priodol er mwyn i'r dolenni weithio. Heb ganiatâd i weld yr eitem, mae defnyddwyr yn gweld neges Gwrthodwyd Caniatâd os ydynt yn dilyn dolen i'r eitem mewn cwrs neu bortffolio.


Mathau o ganiatâd

Caniatâd y Casgliad o Gynnwys:

  • Darllen: Gall defnyddwyr weld ffeiliau a ffolderi.
  • Ysgrifennu: Gall defnyddwyr wneud newidiadau i ffeiliau a ffolderi.
  • Tynnu: Gall defnyddwyr dynnu ffeiliau o’r ffolder neu'r ffolder ei hun.
  • Rheoli: Gall defnyddwyr reoli priodweddau a gosodiadau ffeiliau a ffolderi.

Pan fydd defnyddiwr yn chwilio am ffeiliau neu ffolderi neu'n ceisio trin ffeiliau neu ffolderi—er enghraifft, gan ddefnyddio copïo, symud, neu dynnu—gall y defnyddiwr weld a newid cynnwys yn seiliedig ar y caniatâd cyfredol yn unig. Er enghraifft, os yw defnyddiwr yn chwilio am eitem nad oes ganddynt ganiatâd Darllen iddi, ni fydd yr eitem yn ymddangos yn y canlyniadau chwilio.


Caniatâd diofyn

Mae gan rai defnyddwyr ganiatâd rhagosodedig i ffolderi penodol. Yn yr achos hwn, rhoddir caniatâd amrywiol yn awtomatig i ffolderi penodol.

  • Ffolderi defnyddwyr: Mae'r ffolderi hyn yn ymddangos o dan Fy Nghynnwys yn newislen y Casgliad o Gynnwys. Mae gan ddefnyddwyr ganiatâd Darllen, Ysgrifennu, Tynnu a Rheoli ar gyfer eu ffolderi eu hunain. Mae'r gweinyddwr yn pennu argaeledd y ffolderi hyn ar sail system gyfan.
  • Ffolderi cyrsiau: Mae'r ffolderi hyn yn ymddangos dan yr ardal Cyrsiau yn newislen y Casgliad o Gynnwys a’u defnyddir i storio cynnwys ar gyfer cyrsiau penodol. Mae gan Hyfforddwyr, Cynorthwywyr Dysgu ac Adeiladwyr Cyrsiau ganiatâd Darllen, Ysgrifennu, Tynnu a Rheoli ar gyfer y ffolderi yn eu cyrsiau. Crëir ffolder y cwrs yn awtomatig y tro cyntaf i un o'r defnyddwyr hyn gael mynediad at y Casgliad o Gynnwys. Nid yw defnyddwyr eraill y cwrs, megis myfyrwyr, sydd wedi cofrestru ar gwrs yn gweld y ffolder hon oherwydd mae wedi'i bwriadu fel man gweithio ar gyfer datblygwyr cwrs. Rhaid i fyfyrwyr gael caniatâd darllen er mwyn cael mynediad at ffolder cwrs. Mae ffolderi defnyddwyr sefydliad yn gweithredu yn yr un modd â ffolderi cwrs.
  • Ffolderi Sefydliad a Chynnwys y Llyfrgell: Mae gan bob defnyddiwr gyda chyfrif ar y system ganiatâd darllen i'r ffolderi hyn.
  • Ffolderi cwrs gydag eGronfeydd: Mae gan bob defnyddiwr sydd wedi cofrestru ar gwrs ganiatâd darllen ar gyfer ffolder penodol y cwrs yn yr eGronfeydd.

Rhoi a derbyn caniatâd

Gall unrhyw ddefnyddiwr gyda chaniatâd Darllen a Rheoli ar ffeil neu ffolder roi caniatâd i ddefnyddwyr eraill a rhestri defnyddwyr.

Gellir rhoi un caniatâd neu ragor i ddefnyddwyr a grwpiau o ddefnyddwyr. Er enghraifft, gellir rhoi caniatâd Darllen ar gyfer eitem i restr gyfan cwrs. Gall y perchennog roi caniatâd ychwanegol i ddefnyddwyr unigol o fewn rhestr y cwrs. Gellir golygu caniatâd ar gyfer is-ffolderi a ffeiliau o fewn ffolder.

Rheoli caniatâd

Rheolir mynediad defnyddiwr at ffeil neu ffolder trwy'r dudalen Rheoli Caniatâd. Gallwch roi caniatâd i ddefnyddwyr yn unigol, i grwpiau neu yn ôl rôl.

Rhagor am reoli caniatâd ar gyfer eitemau yn y Casgliad o Gynnwys

Pan gaiff caniatâd ei roi ar gyfer ffolder, mae hefyd yn berthnasol i'r holl is-ffolderi o fewn y ffolder.