Mae copïo ffeil neu ffolder yn creu copi manwl gywir o'r eitem. Gallwch gopïo'r ffeil neu ffolder i'r un lleoliad, ond bydd enw'r eitem yn newid ac ychwanegir "Copi o" at y dechrau. Os byddwch yn copïo'r eitem i leoliad newydd, bydd enw'r eitem neu ffolder yn aros yr un fath. Os yw enw'r ffeil neu ffolder a gopïwyd yn cyd-fynd ag enw ffeil neu ffolder yn y ffolder newydd, bydd y Casgliad o Gynnwys yn gofyn i chi gadarnhau eich bod am ddisodli'r eitem.

Gallwch ddewis ffeiliau a ffolderi lluosog i'w copïo, gan ei wneud yn hawdd rhannu cynnwys rhwng ffolderi.

Mae symud ffolderi a ffeiliau'n newid lleoliad yr eitem. Gallwch ddewis eitemau a ffolderi lluosog i'w symud er mwyn symud sypiau mawr o gynnwys yn hawdd i leoliadau newydd.


Caniatadau

I gopïo eitem, mae angen i chi gael caniatâd darllen ac ysgrifennu ar gyfer y ffeil a'r ffolder derbyn. I symud eitem, rhaid i chi gael caniatâd darllen, ysgrifennu a thynnu ar gyfer y ffeil a'r ffolderi rydych yn symud y cynnwys rhyngddynt.


Copïo ffeil neu ffolder

  1. Yn y Casgliad o Gynnwys, ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffeil neu ffolder rydych eisiau ei gopïo.
  2. Dewiswch y blwch ticio nesaf at yr eitem a dewiswch Copïo. Gallwch hefyd gael mynediad at yr opsiwn Copïo yn newislen yr eitem.
  3. Nodwch y llwybr i'r ffolder derbyn neu dewiswch Pori i leoli a dewis y ffolder derbyn.
  4. Dewiswch y blwch ticio i ddisodli eitemau yn y ffolder derbyn sy'n rhannu'r un enw ag unrhyw eitemau rydych yn eu copïo i'r ffolder derbyn.
  5. Dewiswch Cyflwyno.

Symud ffeil neu ffolder

  1. Yn y Casgliad o Gynnwys, ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffeil neu ffolder rydych eisiau ei symud.
  2. Dewiswch y blwch ticio nesaf at yr eitem a dewiswch Symud. Gallwch hefyd gael mynediad at opsiwn Symud yn newislen yr eitem.
  3. Nodwch y llwybr i'r ffolder derbyn neu dewiswch Pori i leoli a dewis y ffolder derbyn.
  4. Dewiswch y blwch ticio i ddisodli eitemau yn y ffolder derbyn sy'n rhannu'r un enw ag unrhyw eitemau rydych yn eu copïo i'r ffolder derbyn.
  5. Dewiswch Cyflwyno.