Defnyddir y llyfrgell i bostio eReserves, llawysgrifau electronig, ac adnoddau eraill y sefydliad. Mae wedi ei integreiddio'n gyfan gwbl gyda Blackboard Learn, gan wneud y Llyfrgell yn ffordd bwerus ac hygyrch i rannu a dosbarthu deunyddiau.

Yn ôl rhagosodiad, mae dau brif faes o fewn y Llyfrgell:

  • Cynnwys y Llyfrgell
  • eReserves

Cynnwys llyfrgell

Gellir trefnu ardal Cynnwys y Llyfrgell yn ôl anghenion penodol eich sefydliad, ac fe'i bwriedir ar gyfer cynnwys a rennir ar draws y sefydliad cyfan. Yn ôl rhagosodiad, mae gan ddefnyddwyr fynediad darllen i bob eitem yn ffolder Cynnwys y Llyfrgell.


eGronfeydd

Mae'r ardal eGronfeydd yn ffolder yn y llyfrgell sy’n cynnwys deunyddiau y mae mynediad atynt dan reolaeth, fel dogfennau â hawlfreintiau. Nid yw eGronfeydd ar gael ar gyfer mudiadau, ac mae'n bosibl eu bod ar gael ar gyfer cyrsiau yn unig

Trefnir eGronfeydd yn awtomatig gan gwrs. Mae gan bob cwrs yn Blackboard Learn ffolder cwrs cyfatebol yn eGronfeydd. Caiff ffolder cwrs ei chreu'n awtomatig yn yr eGronfeydd pan fydd hyfforddwr, cynorthwyydd dysgu, neu adeiladwr cwrs yn cael mynediad at y Casgliad o Gynnwys am y tro cyntaf mewn cwrs newydd. Er enghraifft, os hoffai hyffordder dosbarth hanes greu ffolder yn yr eGronfeydd, byddai rhaid iddo neu iddi ddewis y ffolder yn yr eGronfeydd. Bydd ffolder gydag ID y cwrs y dosbarth hanes yn ymddangos yn awtomatig ym maes eReserves.

Gall gweinyddwyr hefyd gynhyrchu cyfeiriadur yr eGronfeydd yn awtomatig.

Mae'r eGronfeydd yn caniatáu i lyfrgellwyr drefnu bod cynnwys ar gael i ddefnyddwyr trwy gydol Blackboard Learn.


Caniatâd cynnwys yr eGronfeydd

Os ydych wedi cofrestru ar gwrs a'i bod ar gael, gallwch weld cynnwys y ffolder gyfatebol yn yr eGronfeydd.

Ni all gwesteion ac arsylwyr weld y cynnwys yn ffolderi'r eGronfeydd, hyd yn oed os ydynt yn gysylltiedig â chwrs sydd ar gael.

Gall hyfforddwyr ddarllen cynnwys yr eGronfeydd a'i ychwanegu at eu cyrsiau, ond nid allant ei olygu neu ei dileu.

Y llyfrgellydd yw'r unig berson all ychwanegu neu olygu cynnwys yn yr eGronfeydd. Mae'r gweinyddwr yn pennu llyfrgellydd yr eGronfeydd trwy roi caniatâd iddynt ddarllen, ysgrifennu, tynnu a rheoli'r cynnwys hwn.


Agor eGronfeydd

Gallwch ddod o hyd i'r eGronfeydd yn y Casgliad o Gynnwys trwy fynd i Cynnwys y Llyfrgell > eGronfeydd.

Mae opsiwn Canfod Ffolder yn ei wneud yn syml iawn i lyfrgellwyr yr eGronfeydd gael mynediad at ffolderi cwrs yn yr eGronfeydd. Gan ddefnyddio'r offeryn hwn, gall y llyfrgellydd ddewis y ffolderi cwrs eGronfa y mae ganddynt ganiatâd ar eu cyfer a'u harddangos yn newislen y Casgliad o Gynnwys.

Os yw'r llyfrgellydd wedi ymrestru ar y cwrs, mae ffolderi cwrs yn ymddangos yn awtomatig yn ardal eGronfeydd y llyfrgellydd.