Nod Blackboard Learn yw darparu llwyfan hygyrch i fyfyrwyr a hyfforddwyr i gael mynediad cyfartal i gyrsiau ar-lein. Mae gan hyfforddwyr rywfaint o gyfrifoldeb i wneud eu cynnwys cwrs yn hygyrch. Mae angen i fyfyrwyr ofyn am gymwysiadau os ydynt eu hangen. Dysgwch sut allwch chi greu a chymryd rhan mewn profiadau dysgu cynhwysol trwy ddefnyddio’r nodweddion hygyrchedd yn Blackboard Learn.
Mae Blackboard yn gwbl ymroddedig i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau yn ein platfform i ddefnyddwyr ag anableddau a’i fod yn ymarferol a hygyrch i bawb, beth bynnag eu hoed, gallu, neu sefyllfa. Mae Blackboard yn mesur ac yn gwerthuso lefelau hygyrchedd gan ddefnyddio dwy set o safonau: Adran 508 o'r Ddeddf Ailsefydlu a gyhoeddwyd gan lywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau a Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG 2.1) a gyhoeddwyd gan Gonsortiwm y We Fyd-Eang (W3C).
Mae'r adnoddau cysylltiedig ar gael yn y Saesneg yn unig.
Dylunio cynnwys hygyrch
Mae’r rhestr ganlynol yn cynnwys y pum prif beth sydd angen i chi wybod am gynllunio cynnwys hygyrch:
- Os ydych yn ychwanegu delweddau at eich cynnwys, rhaid i chi ddiffinio testun amgen (alt) ar eu cyfer. Dylai’r testun alt fod yn syml a chryno, a disgrifio yn union beth yw’r ddelwedd. Enghraifft alt="photograph of a Cell Dividing." Os yw delwedd yn ddiagram sy’n cyfleu gwybodaeth fwy cymhleth, mae angen disgrifiad hir neu fformat testunol o’r deunydd.
- Os ydych yn ychwanegu fideo neu gynnwys amlgyfrwng arall at eich cwrs, mae rhaid i chi gynnwys penawdau disgrifiadol ar gyfer y cynnwys i sicrhau y gall defnyddwyr â nam ar eu clyw ei ddefnyddio.
- Un o'r prif gwynion gan fyfyrwyr â nam ar eu golwg yw nad oes modd iddynt darllen ffeiliau wedi'u hatodi. Fformatiwch ddogfennau a atodir gyda phenawdau priodol er mwyn sicrhau bod darllenwyr sgrin yn gallu eu darllen yn gywir. Wrth greu'ch dogfennau, defnyddiwch yr opsiynau Fformatio ac Arddull sydd ar gael yn Microsoft Office, Adobe, neu offer prosesu geiriau eraill i ddiffinio penawdau a rhestri priodol.
- Tagiwch ffeiliau PDF a atodwyd yn briodol i sicrhau y gall darllenwyr sgrin ddarllen eu strwythurau. Defnyddiwch ddulliau syml ar gyfer "argraffu" neu "cadw" i PDF i greu un ddelwedd o'r ffeil. Er bod y ddogfen yn edrych fel ei bod wedi ei strwythuro’n briodol, nid yw’r darllenydd sgrin yn gallu rhyngweithio gyda na darllen y deunydd. I ddysgu mwy am wneud dogfennau PDF hygyrch, edrychwch ar Bodloni Safonau Hygyrchedd PDF ar wefan Adobe Acrobat.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu disgwyliadau, hyfforddiant, a chyfarwyddiadau clir i’ch myfyrwyr ar gyfer pob aseiniad a phrawf. Gall myfyrwyr sydd â namau gwybyddol neu anableddau dysgu gael anhawster ffocysu ar dasgau syml hyd yn oed. Gall cyfarwyddiadau clir a disgwyliadau dealladwy eu helpu i ffocysu, gan eu gwneud yn fwy tebygol o lwyddo.
Defnyddio Blackboard Learn gyda nam ar y clyw
Nid yw cynnyrch Blackboard Learn yn awto-gapsiynu ffeiliau cyfryngau, ond mae'n darparu cefnogaeth lawn ar gyfer capsiynau ym mhob math o gyfrwng y gallwch eu llwytho neu weld o fewn cynnwys eich cwrs.
Defnyddio Blackboard Learn gyda nam ar y golwg
Mae’r rhestr ganlynol yn cynnwys y pum prif beth i wybod am ddefnyddio Blackboard gyda nam ar y golwg:
- Datblygwyd Blackboard Learn yn erbyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We W3C er mwyn sicrhau cydnawsedd gyda fersiynau diweddaraf technolegau cynorthwyol gan gynnwys darllenwyr sgrin megis JAWS a VoiceOver.
- Mae tudalennau yn Blackboard Learn yn dilyn strwythur cyffredin i sicrhau eich cynefindra i chi wrth i chi lywio trwy’r system. Defnyddir cyfuniad o benawdau a thirnodau ARIA i ddiffinio strwythur y dudalen. Mae nodweddion megis y ddewislen llywio gyffredinol a Dolenni Sydyn yn gallu helpu i lywio'n gyflymach ac yn fwy effeithlon. Mae'r broses lywio ar y bysellfwrdd yn dilyn modelau cyffredin a ddefnyddir i lywio'r we.
- Mae nodwedd Dolenni Sydyn yn mynd y tu hwnt i'r neidio dolenni traddodiadol, gan ganiatáu i chi neidio'n uniongyrchol i unrhyw bennawd neu dirnod ARIA ar y dudalen gyfredol. Gallwch agor Dolenni Cyflym â llwybr byr ar y bysellfwrdd (Shift+Alt+L) o unrhyw le mewn tudalen fel ei bod yn hawdd symud o gwmpas ar bob adeg.
- Defnyddir tagiau alt i nodi pob delwedd a ddefnyddir yn Blackboard Learn. Pan fydd hyfforddwyr yn adeiladu cynnwys cwrs, maent yn cael eu hysgogi i ychwanegu testun alt i ddelweddau maent yn uwchlwytho, yn ogystal ag i sicrhau bod yr wybodaeth weledol ar gael i’r holl ddefnyddwyr.
- Os oes gennych osodiadau cyferbyniad uchel ar eich cyfrifiadur, gallwch alluogi arddulliau cyferbyniad uchel ar dudalen mewngofnodi Blackboard Learn. Bydd gwneud hynny yn hysbysu’r system i barchu eich detholiadau system weithredu i sicrhau’r profiad gweledol gorau yn seiliedig ar eich anghenion personol.
Defnyddio Blackboard Learn gyda nam symudedd
Mae’r rhestr ganlynol yn cynnwys y pum prif beth i wybod am ddefnyddio Blackboard gyda nam symudedd:
- Mae llywio allweddell trwy gydol Blackboard Learn yn dilyn modelau llywio gwe cyffredin i sicrhau cysondeb a chynefindra gyda phrofiadau gwe eraill.
- Bydd dolenni cyflym yn crynhoi rhestr o’r penawdau a thirnodau ar y dudalen. Mae hyn yn eich galluogi i chwilio am a llywio at elfennau yng nghanol y dudalen yn gyflym. Gallwch agor Dolenni Cyflym â llwybr byr ar y bysellfwrdd (Shift+Alt+L) o unrhyw le yn y dudalen fel ei bod yn hawdd symud o gwmpas ar bob adeg.
- Mae llwybrau byr ar gael ar gyfer amrywiaeth o offer mewn Blackboard Learn er mwyn cynyddu effeithiolrwydd ar gyfer defnyddwyr bysellfyrddau. Mae llwybrau byr allweddell yn benodol i’r dudalen neu offeryn a ddefnyddir ar hyn o bryd. Dysgwch amdanynt trwy agor yr offeryn Dolenni cyflym (Shift+Alt+L).
- Wedi ei leoli ar bob tudalen ble gallwch aildrefnu eitemau yn defnyddio'r swyddogaeth llusgo a gollwng, mae’r offeryn aildrefnu hygyrch i allweddellau yn arddangos yr eitemau ar y dudalen fel rhestr. Gallwch ddefnyddio gorchmynion allweddell i aildrefnu’r eitemau.
Defnyddio Blackboard Learn gydag anabledd dysgu
Mae’r rhestr ganlynol yn cynnwys y pum prif beth i wybod am ddefnyddio Blackboard gydag anabledd dysgu:
- Pan fyddwch mewn cwrs, gallwch leihau’r ddewislen cwrs i gael llai o annibendod ar y dudalen ac i’ch helpu i ffocysu ar y dasg dan sylw. Dewch â'r ddewislen yn ôl ar unrhyw adeg trwy ddal eich llygoden ar ochr chwith y sgrin a dewis y bar sy'n ymddangos. Mae’r rheolaeth hefyd yn hygyrch gydag allweddell.
- Mae opsiynau dewislen, botymau a rheolyddion nad oes eu hangen ar bob adeg yn ymddangos dim ond pan mae'r eitemau sy'n gysylltiedig â hwy yn derbyn ffocws gan naill ai'r llygoden neu'r bysellfwrdd. Mae hyn yn helpu lleihau’r sŵn gweledol ar y dudalen ac yn sicrhau mynediad i’r dewislenni unwaith y byddwch eu hangen.
- Mae rhifwyr gweithgarwch o fewn y ddewislen llywio gyffredinol ac offer Fy Blackboard yn gallu eich hysbysu am eitemau neu wybodaeth newydd sydd angen eich sylw. Wrth i chi adolygu’r eitemau hyn, mae’r rhifyddion yn cael eu clirio fel eich bod yn ymwybodol ar bob adeg o beth sy’n newydd neu wedi newid ers y tro diwethaf i chi gael mynediad i’r system.
- Os yw’ch system wedi ei galluogi, gallwch sefydlu hysbysiadau unigol ar gyfer cynnwys newydd, dyddiadau dyledus newydd, hysbysiadau trafodaeth, ac eitemau eraill yn Blackboard Learn i’ch hysbysu am wybodaeth hyd yn oed pan nad ydych wedi mewngofnodi i’r system. Anfonir yr hysbysiadau hyn i chi trwy e-bost, a ddangosir mewn diweddariadau My Blackboard, neu’r Dangosfwrdd Hysbysiadau. Os yw Blackboard Connect wedi ei osod, gallwch dderbyn hysbysiadau trwy neges destun.
- Mae system Blackboard Learn yn caniatáu i hyfforddwyr bennu cymwysiadau ar gyfer profion yn seiliedig ar anghenion unigol. Os ydych angen mwy o amser, mwy o geisiadau, gwahanol opsiynau arddangos, neu leoliad profi amgen, cysylltwch â’ch hyfforddwr.
Nodweddion hygyrchedd yn Blackboard Learn
Fel myfyriwr neu hyfforddwr, mae ymwybyddiaeth a defnydd o’r nodweddion ac offer hyn yn creu amgylchedd hygyrch i sicrhau llwyddiant.
Fy Blackboard
Mae My Blackboard yn crynhoi gwybodaeth o bob rhan o’r system Blackboard Learn ac yn ffocysu ar y defnyddiwr unigol. O un lle, gall defnyddwyr gael trosolwg cyflym o bopeth sy’n ymwneud ag amrywiol offer a chyrsiau, yn ogystal â’u rhwydwaith a chymuned academaidd neu sefydliadol. Mae hyn yn galluogi defnyddwyr i ymateb, adolygu, a rhyngweithio’n uniongyrchol gyda’r wybodaeth a gyflwynir yno. Mae rhifwyr gweithgarwch yn tynnu sylw'n gyflym at eitemau sydd angen sylw defnyddiwr ers cael mynediad at Fy Blackboard ddiwethaf. Gall cael un lle symleiddio’r profiad cyffredinol i fyfyrwyr gydag anableddau a’u helpu i deimlo bod ganddynt fwy o ffocws ar y tasgau sydd angen eu cwblhau. Gall myfyrwyr gael trosolwg o wybodaeth sy’n weddill cyn mynd i fanylion eu cyrsiau.
Llywio Eang
Mae'r ddewislen llywio gyffredinol yn cyfeirio at y set o ddolenni sy'n ymddangos ar dop rhyngwyneb Blackboard Learn. I gael mynediad ati, dewiswch eich enw neu defnyddiwch lwybr byr ar y bysellfwrdd. Mae’r ddewislen hon yn darparu ffordd gyson, gyflym a hawdd i ganfod gwybodaeth. Gallwch hefyd lywio i’r offer fel My Blackboard, eich cyrsiau, a hyd yn oed rhai gosodiadau personol o unrhyw le yn y system.
Rhyddhau Addasol
Gyda rhyddhau addasol, gall hyfforddwyr greu llwybrau dysgu unigol ar gyfer myfyrwyr. Mae rhyddhau addasol yn rheoli rhyddhau cynnwys i fyfyrwyr yn seiliedig ar set o reolau mae hyfforddwr yn creu. Mae'n bosibl y bydd y rheolau'n berthnasol i argaeledd, dyddiad ac amser, defnyddwyr unigol, aelodaeth grŵp, sgorau neu geisiadau ar unrhyw eitem Canolfan Raddau, colofnau a gyfrifwyd yn y Ganolfan Raddau, neu statws adolygu eitem yn y cwrs. Gall hyfforddwyr ddefnyddio rhyddhau addasol i dargedu fformatau cynnwys amgen neu ddeunyddiau atodol yn uniongyrchol i’r myfyrwyr sydd eu hangen.
Dolenni Cyflym
Wedi ei leoli ar gornel chwith uchaf y rhyngwyneb, mae’r eicon Dolenni Cyflym yn agor rhestr o’r holl dirnodau ARIA, yn ogystal ag amlinelliad o’r holl benawdau cynnwys ar y dudalen rydych yn edrych arni. Mae unrhyw lwybrau byr allweddell sydd ar gael ar gyfer yr offeryn neu dudalen bresennol hefyd yn ymddangos. Gallwch leoli unrhyw bennawd neu adran yn gyflym o fewn unrhyw dudalen yn rhaglen Blackboard Learn a neidio'n uniongyrchol iddynt. Mae Dolenni Cyflym yn benodol i’r dudalen rydych yn edrych arni. Gallwch ei agor ar unrhyw adeg gyda llwybr byr allweddell (Shift+Alt+L). Mae’r llwybr byr hwn yn darparu cynnydd arwyddocaol mewn effeithiolrwydd i ddefnyddwyr sy’n dibynnu’n bennaf ar eu hallweddellau i lywio yn y rhaglen.
Eithriadau Profion
Mae gosodiadau newydd yn ymddangos ar dudalennau Prawf ac Opsiynau Arolwg gyda'r enw Eithriadau Argaeledd Profion/Arolygon. Gyda’r gosodiadau hyn, gall hyfforddwyr ddewis un grŵp o fyfyrwyr neu fwy a gwneud nifer o eithriadau i’r gosodiadau argaeledd sydd eisoes ar gael ar gyfer prawf neu arolwg. Mae eithriadau yn darparu cymwysiadau i fyfyriwr gydag anabledd, megis caniatáu mwy o amser neu geisiadau ar y prawf, neu ddarparu cymwysiadau ar gyfer gwahaniaethau technoleg ac iaith.
Aildrefnu bysellfwrdd hygyrchedd
Wedi ei leoli ar bob tudalen ble gallwch aildrefnu eitemau yn defnyddio'r swyddogaeth llusgo a gollwng, mae’r offeryn aildrefnu hygyrch i allweddellau yn arddangos yr eitemau ar y dudalen fel rhestr. Gallwch ddefnyddio gorchmynion allweddell i aildrefnu’r eitemau.
Rheoliadau chwaraewr YouTube
Mae’r cyfuniad YouTube yn caniatáu i hyfforddwr chwilio am a mewnosod fideos YouTube at y cynnwys cwrs yn uniongyrchol. Pan gaiff y fideo ei ddangos, gall myfyrwyr ddefnyddio rheoliadau'r chwaraewr hygyrch sy'n caniatáu iddynt chwarae, oedi, stopio a rheoli lefel sain fideo â bysellfwrdd neu ddarllenydd sgrin. Nid oes angen iddynt ryngweithio gyda'r rheoliadau mwy heriol sy'n seiliedig ar Flash sy'n bresennol gyda fideos di-ofyn YouTube.
Hysbysiadau
Gallwch ffurfweddu Blackboard i anfon hysbysiadau trwy amrywiol sianelau, gan hysbysu defnyddwyr am newidiadau i’w cyrsiau. Mae hysbysiadau yn benodol i’r defnyddiwr unigol, felly gall hyfforddwyr a myfyrwyr osod pa hysbysiadau a anfonir atynt, yn ogystal â phryd a sut maent eisiau derbyn hysbysiadau. Gall defnyddwyr ddewis dolen o fewn hysbysiad a mynd yn syth i'r eitem unigol heb orfod talu sylw i'r holl gynnwys o'i amgylch. Pan mae wedi'i integreiddio gyda Blackboard Connect, gall defnyddwyr ddewis derbyn hysbysiadau ar neges destun (SMS), testun-i-llais, a dros y ffôn. Mae’r galluoedd hyn yn caniatáu i bob defnyddiwr ddeall beth sy’n digwydd yn eu cyrsiau yn y cyfrwng sydd fwyaf hwylus iddynt.
Opsiynau arddangos a ffolderi cynnwys
Gall hyfforddwyr reoli arddangosiad gweledol cynnwys ar dudalennau cynnwys neu mewn ffolderi yn eu cyrsiau. Mae opsiynau yn cynnwys dangos y testun yn unig, dangos eicon i gynrychioli gwrthrych presennol, a dangos y testun a’r eicon. Gyda llawer o gynnwys ar dudalen, gall fod yn heriol i fyfyrwyr gydag anableddau gwybyddol i ddefnyddio’r wybodaeth. Gall hyfforddwyr ddefnyddio ffolderi a fformatio i reoli annibendod ar y sgrin ac i helpu myfyrwyr i ganolbwyntio ar un elfen ar y tro.
Golygydd Cynnwys
Mae’r golygydd cynnwys yn Blackboard Learn yn seiliedig ar dechnoleg trydydd parti gan TinyMCE. Mae’n darparu rheolyddion hygyrch, yn ogystal â llwybrau byr allweddell ar gyfer fformatio cynnwys a grëwyd ynddo. Mae’r golygydd yn glanhau cod HTML yn gywir y gellir ei gynnwys pan fydd cynnwys wedi ei gopïo o ddogfennau Microsoft Office. Mae’r HTML glân hwn yn sicrhau y gall defnyddwyr darllenwyr sgrin ddefnyddio unrhyw gynnwys a grëwyd yn neu a gopïwyd i’r golygydd.
Mae'r rheolyddion fformatio yn y golygydd hefyd yn sicrhau nad yw penawdau sy'n cael eu hychwanegu at gynnwys gan hyfforddwr yn gwrthdaro â strwythur semanteg cyffredinol y dudalen lle dangosir y cynnwys. Mae adeiladu cynnwys hygyrch o fewn cwrs yn allweddol i lwyddiant yr holl fyfyrwyr. Mae’r golygydd cynnwys yn helpu sicrhau bod unrhyw gynnwys a grëwch ynddo yn bodloni disgwyliadau defnyddwyr a system.
Arddulliau cyferbyniad uchel
Ar y dudalen fewngofnodi ar gyfer y system Blackboard Learn, gallwch ddewis galluogi gosodiad cyferbyniad uchel. Mae hyn yn sicrhau bod y system yn defnyddio'r gosodiadau cyferbyniad rydych eisoes wedi'u diffinio yn eich system gweithredu i arddangos testun, dewislenni a rheolyddion llywio eraill o fewn amgylchedd Blackboard Learn. Ar gyfer defnyddwyr gyda nam ar y golwg, mae’r gosodiadau cyferbyniad a ddiffiniwyd yn y system weithredu yn debygol o ddarparu’r dull mwyaf cyfforddus i weld a defnyddio gwybodaeth. Mae’r gefnogaeth cyferbyniad uchel yn Blackboard Learn yn eich galluogi i ddal i’w defnyddio.