Cyn i chi greu portffolio, cymerwch ychydig amser i osod nod ar gyfer y portffolio a meddwl am y stori rydych chi eisiau dweud. Crëwch amlinelliad o'r pwyntiau rydych eisiau tynnu sylw atynt yn eich portffolio. Wedyn, sicrhewch fod gennych ddigon o ddeunydd cefnogol.
Gallwch ddefnyddio arteffactau i ychwanegu cynnwys at eich portffolio personol. Mae arteffactau'n cysylltu ag eitemau sy'n dystiolaeth o'ch gwaith, gwybodaeth, a sgiliau. Gallwch greu arteffactau cyn neu yn ystod y broses o greu portffolios. Os oes gennych amlinelliad da o'r hyn rydych am ei gyflawni, crëwch eich arteffactau'n gyntaf.
Pan fydd eich arteffactau'n barod, crëwch gragen i'r portffolio. Mae'r gragen yn cynnwys enw a disgrifiad. Defnyddiwch y disgrifiad ar gyfer eich sefydliad eich hun. Ar ôl i chi greu'r gragen, adeiladwch y portffolio ac ychwanegwch dudalennau a chynnwys.
Mae'r broses o greu portffolio yn hawdd:
- Crëwch bortffolio.
- Ychwanegwch dudalennau ac arteffactau.
- Cynlluniwch sut mae'n edrych.
- Dewis gosodiadau.
Creu portffolio
Ar dudalen Fy Mhortffolios, dewiswch Creu Portffolio.
Y tro cyntaf y byddwch yn creu portffolio, mae gennych yr opsiwn o wneud taith fer o dan arweiniad o gynfas awdur y portffolio Os ydych yn dewis neidio neu ail-chwarae'r daith, gallwch gael mynediad ati eto yn y bar llywio. Dewiswch eicon cwmpawd y daith nesaf i'ch helpu.
Gallwch bersonoli pennawd a throedyn eich portffolio. Ar ôl creu, dewiswch eicon y pensil i olygu'r pennyn a'r troedyn.
Mae portffolio'n cynnwys tudalennau ac adrannau. Mae tudalennau'n rhoi strwythur i'r portffolio. Mae'n rhaid fod gan bob tudalen o leiaf un adran.
Mae'r ddewislen ar y chwith yn dangos holl dudalennau ac adrannau'r portffolio, y gallwch eu defnyddio i'w rheoli. Dewiswch yr eicon plws o dop y ddewislen. I ddileu tudalennau, dewiswch eicon y bin sbwriel i'r dde o dudalen. Defnyddiwch swyddogaeth llusgo a gollwng i aildrefnu tudalennau ac adrannau yn y ddewislen.
Mae dileu tudalen hefyd yn dileu pob adran a chynnwys ar y tudalen hwnnw. Mae arteffactau sy'n gysylltiedig ag adran yn aros yng nghronfa Fy Arteffactau, a gallwch eu hailddefnyddio.
Awgrymiadau:
- Pan rydych yn ysgrifennu, defnyddiwch y ddewislen i symud rhwng tudalennau i'w golygu.
- Ar ôl i chi greu tudalen neu adran, defnyddiwch eicon y pensil nesaf at deitl adran i'w golygu. Mae gan bob adran olygydd i greu cynnwys ffurfrydd. Mae'r golygydd yn ymddangos yn ddeinamig pan fyddwch yn clicio yn y bocs golygu. Gallwch gydgysylltu un neu fwy o arteffactau â phob adran. Yn arferol, rydych yn ychwanegu arteffactau i adran ac yn defnyddio'r golygydd i adlewyrchu ar yr arteffactau hynny.
- Mae opsiwn Gosodiadau yn eich caniatáu i newid y penderfyniadau gosodiadau a wnaed wrth greu'r portffolio, megis teitl neu ddisgrifiad y portffolio.
- Mae opsiwn Rhagolwg a Phersonoli yn eich caniatáu i weld sut fydd y portffolio'n edrych a gwneud penderfyniadau ar y gosodiad a'r lliwiau sy'n effeithio ar ddyluniad terfynol y portffolio.
- Mae'r opsiwn Wedi Gorffen Golygu yn caniatáu i chi adael cynfas awduro'r portffolio Os ydych yn ceisio gadael heb gadw cynnwys newydd neu wedi'i ddiweddaru, fe'ch rhybuddir am unrhyw newidiadau heb eu cadw.
- Rhannu eich portffolio gydag eraill yn eich ysgol neu mewn man arall. Bob tro i chi rannu portffolio gyda defnyddwyr eraill, rydych yn creu ciplun statig o'r portffolio hwnnw ar yr adeg benodol honno. Os fyddwch yn gwneud newidiadau yr ydych am eu rhannu, bydd angen i chi rannu'r portffolio eto.
Rhannu eich portffolio
- Ar y dudalen Fy Mhortffolios, dewiswch Mwy ar ôl enw portffolio.
- Dewiswch Rhannu.
- Pwyntiwch at Rhannu Ciplun gyda a dewiswch un o'r mathau o ddefnyddwyr. Defnyddiwch y tabl hwn i bennu pa opsiwn rhannu i'w defnyddio.
Pwy | Beth Sy'n Digwydd? |
---|---|
Defnyddwyr Blackboard Learn | Caiff y portffolio ei restru yn Rhannwyd gyda Mi y defnyddiwr. |
Defnyddwyr Allanol | Crëir ac e-bostir URL i'r defnyddwyr dynodedig fel eu bod yn gallu cyrchu eich portffolio. |
Cyrsiau neu Gyfundrefnau | Rhestrir y portffolio yn yr offeryn portffolios yn y cwrs neu'r gyfundrefn. Gall aelodau'r cyrsiau a'r cyfundrefnau hynny chwilio am eich portffolios. |
Rolau Sefydliad | Gall pob defnyddiwr â'r rôl honno chwilio am eich portffolio. |
Pob Cyfrif System | Gall unrhyw ddefnyddiwr ar y system chwilio am eich portffolio. |
Rheoli sylwadau
Defnyddir sylwadau i roi adborth gan gyfoedion a hyfforddwyr.
Mae'r tudalen Sylwadau yn cynnwys colofnau sy'n arddangos y dyddiad postio, yr awdur a bostiodd y sylwadau, a thestun y sylw. Rydych yn edrych ar, ychwanegu, a dileu sylwadau ar y tudalen hwn. Awdur sylw'n unig all ei ddileu.
Dewiswch deitl y sylw i agor testun y sylw. I drefnu'r sylwadau, dewiswch deitl y golofn.