Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Gyda'r offeryn e-byst cwrs, gallwch anfon negeseuon o'ch cwrs i gyfrifon e-bost allanol aelodau'r cwrs, heb angen newid i'ch darparwr e-bost, megis Gmail neu Yahoo. Gallwch anfon negeseuon e-bost at ddefnyddwyr unigol neu at grŵp o ddefnyddwyr.

Mae e-byst yn offeryn anfon yn unig. Ni fyddwch yn derbyn e-byst yn Blackboard Learn.


Pan fyddwch yn anfon e-bost o'ch cwrs, bydd y derbynyddion yn ei derbyn yn eu cyfrifon e-bost allanol, megis [email protected]. Bydd yr ymatebion yn mynd i'ch cyfrif e-bost, nid i'r cwrs. Efallai byddwch eisiau gosod hidlydd neu reol negeseuon er mwyn grwpio'ch e-byst cyrsiau'n hawdd mewn un ffolder yn eich mewnflwch personol.

Nid yw Blackboard Learn yn cadw unrhyw gofnod o negeseuon e-bost a anfonwyd neu a dderbyniwyd. Cadwch gopi o negeseuon pwysig yn eich mewnflwch rhag ofn y byddwch eu angen yn ddiweddarach.

Gallwch anfon e-byst i'r defnyddwyr neu grwpiau hyn mewn cwrs:

  • Pob Defnyddiwr: Mae'n anfon neges e-bost at bob defnyddiwr ar y cwrs.
  • Pob Grŵp: Mae'n anfon neges e-bost at bob un o’r grwpiau mewn cwrs penodol.
  • Pob Defnyddiwr Cynorthwyydd Dysgu: Mae'n anfon neges e-bost at bob un o’r Cynorthwywyr Dysgu mewn cwrs penodol.
  • Pob Defnyddiwr Myfyriwr: Anfon neges e-bost at bob myfyriwr ar y cwrs.
  • Pob Defnyddiwr Hyfforddwr: Mae'n anfon neges e-bost at bob un o’r hyfforddwyr ar gwrs penodol.
  • Defnyddwyr Penodol: Mae'n anfon e-bost at ddefnyddwyr dethol.
  • Grwpiau Penodol: Mae'n anfon e-bost at grwpiau dethol.

Eich hyfforddwr sy'n dewis pa grwpiau yn eich cwrs y gallwch anfon e-byst atynt. Ni fydd y sawl sy'n derbyn yr e-byst yn gweld cyfeiriadau e-bost y derbynyddion eraill.


Anfon e-bost

Ni fydd Blackboard Learn yn adnabod ffeiliau neu gyfeiriadau e-bost gyda bylchau neu gymeriadau arbennig, megis #, &, %, a $. Yn gyffredinol, dylech ddefnyddio llythrennau a rhifau yn unig mewn enwau ffeiliau a chyfeiriadau wrth ddefnyddio Blackboard Learn.

Peidiwch ag anfon e-bost trwy Blackboard heb linell pwnc. Gall llinell pwnc gwag atal y neges rhag cael ei hanfon.

Gallwch ddod o hyd i'r darn o offer ar gyfer e-byst yn y panel Offer ar dab Fy Sefydliad. Gall eich hyfforddwr hefyd ychwanegu dolen at yr offeryn e-bost yn uniongyrchol i ddewislen y cwrs.

  1. O ddewislen y cwrs, dewiswch Offer ac Anfon E-bost.
  2. Ar y dudalen Dewis Defnyddwyr neu Dewis Grwpiau, dewiswch y derbynyddion yn y blwch Ar gael i'w Dewis a dewiswch y saeth tua'r dde i'w symud i'r blwch Dewiswyd. Defnyddiwch y saeth i'r chwith i symud defnyddiwr allan o'r rhestr derbynyddion. Dewiswch Gwrth-droi'r Detholiad a bydd y defnyddwyr a ddewiswyd ddim wedi'u ticio bellach tra bydd y defnyddwyr heb eu dewis bellach wedi'u ticio.

    I ddewis defnyddwyr lluosog mewn rhestr ar beiriant Windows, pwyswch bysell Shift a dewiswch y defnyddiwr cyntaf ac olaf. I ddewis defnyddwyr ar hap, gwasgwch y bysell Ctrl a dewiswch bob defnyddiwr sydd ei angen. Ar gyfer Macs, gwasgwch yr allwedd Command yn hytrach na’r allwedd Ctrl. Gallwch hefyd ddefnyddio swyddogaeth Dewis y Cwbl i anfon e-bost i'r holl ddefnyddwyr.

  3. Teipiwch eich Pwnc a'ch Neges.
  4. Dewiswch Atodi Ffeil i bori am ffeiliau o'ch cyfrifiadur. Gallwch atodi ffeiliau lluosog. Ar ôl i chi ychwanegu un ffeil, mae'r opsiwn i atodi ffeil arall yn ymddangos.
  5. Dewiswch Cyflwyno.
  6. Bydd y system yn anfon copi o'r neges atoch. Mae tudalen derbynneb yn ymddangos ar ôl i'r neges gael ei hanfon yn rhestru'r holl dderbynwyr. Nid yw'r dudalen hon yn cadarnhau bod defnyddwyr wedi derbyn y neges, dim ond bod y neges wedi cael ei hanfon.

Datrys problemau

  • Nid yw'ch cyfeiriad e-bost yn weladwy oni bai eich bod yn dewis ei gwneud yn weladwy i aelodau'r cwrs. Gallwch ddod o hyd i'r gosodiad hwn ym mhennyn y dudalen yn newislen Fy Blackboard, Gosodiadau, Gwybodaeth Bersonol, Gosod Opsiynau Preifatrwydd. Ar y tudalen hwn, gallwch ddewis y wybodaeth rydych am i aelodau cwrs ei gweld.
  • Gallwch ddewis a newid y cyfeiriad e-bost allanol sy'n well gennych yma: Fy Blackboard, Gosodiadau, Gwybodaeth Bersonol, Golygu Gwybodaeth Bersonol.
  • Mae'n bosib y bydd cleientiaid e-bost, megis Gmail neu Yahoo, yn adnabod e-byst o Blackboard Learn fel negeseuon sothach. Os oes gennych broblemau, gwiriwch eich dewisiadau neu opsiynau o ran gosodiadau post sothach.