Efallai bydd eich hyfforddwr yn dewis cyfri cyfranogiad mewn trafodaethau fel rhan o'ch gradd. Ar ôl i chi bostio'ch meddyliau a bod eich hyfforddwr wedi graddio'ch cyfraniadau, bydd eich graddau'n ymddangos mewn gwahanol ardaloedd o Blackboard Learn.

Gweld graddau trafodaethau

Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i adran gymorth "Ultra" am fanylion ar weld graddau trafodaethau.

Os byddwch ym cymryd rhan mewn trafodaeth raddedig, gallwch weld eich gradd yn Fy Ngraddau. Gall rhes y drafodaeth raddedig gynnwys symbol i ddynodi ei statws. Er enghraifft, mae ebychnod yn golygu bod eich cyfraniad yn disgwyl am radd. Neu, os yw’ch post wedi ei raddio, mae’r radd yn ymddangos.

  1. Ar ddewislen y cwrs, dewiswch Offer a Fy Ngraddau.
  2. Ar dudalen Fy Ngraddau, dewiswch y ddolen i weld gradd y postiad. Gallwch hefyd weld:
    • Ystadegau Fforymau: Ehangwch yr adran hon i weld gwybodaeth am eich postiadau, megis Cyfanswm y Postiadau, Dyddiad y Postiad Diwethaf, Hyd Postiad ar Gyfartaledd, a Safle Postiad ar Gyfartaledd.
    • Gradd: Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth am eich gradd ac unrhyw adborth gan eich hyfforddwr. Os ddefnyddiodd eich hyfforddwr gyfeireb i radio, dewiswch Gweld y Gyfeireb i weld gwybodaeth fanwl am y graddio.

ULTRA: Gweld graddau trafodaethau

Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i'r adran gymorth "Gwreiddiol" am fanylion ar weld graddau trafodaethau.

Gallwch ddod o hyd i raddau am eich cyfraniadau i drafodaethau mewn sawl lle:

  • Ar dudalen y drafodaeth, mae'ch gradd yn ymddangos dan Gradd.
  • Ar dudalen Graddau Cyrsiau, dewch o hyd i'r rhes ar gyfer y drafodaeth a chyfeiriwch at y golofn Gradd.
  • Yn y rhestr lle mae'ch enw yn ymddangos, gallwch weld eich graddau ar eich tudalen Graddau cyffredinol.
  • Mae graddau newydd hefyd yn ymddangos yn eich ffrwd gweithgarwch.

Os yw'ch hyfforddwr wedi graddio'ch trafodaeth gyda chyfeireb, gallwch ddewis y bilsen raddio i agor y gyfeireb ochr yn ochr â'r drafodaeth. Gallwch ehangu meini prawf unigol i adolygu'r lefel cyrhaeddiad. Amlygir y lefelau cyflawniad a ddyfarnwyd.

Gwaith hwyr

Os caiff ei sefydlu gan eich hyfforddwr, mae'n bosibl y byddwch yn gweld seroau ar gyfer gwaith nad ydych wedi'i gyflwyno ar ôl i'r dyddiad dyledus fynd heibio. Gallwch dal i gyfranogi i ddiweddaru'ch gradd. Eich hyfforddwr sy'n pennu cosbau gradd ar gyfer gwaith hwyr.

Fe welwch gradd o sero ar eich tudalennau Graddau ac ym mhanel Manylion a Gwybodaeth ar gyfer y drafodaeth.

Byddwch yn cael eich hysbysu am y radd o sero yn eich ffrwd.


ULTRA: Gweld recordiad o adborth

Gall eich hyfforddwr adael fideo neu recordiad sain gydag adborth ychwanegol ar radd eich trafodaeth. Mae'r recordiadau'n ymddangos ym mhanel Adborth lle gallwch weld eich graddau.

Dewiswch eicon y ffilm i ffrydio'r fideo i'ch cyfrifiadur neu ddyfais. Gallwch reoli’r fideo trwy’r dulliau arferol megis rhewi’r fideo neu lithro bar y chwaraeydd. Mae porwyr modern yn cefnogi chwarae ffeiliau fel hyn heb fod angen ategyn porwr. Ni allwch allforio neu lawrlwytho'r recordiad o adborth ar yr adeg hon.