Mae'r pynciau cymorth hyn yn rhoi manylion am y Lansiwr Blackboard Collaborate sydd ar gael yn fersiynau 4.4 a'n  hwyrach o Floc Adeiladu Blackboard Collaborate.

Mae’r Lansiwr Blackboard Collaborate yn offeryn ar gyfer Windows a Mac sy’n darparu ffordd gyfleus a dibynadwy i chi lansio’ch sesiynau cynadledda gwe a recordiadau Blackboard Collaborate. Pan fyddwch yn dewis Ymuno â'r Ystafell ar dudalen Manylion yr Ystafell neu ddolen recordio yn nhabl Recordiadau, mae Blackboard Collaborate yn gwirio i weld a ydych wedi gosod y lansiwr. Os nad ydych wedi gosod y lansiwr, bydd Blackboard Collaborate yn eich atgoffa i'w lawrlwytho.

Pan fydd y lansiwr wedi'i osod, bydd dewis sesiwn neu ddolen recordio yn dechrau lawrlwytho ffeil .collab Mae'r lansiwr yn defnyddio'r ffeil hon y lansio Blackboard Collaborate gan ddefnyddio Java. Gan fod y lansiwr yn cynnwys y Java gofynnol, nid oes angen i chi osod a chynnal fersiwn y system o Java.