Anfon e-bost neu neges cwrs
Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i’r adran gymorth "Ultra" am gysylltu â'ch hyfforddwr.
Os yw’ch sefydliad yn ei ganiatáu, gallwch gysylltu â'ch hyfforddwr trwy'r offeryn negeseuon cwrs neu ar e-bost. Mae gweithgarwch negeseuon yn aros o fewn y system. Ni allwch weld neu anfon negeseuon y tu allan i'ch cwrs. I weld y negeseuon ar gyfer y cwrs rydych ynddo, dewiswch ddolen Negeseuon ar ddewislen y cwrs ar dudalene Offer. Eich hyfforddwr sy'n pennu pa ddolenni sy'n ymddangos ar ddewislen y cwrs a pha offer sydd ar gael.
Gyda'r offeryn e-byst cwrs, gallwch anfon negeseuon o'ch cwrs i gyfrifon e-bost allanol aelodau'r cwrs, heb angen newid i'ch darparwr e-bost, megis Gmail neu Yahoo. Gallwch anfon negeseuon e-bost at ddefnyddwyr unigol neu at grŵp o ddefnyddwyr.
Mae e-byst yn offeryn anfon yn unig. Ni fyddwch yn derbyn e-byst yn Blackboard Learn.
ULTRA: Cysylltu â'ch hyfforddwr
Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i'r adran gymorth "Gwreiddiol" am gysylltu â'ch hyfforddwr.
Gallwch weld negeseuon ym mhob un o'ch cyrsiau. Os yw’ch sefydliad yn ei ganiatáu, gallwch hefyd greu ac ymateb i negeseuon. Os yw'ch sefydliad yn ei ganiatáu, gallwch chi a'ch hyfforddwyr anfon negeseuon at eich gilydd, at fwy nag un person neu at ddosbarth cyfan gyda nodiadau atgoffa, cwestiynau cyflym a rhyngweithiadau cymdeithasol.
Mae gweithgarwch negeseuon yn aros o fewn y system. Ni allwch weld neu anfon negeseuon y tu allan i'ch cwrs.