Mae metaddata yn cadw trefn ar gynnwys ac yn golygu bod eraill yn gallu chwilio am y cynnwys, ond efallai ni fydd defnyddwyr yn meddwl am ei gynnwys gyda'u cynnwys. I roi proc i ddefnyddiwr gynnwys metaddata bob tro iddynt ychwanegu darn newydd o gynnwys, gallwch greu templed metaddata a'i rhoi ar waith i ffolderi neu ffeiliau yn y Content Collection. Mae templed metaddata yn helpu i sicrhau bod defnyddwyr yn mewnosod y gwybodaeth sy'n helpu cadw trefn ar eitemau a golygu bod eraill yn gallu chwilio am eitemau yn y Content Collection.
Gallwch greu templedi metaddata ar gyfer unrhyw ffolder a'i gynnwys. Yn yr un modd, gallwch greu priodweddau i'w defnyddio mewn gwahanol dempledi, gan wneud y broses o adeiladu templed yn gyflymach. Unwaith bod templed ar gael ar gyfer y ffolder, mae'r templed hefyd ar gael i'r holl eitemau o gynnwys o fewn y ffolder honno.
Mwy ar reoli priodweddau metaddata
Tudalen Templedi Metaddata
I ddod o hyd i dudalen Templedi Metaddata yn y Content Collection, cyfeiriwch at y ddewislen Offer. Os oes gennych fynediad at yr offeryn hwn, byddwch yn gweld Templedi Metaddata wedi'i restru yn y ddewislen.
Eich gweinyddwr Blackboard sy'n pennu pwy sydd â mynediad at greu a rheoli templedi metaddata.
Mae dau dab yn nhudalen Templedi Metaddata. Tab Templedi Metaddata yw lle gallwch greu a rheoli templedi. Mae tudalen Rheoli Priodweddau'n rhestru'r priodweddau cyffredin y gallwch eu defnyddio ar dempledi lluosog. Er enghraifft, os ydych chi eisiau gwneud ISBN yn ofynnol ar gyfer pob darn o gynnwys sy'n dod o werslyfr, efallai y byddwch eisiau creu priodwedd metaddata ailddefnyddiadwy fel bod dim rhai i chi greu'r elfen hon bob tro i chi greu templed newydd.
Creu templed metaddata
- Yn y Content Collection, dewiswch Templedi Metaddata yn y ddewislen Offer.
- Ar dudalen Templedi Metaddata, dewiswch Creu Templed.
- Teipiwch Bennawd tudalen ar gyfer y templed.
- Teipiwch enw ar gyfer y templed ym maes Enw'r Ffurflen.
- Teipiwch ddisgrifiad ym maes Disgrifiad.
- Dewiswch Cyflwyno.
Tudalen Dylunio'r Ffurflen
Ar ôl i'r templed gael ei ychwanegu, y cam nesaf yw dylunio golwg y templed.
- Dewiswch elfen dylunio o'r gwymplen Ychwanegu:
- Cyfarwyddiadau. Elfen dylunio dewisol yw hon y gallwch ei defnyddio i ddarparu cyfarwyddiadau i ddefnyddwyr pan fyddant yn defnyddio'r templed hwn. Gallwch ddarparu cyfarwyddiadau ar gyfer y dudalen gyfan neu gallwch ychwanegu cyfarwyddiadau ar gyfer camau unigol.
- Pennawd Camau. Elfen dylunio yw hon sy'n darparu toriad graffigol mewn templed a gellid ei defnyddio er mwyn grwpio meysydd cofnodi data mewn trefn resymegol.
- Maes. Ychwanegu maes data unigol. Cyfeiriwch at y rhestr o feysydd templed metaddata i ddysgu am bob math.
- I ail-leoli'r elfennau dylunio, gallwch eu llusgo a gollwng i wahanol rannau o'r dudalen.
- I weld cynnydd dyluniad y templed, defnyddiwch swyddogaeth Rhagolwg. Bydd y rhagolwg yn ymddangos mewn ffenestr newydd.
- Defnyddiwch opsiynau Golygu neu Dileu yn newislen pob elfen i newid neu dynnu'r elfennau.
Rheoli templedi metaddata
Ar y dudalen Templedi Metaddata, gallwch olygu'r gosodiadau ar gyfer pob un o'r templedi cyfredol. I gael mynediad at yr opsiynau isod, agorwch ddewislen y templed.
- Rhagolwg - Gweld sut fydd y templed yn edrych i ddefnyddwyr.
- Golygu - Golygu meysydd Enw a Disgrifiad y templed.
- Dyluniad y Ffurflen - Golygu meysydd, labeli a threfn y templed.
- Argaeledd - Dewis pa ddefnyddwyr sy'n gallu gweld y templed metaddata hwn.
- Copïo - Dyblygu'r templed hwn.
- Dileu - Dileu'r templed hwn.
Trefnu bod y templed ar gael
Gallwch drefnu bod templedi metaddata ar gael i grŵp dethol o ddefnyddwyr rheoli cynnwys. Gellir grwpio eitemau Content Collection mewn ffolder benodol a'u neilltuo i gwrs penodol. Gellir hefyd rannu'r cynnwys hwn ar draws adran neu sefydliad cyfan.
- Yn y Content Collection, dewiswch Templedi Metaddata ar y ddewislen Offer.
- Dewiswch Argaeledd yn newislen y templed.
- I drefnu bod y templed ar gael trwy gydol y system, dewiswch Ie nesaf at Argaeledd ar y System.
- I reoli argaeledd y templed ar lefel cyfeiriadur, dewiswch Pob Ffolder neu Ffolderi Dethol a Phob Is-ffolder.
- Dewiswch Pori i ddewis y ffolderi ac is-ffolderi.
- I ddangos y ffurflen metaddata ar y tudalennau Ychwanegu Eitem ac Ychwanegu Ffolder, dewiswch y blwch ticio Dangos ffurflen metaddata ar gyfer eitemau cynnwys. Dewiswch yr opsiwn hwn os ydych angen i ddefnyddwyr fewnosod metaddata pan fyddant yn creu eitem yn yr ardaloedd priodol o'r cwrs.
- Dewiswch Cyflwyno.
Tudalen Rheoli Priodweddau
Ar dudalen Rheoli Priodweddau, gallwch greu a golygu priodweddau wedi'u bwriadu i'w defnyddio mewn templedi lluosog. Pan fyddwch yn creu priodwedd, gallwch ddewis trefnu ei bod ar gael i ddefnyddwyr eraill pan fyddant yn creu eu templedi Metaddata.
Mae priodoleddau'r templed metadata fel metadata ar gyfer y templedi eu hun. Mae'r priodweddau hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr gyrchu templedi, cynorthwyo mewn swp-weithredu, a rhoi data disgrifiad i'r adeiladydd templed.
Creu priodwedd
- Yn y Content Collection, dewiswch Templedi Metaddata ar y ddewislen Offer.
- Dewiswch dab Rheoli Priodweddau.
- Dewiswch Creu Priodewdd a dewiswch fath o briodwedd. Ar ôl i chi greu priodwedd, ni allwch newid y math.
- Teipiwch enw ar gyfer y briodwedd. Mae'r enw hwn yn ymddangos yn y rhestr ar dudalen Rheoli Priodweddau.
- Teipiwch ddisgrifiad.
- Dewiswch y blwch ticio Allanol i ddynodi bod y gwerthoedd yn dod o ffynhonnell allanol.
- Os ydych eisiau trefnu bod y briodwedd hon ar gael i ddefnyddwyr eraill templedi metaddata, dewiswch Ie nesaf at Argaeledd ar y System. I'w gadw'n breifat, dewiswch Na.
- Dewiswch Cyflwyno i gadw.
Ychwanegu priodwedd i dempled metaddata
Nawr eich bod wedi creu priodwedd, gallwch ei defnyddio yn nhempled y metaddata. Os byddwch yn dewis trefnu bod y briodwedd hon ar gael trwy gydol y system, gall eraill hefyd defnyddio'r briodwedd yn eu templedi.
- Ar dudalen Rheoli Templed, dewiswch Dyluniad y Ffurflen.
- Dewiswch Maes yn y ddewislen Ychwanegu.
- Yn adran Ychwanegu Maes, dewiswch Copïo y maes cyfredol.
- Dewiswch Pori i chwilio am y briodwedd greoch chi. Gallwch bori'r rhestr o briodweddau sydd ar gael neu ddefnyddio'r meysydd chwilio ar dop y dudalen.
- Ar ôl i chi ddewis y briodwedd, dewiswch Cyflwyno. Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen Fformatio Maes.
- Teipiwch label ar gyfer y maes a dewiswch arddull (os yn berthnasol).
- Mae Cwymplen yn cynhyrchu cwymplen o werthoedd er mwyn i'r defnyddiwr allu dewis un.
- Mae Dewislen Rhestr yn cynhyrchu rhestr statig o werthoedd y gall y defnyddiwr ddewis.
- Mae Botymau Radio yn cynhyrchu cyfres o fotymau y gall y defnyddiwr wneud dewis o'u plith.
- Mae Ardal testun yn cynhyrchu maes testun.
- Mae Golygydd Testun yn cynhyrchu Golygydd Testun lle gellir teipio a fformatio testun.
- Nesaf at opsiynau Rheolau, dewiswch sut mae'r defnyddiwr yn rhyngweithio gyda'r maes hwn:
- Mae Darllen/Ysgrifennu yn caniatáu i ddefnyddwyr y templed metaddata ysgrifennu a golygu gwerth y maes hwn.
- Nid yw Darllen yn unig yn caniatáu i ddefnyddwyr ysgrifennu data yn y maes hwn.
- Defnyddiwch flwch ticio Gofynnol i wneud y maes hwn yn ofynnol.
- Yn Testun Maes Help, teipiwch y testun i gynorthwyo defnyddwyr a fydd yn ymddangos dan y maes hwn.
- Dewiswch Cyflwyno i gadw'r maes.
Mathau o feysydd
Priodwedd/math o faes | Disgrifiad |
---|---|
Llinyn | Mae'r maes hwn yn caniatáu i'r defnyddiwr deipio unrhyw destun yr hoffent hyd at uchafswm y maes.
|
Testun a fformatiwyd | Mae'r maes hwn yn caniatáu i'r defnyddiwr deipio testun ffurfrydd o unrhyw hyd a'i fformatio gan ddefnyddio'r Golygydd Cynnwys. |
Cyfanrif | Mae'r maes hwn yn derbyn rhifau cyfan (1, 2, 3, ayyb) fel mewnbwn. |
Pwynt Symudol | Mae'r maes hwn yn derbyn rhifau gyda phwyntiau degol fel mewnbwn. |
Dyddiad | Dewiswr dyddiad yw'r maes hwn. Mae'r defnyddiwr yn dewis dyddiad, mis a blwyddyn i'w cysylltu â'r eitem. |
Amser | Dewiswr amser yw'r maes hwn. Mae'r defnyddiwr yn dewis amser o'r dydd i gysylltu â'r eitem. |
Dyddiad/Amser | Dewiswch dyddiad ac amser yw'r maes hwn. Mae'r defnyddiwr yn dewis amser, dyddiad, mis a blwyddyn i'w cysylltu â'r eitem. |
Boolean | Mae'r maes hwn yn cyflwyno blwch ticio i'r defnyddiwr. |
Llinyn diderfyn | Mae'r maes hwn yn caniatáu i'r defnyddiwr deipio testun ffurfrydd o unrhyw hyd. |
Priodwedd dewis | Mae'r maes hwn yn cyflwyno opsiynau testun lluosog i'r defnyddiwr mewn cwymplen, dewislen rhestr neu fotymau radio. I ychwanegu opsiynau, dewiswch Priodwedd Dewis yn Creu Priodwedd neu Mathau o Feysydd. Enwch y briodwedd, dewiswch ei hargaeledd, a dewiswch Nesaf. Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen Ychwanegu Opsiynau. Dewiswch Ychwanegu Opsiynau i ychwanegu eitemau i'r rhestr o ddewisiadau. Os oes gennych restr hir o opsiynau, gallwch ychwanegu dewisiadau lluosog ar yr un pryd trwy ddefnyddio botwm Opsiynau Ychwanegu Swp. Gallwch uwchlwytho ffeil testun plaen neu ffeil CSV gan ddefnyddio'r fformat canlynol: Label, Gwerth, Argaeledd (Ie/Na). Ar y dudalen Opsiynau Ychwanegu Swp, porwch am y ffeil a dewiswch y math o amffinydd. Dewiswch Cyflwyno i uwchlwytho'r opsiynau. Pan rydych wedi gorffen, dewiswch Iawn ar waelod y dudalen. Os ydych yn creu maes newydd mewn templed, byddwch yn cael eich dychwelyd i'r dudalen Fformatio Maes i orffen ffurfweddu'r maes. Os ydych yn creu priodwedd y tu allan i dempled, byddwch yn cael eich dychwelyd i'r dudalen Rheoli Priodweddau, lle gallwch chwilio am y briodwedd rydych newydd ei chreu. |