Gallwch uwchlwytho atodiadau ffeil yn eich cwrs, megis i aseiniad. Mae defnyddwyr yn dewis agor dolen sy'n ymddangos yn y cwrs.

Ar ôl i chi uwchlwytho ffeil, mae'n bosib y byddwch dal yn gallu golygu enw'r ddolen i'r ffeil. Bydd teitl y ddolen yn ymddangos i ddefnyddwyr yn lle enw'r ddogfen. Er enghraifft, teipiwch "Fy Nghyflwyniad" fel teitl y ddolen yn hytrach nag enw'r ffeil "introduction.doc."

Nodau a dderbynnir mewn enwau ffeiliau

Mae Blackboard Learn yn caniatáu defnyddio pob nod mewn enwau ffeil. Fodd bynnag, gall system gweithredu a phorwr defnyddiwr gyfyngu ar y mathau o nodau a dderbynnir. Er enghraifft, nid yw rhai porwyr yn derbyn nodau sy'n fwy llydan. Efallai ni fydd gan rai porwyr yr ieithoedd cywir wedi'u gosod arnynt i ddangos nodau arbennig yr wyddor yn yr iaith honno.


Mathau o atodiadau ffeil a adnabyddir

Mae'r system yn adnabod nifer o fathau o ffeiliau yn ddiofyn. Mae'r ffeiliau hyn yn agor yn uniongyrchol yn y porwr neu mewn rhaglen gysylltiedig. Os nad yw'r system yn adnabod math y ffeil, gall defnyddwyr lawrlwytho'r ffeil atodedig a'i hagor ar eu cyfrifiadur eu hunain.

Ar hyn o bryd, ni all hyfforddwyr gael rhagolwg neu anodi ffeiliau y cyflwynwch chi yn fformatau ffeil cynhenid Google Drive megis Google Docs (.gdoc), Sheets (.gsheets), Slides (.gslides), ac ati.

Rhaglenni'n gysylltiedig â mathau o ffeiliau
EstyniadMath o FfeilRhaglenni a Gysylltir â'r Math o Ffeil
AAMAmlgyfryngauAtegyn Macromedia® Authorware®

Ffeil AAM yw'r pwynt cychwyn am gyfres o ffeiliau sy'n rhaid eu hamgáu mewn ffeil ZIP.
AIFFSainMae AIFF yn fformat sain cywasgedig. Mae ffeiliau AIFF yn dueddol o fod yn fawr.
ASFAmlgyfryngauMicrosoft® .NET™ Show

Mae ffeiliau ASF yn gallu cynnwys sain, fideo, delweddau a thestun.
AUSainChwarewr Real Audio™
AVIFideoChwaraewr fideo - Windows yn unig
doc, docxTestunMicrosoft® Word - prosesydd geiriau
EXEGweithredadwyRhaglenni yw ffeiliau gweithredadwy. Gallai rhai polisïau diogelwch rhwydwaith a muriau cadarn wahardd defnyddwyr rhag lawrlwytho ffeiliau gweithredadwy.

Os yw'ch sefydliad yn defnyddio fersiwn mwy newydd o Blackboard Learn, efallai ni fyddwch yn gallu uwchlwytho ffeiliau o'r math hwn. Cysylltwch â'ch gweinyddwr am gymorth.

GIFDelweddRhaglen graffeg neu borwr gwe
HTML, HTMTudalen gweGolygydd neu borwr HTML
JPG, JPEGDelweddRhaglen graffeg neu borwr gwe
JIFDelweddRhaglen graffeg neu borwr gwe
MP3SainRhaglen sain
"MP4"FideoChwaraewr Fideo
MPESain/FideoRhaglen sain
MPG, MPEGFideoChwaraewr Fideo
MOOV, MOVIEFfilmFfilm QuickTime®
MOVFideoChwaraewr ffilm neu gyfryngau
NUMBERSTaenlenApple Numbers®
PDFTestunDarllenydd Adobe® Acrobat®®
PNGDelweddGolygydd graffeg neu borwr gwe
PPT, PPTX, PPSSioe SleidiauMicrosoft® PowerPoint®, PowerPoint Player®
QTFfilmQuickTime®
RASainChwarewr Real Audio™
RAMFideoFfilm Real Audio™
RMSainRhaglen sain
RTFTestunProsesydd geiriau
SWFAmlgyfryngauAtegyn Macromedia® Shockwave®
TIFF, TIFDelweddRhaglen graffeg neu borwr gwe
txtTestunGolygydd testun neu HTML, prosesydd geiriau
WAVSainRhaglen sain
WMASainRhaglen sain
WMFGraffegMicrosoft® Windows®
XLS, XLSXTaenlenMicrosoft® Excel®
ZIPPecyn cywasgedigWinZip®