Offeryn atal llên-ladrad yw SafeAssign sy'n caniatáu i'ch hyfforddwr wirio gwreiddioldeb darn o waith cartref a gyflwynwyd. Mae SafeAssign yn cyflawni'r gwiriad yn awtomatig trwy gymharu'r aseiniad yn erbyn cronfa ddata o aseiniadau eraill a gyflwynwyd.


Cyflwyno aseiniad gan ddefnyddio SafeAssign yn Blackboard Learn: Gwedd Cwrs Gwreiddiol

Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i adran gymorth "Ultra" am fanylion ar gyflwyno asesiad gan ddefnyddio SafeAssign.

Mae SafeAssign yn gallu prosesu ffeiliau a gyflwynir sy'n llai na 10MB. Os yw'ch cyflwyniad yn fwy na 10MB, ni fydd SafeAssign yn gallu ei brosesu.

Os nad yw'ch hyfforddwr wedi caniatáu ymgeisiau lluosog, byddwch yn gallu cyflwyno'ch aseiniad unwaith yn unig. Cyn i chi ddewis Cyflwyno, sicrhewch eich bod wedi atodi unrhyw ffeiliau gofynnol.

  1. Cael mynediad at yr aseiniad. Ar dudalen Uwchlwytho Aseiniad, adolygwch y cyfarwyddiadau, y dyddiad dyledus, y pwyntiau posib, a lawrlwythwch unrhyw ffeiliau a ddarparwyd gan eich hyfforddwr. Bydd neges yn ymddangos i roi gwybod i chi y bydd eich cyflwyniad yn cael ei brosesu gan SafeAssign.
  2. Dewiswch Ysgrifennu Cyflwyniad i ehangu'r ardal lle gallwch deipio'ch cyflwyniad.
  3. Dewiswch Pori Fy Nghyfrifiadur i uwchlwytho ffeil o'ch cyfrifiadur.

    -NEU-

    Llusgwch ffeiliau o'ch cyfrifiadur i'r "ddolen glicio" yn ardal Atodi Ffeiliau. Os yw'ch porwr yn ei ganiatáu, gallwch hefyd lusgo ffolder o ffeiliau. Bydd y ffeiliau'n uwchlwytho'n unigol. Os nad yw'r porwr yn caniatáu i chi gyflwyno'ch aseiniad ar ôl i chi uwchlwytho ffolder, dewiswch Peidiwch ag atodi yn rhes y ffolder i'w dynnu. Gallwch lusgo'r ffeiliau'n unigol a'u cyflwyno eto.

    Gallwch ddefnyddio enw'r ffeil neu roi enw arall i'r ffeil.

  4. Fel arall, gallwch deipio Sylwadau am eich cyflwyniad.
  5. Dewiswch Cyflwyno.

Ar ôl i chi gyflwyno aseiniad gan ddefnyddio SafeAssign, bydd ychydig o oedi rhwng yr uwchlwytho ac argaeledd yr Adroddiad Gwreiddioldeb. Fel arfer mae’r canlyniadau ar gael o fewn 10-15 munud.

Gweld cyflwyniadau SafeAssign

Gallwch weld eich cyflwyniad a'r adroddiadau SafeAssign sy'n gysylltiedig â nhw trwy fynd i'r aseiniad ar ôl i chi gyflwyno'ch papur.

Mae'r opsiwn hwn ar gael dim ond os yw'ch hyfforddwr wedi ei ganiatáu.

  1. Dychwelyd i'r aseiniad gyflwynoch eisoes.
  2. Dan Manylion yr Aseiniad, dewiswch SafeAssign.
  3. Gweld y ganran gyfatebol gyffredinol a ganfuwyd gan SafeAssign. Os oes gennych atodiadau lluosog, bydd SafeAssign yn dadansoddi pob atodiad.
  4. Os yw'ch hyfforddwr wedi caniatáu ymgeisiau lluosog, dewiswch ymgais arall i weld dadansoddiad SafeAssign ar gyfer y cynnwys hwnnw.
  5. I ddysgu mwy, dewiswch Gweld Adroddiad Gwreiddioldeb ar gyfer ymgais.

Rhagor am yr Adroddiad Gwreiddioldeb


Cyflwyno aseiniad neu brawf gan ddefnyddio SafeAssign yn Blackboard Learn: Gwedd Cwrs Ultra

Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i'r adran gymorth "Gwreiddiol" am fanylion ar gyflwyno aseiniad gan ddefnyddio SafeAssign.

Mae'ch hyfforddwr yn defnyddio SafeAssign os welwch Adroddiad Gwreiddioldeb wedi'i galluogi yn adran Manylion a Gwybodaeth eich aseiniad neu brawf.

Gydag aseiniadau a phrofion sy'n defnyddio SafeAssign yng Ngwedd Cwrs Ultra, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau ychwanegol pan rydych yn barod i gyflwyno'ch gwaith. Mae SafeAssign yn gwirio'ch gwaith yn awtomatig, gan gynnwys atodiadau ac ymatebion testun, am rannau sy'n cyfateb â deunydd cyhoeddedig.

Pan fyddwch yn agor aseiniad, cewch eich hysbysu os gaiff eich cyflwyniad ei raddio'n ddienw.

Rhagor ynghylch graddio dienw

Gweld cyflwyniadau SafeAssign

Mae SafeAssign yn dechrau prosesu'ch aseiniad cyn gynted ag y byddwch yn taro Cyflwyno. Tra bod y gwasanaeth yn dadansoddi'ch gwaith, bydd Adroddiad Gwreiddioldeb ar waith yn ymddangos yn y panel. Mae SafeAssign yn creu Adroddiad Gwreiddioldeb ar gyfer pob rhan o'ch aseiniad, gan gynnwys cwestiynau prawf ac atodiadau.

Eich hyfforddwr sy'n penderfynu a ydych yn gallu gweld Adroddiadau Gwreiddioldeb ar gyfer eich aseiniad.

Gallwch weld yr Adroddiad Gwreiddioldeb cyn i'ch hyfforddwr raddio'ch ymgais. Agorwch banel Manylion a Gwybodaeth a dewiswch Gweld Adroddiad Gwreiddioldeb. Os yw'ch hyfforddwr wedi caniatáu ymgeisiau lluosog, bydd SafeAssign yn dadansoddi pob ymgais ar wahân. Gallwch ddod o hyd i'r Adroddiad Gwreiddioldeb ar gyfer pob ymgais yn y panel Cyflwyniadau.

Os yw'ch sefydliad yn caniatáu hyn, bydd yr Adroddiad Gwreiddioldeb yn ymddangos nesaf at eich ymgais. Mae top yr Adroddiad Gwreiddioldeb yn dangos faint o destun a ganfuwyd gan SafeAssign yn gyffredinol. Dewiswch gofnod dan Adroddiad Gwreiddioldeb i weld yr adroddiad llawn.

Mwy ar sut i ddarllen yr Adroddiad Gwreiddioldeb

Trwy greu cyflwyniad, rydych yn cytuno i'r telerau ac amodau a restrir uwchben ardal gyflwyno'r Ffeil. Rydym yn darparu dolen i Delerau Gwasanaeth Blackboard a Pholisi Preifatrwydd Blackboard. Argymhellwn eich bod yn darllen y polisïau hyn cyn cyflwyno'ch aseiniad.