Ble mae'r golygydd yn ymddangos?

Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i'r help "Ultra" am ddod o hyd i'r golygydd.

Gyda'r golygydd, gallwch ychwanegu a fformatio testun, atodi ffeiliau, plannu ffeiliau amlgyfrwng a mewnosod hafaliadau, dolenni a thablau. Defnyddiwch y swyddogaethau yn y golygydd pan fyddwch yn gweithio ar aseiniadau, profion, trafodaethau, dyddlyfrau, blogiau, wikis a mwy.

Content editor example for adding text

I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch Alt + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + OPT + F10. Rhoddir y ffocws ar yr eicon cyntaf ar y chwith yn y rhes gyntaf. Defnyddiwch y bysellau saeth i'r dde a'r chwith i symud ymlaen ac yn ôl. Nid yw'r saethau ar i fyny ac i lawr yn gweithio i lywio i resi gwahanol. Defnyddiwch y bysellau saeth i symud i ddiwedd un rhes ac wedyn i fyny neu i lawr i'r rhes nesaf sydd ar gael.


Eiconau ac opsiynau'r golygydd

Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i'r help "Ultra" am opsiynau yn y golygydd.

Mae pob opsiwn y golygydd yn cael ei gynrychioli gan eicon. Mae rhai opsiynau'n cynnwys dewislen o opsiynau.

Dewiswch yr eicon Mwy â thri dot, ar ochr dde y rhes gyntaf, i ddangos dim ond yr opsiynau testun a ddefnyddir yn amlaf. Mae rhai opsiynau'n ymddangos mewn rhesi gwahanol pan fyddwch yn ehangu neu gwympo rhesi'r golygydd.

Bydd y swyddogaethau nad ydynt ar gael yn ymddangos yn llwyd. Er enghraifft, bydd yr opsiwn Tynnu’r Ddolen ond ar gael ar ôl dewis testun neu wrthrych sydd eisoes yn cynnwys dolen yn y blwch testun. Bydd yr opsiynau ar gyfer addasu tabl ond ar gael ar ôl creu a dewis tabl.

Gall sefydliadau a hyfforddwyr analluogi opsiynau’r gwirydd sillafu a’r golygydd mathemateg.

Rhes 1

Opsiynau yn res 1
Opsiynau Disgrifiad
Gwneud y testun a ddewiswyd yn drwm neu dynnu'r arddull hon oddi ar y testun a ddewiswyd.
Gwneud y testun a ddewiswyd yn italig neu dynnu'r arddull hon oddi ar y testun a ddewiswyd.
Tanlinellu'r testun a ddewiswyd neu dynnu'r arddull hon oddi ar y testun a ddewiswyd.
Llinell drwodd: Arddangos testun gyda llinell ar draws trwy'r llythrennau.
Dewis arddull paragraff ar gyfer y testun o'r rhestr.
Dewis wyneb y ffont ar gyfer y testun o'r rhestr o'r holl ffontiau sydd ar gael.
Dewis maint y testun o restr.
Creu rhestr â bwledi.
Creu rhestr â rhifau.
Dewis lliw y testun o'r blwch dewis lliwiau.
Dewis y lliw amlygu testun. Mae'r lliw yn ymddangos fel y cefndir.
Tynnu'r holl fformatio gan adael testun plaen yn unig.
Torri'r eitemau a ddewisir.
Copïo'r eitemau a ddewisir.
Gludo'r eitemau rydych wedi’u copïo neu’u torri ddiwethaf.
Chwilio am destun a’i amnewid.
Dadwneud y weithred flaenorol.
Ail-wneud y weithred flaenorol - dim ond os oes gweithred wedi cael ei dad-wneud.
Alinio'r testun i’r ymyl chwith.
Alinio'r testun yn y canol.
Alinio'r testun i’r dde.
Alinio'r testun at ymylon y dde a’r chwith.
Cynyddu mewnoliad: Symud y testun neu wrthrych i'r dde. Dewiswch yr opsiwn eto i fewnoli ymhellach.
Lleihau mewnoliad (Alloliad): Symud y testun neu wrthrych i'r chwith. Dewiswch yr opsiwn eto i alloli ymhellach. Ni allwch alloli testun y tu hwnt i'r ymyl chwith.
Ehangu opsiynau’r golygydd: Bydd yn dangos mwy neu lai o opsiynau, gan ddibynnu ar gyflwr presennol panel y golygydd.

Rhes 2

Opsiynau yn rhes 2
Opsiynau Disgrifiad
Uwchysgrif: Gwneud i'r testun a ddewiswyd ymddangos ychydig uwchben eich testun arferol neu dynnu'r arddull hon oddi ar y testun a ddewiswyd.
Isysgrif: Gwneud i'r testun a ddewiswyd ymddangos ychydig yn is na'ch testun arferol neu dynnu'r arddull hon oddi ar y testun a ddewiswyd.
Dewiswch destun neu wrthrych, a dewiswch eicon Mewnosod/Golygu Dolen i ychwanegu dolen newydd neu olygu dolen gyfredol. Gallwch nodi dolen i wefan, ffeil o'ch cyfrifiadur, neu storfa ffeiliau'r cwrs, megis y Casgliad o Gynnwys.
Tynnu hyperddolen o'r testun neu wrthrych a ddewisir.
Ychwanegu testun i'r chwith o leoliad cyfredol pwyntydd y llygoden.
Ychwanegu testun i'r dde o leoliad cyfredol pwyntydd y llygoden (diofyn).
Ychwanegu llinell ar draws i leoliad cyfredol pwyntydd y llygoden, sy'n rhychwantu lled cyfan ardal y testun.
Rhoi nod bwlch dim toriad lle mae pwyntiwr y llygoden ar hyn o bryd.
Dechrau'r gwirydd sillafu awtomatig. Gallwch ddewis iaith wahanol o'r rhestr.
Agor tudalen golygydd gweledol hafaliadau mathemateg.
Dangos yr holl nodau na fydd yn argraffu. Dewiswch yr eicon eto i'w cuddio.
Fformatio’r testun fel dyfyniad bloc.
Agor y ffenestr Dewis Nod Arbennig. Dewiswch symbol i’w fewnosod lle mae pwyntiwr y llygoden ar hyn o bryd.
Agor y ffenestr Mewnosod Gwenoglun. Dewiswch y gwenoglun i’w fewnosod lle mae pwyntiwr y llygoden ar hyn o bryd.
Defnyddio angorau i leoli eitemau a gwrthrychau eraill, megis delweddau. Rhowch bwyntydd y llygoden lle rydych eisiau i'r angor ymddangos ac agorwch y ffenestr Mewnosod/Golygu Angor.
Agor y ffenestr Mewnosod/Golygu Tabl. Os byddwch yn dewis yr eicon wrth fod mewn tabl, bydd tabl newydd yn cael ei greu o fewn yr un cyntaf.
Dilëwch y tabl a ddewiswyd ar hyn o bryd.
Agorwch y ffenestr Priodweddau’r Tabl.
Agorwch y ffenestr Priodweddau Rhesi Tablau.
Agor y ffenestr Priodweddau Celloedd Tablau.
Mewnosodwch res wag yn y tabl uwchben lleoliad pwyntiwr y llygoden ar hyn o bryd.
Mewnosodwch res wag yn y tabl ar ôl lleoliad pwyntiwr y llygoden ar hyn o bryd.
Dilëwch y rhes gyfredol o’r tabl. Os byddwch yn dewis sawl rhes, dilëir pob rhes a ddewiswyd.
Mewnosodwch golofn wag yn y tabl i'r chwith o leoliad pwyntiwr y llygoden ar hyn o bryd.
Mewnosodwch golofn wag yn y tabl i'r dde o leoliad pwyntiwr y llygoden ar hyn o bryd.
Dilëwch y golofn bresennol o’r tabl. Os byddwch yn dewis colofnau lluosog, dilëir pob un.
Agorwch y ffenestr Cod ffynhonnell i olygu'r cod yn uniongyrchol. Cynhwysir y nodwedd hon ar gyfer datblygwyr gwe profiadol.
Agorwch y ffenestr Gwirydd Hygyrchedd: dangos problemau hygyrchedd a ganfuwyd.
Mewnosod / golygu sampl o god: Mewnosod cod o amrywiaeth o ieithoedd rhaglennu, gan gynnwys HTML/XML, JavaScript, CSS, PHP, Ruby, Python, Java, C, C# ac C++. Cynhwysir y nodwedd hon ar gyfer datblygwyr gwe profiadol.
Agor ffenestr rhagolwg i weld sut fydd eich cynnwys yn ymddangos pan fyddwch yn ei gyflwyno.
Agor ffenestr cymorth y golygydd.
Ehangu ffenestr y golygydd i lenwi ffenestr y porwr.

Ychwanegu cynnwys: ychwanegu a mewnosod mathau gwahanol o gynnwys, gan gynnwys cynnwys o’r Casgliad o Gynnwys, Blackboard Collaborate, Digication, Flickr, SlideShares a YouTube.

ULTRA: Ble mae'r golygydd yn ymddangos?

Mae'r golygydd yn ymddangos yn y rhan fwyaf o leoedd lle gallwch ychwanegu testun. Gallwch ddefnyddio'r golygydd i ychwanegu a fformatio testun, blannu delweddau, atodi ffeiliau, a mewnosod hafaliadau, dolenni a thablau.

Os ydych yn gweld y golygydd ar sgrin lai, dewiswch yr eicon plws neu'r eicon â saethau i weld y cwymplenni neu opsiynau ail res. 

Defnyddiwch yr opsiynau yn y golygydd pan fyddwch yn gweithio ar aseiniadau, profion, trafodaethau, negeseuon, sgyrsiau, dyddlyfrau a mwy.

Pan fyddwch yn agor y golygydd ar sgrin lai, bydd yr opsiynau yn cael eu crynhoi mewn dewislenni neu ddewislenni ail res a fydd yn parhau i fod ar agor nes i chi ddewis y ddewislen eto neu ddewis opsiwn arall yn y ddewislen, er mynediad hawdd:

I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch Alt + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + ALT + F10. Rhoddir y ffocws ar yr eicon cyntaf ar y chwith yn y rhes gyntaf. Defnyddiwch y bysellau saeth i'r dde a'r chwith i symud ymlaen ac yn ôl. Nid yw'r saethau ar i fyny ac i lawr yn gweithio i lywio i resi gwahanol. Defnyddiwch y bysellau saeth i symud i ddiwedd un rhes ac wedyn i fyny neu i lawr i'r rhes nesaf sydd ar gael.


ULTRA: Eiconau ac opsiynau'r golygydd

Mae pob opsiwn y golygydd yn cael ei gynrychioli gan eicon. Mae rhai opsiynau'n cynnwys dewislen o opsiynau.

ultra_editor_alignmentOptions
Eiconau ac opsiynau yn y golygydd
Eiconau Opsiynau Disgrifiad
Dewislen arddull testun:
Teitl
Pennawd
Is-bennawd
Paragraff
Dewiswch arddull rhagosodedig ar gyfer paragraffau o'r rhestr ar gyfer y testun a ddewiswyd.
Arddull Ffont Gellir dewis arddull ffont o: Arial, Comic Sans MS, Courier New, Noto, Open Sans, Times New Roman a Verdana.
Maint y Ffont Maint y ffont, mae’n defnyddio math ffont a ddewiswyd yn ddiofyn.
Dewisydd Lliw (Lliw'r ffont) Gellir dewis lliw ffont o: du (diofyn), llwyd, porffor, glas, gwyrdd, a choch.
Trwm Gwneud y testun a ddewiswyd yn drwm neu dynnu'r arddull hon oddi ar y testun a ddewiswyd.
Italig Gwneud y testun a ddewiswyd yn italig neu dynnu'r arddull hon oddi ar y testun a ddewiswyd.
Tanlinellu Tanlinellu'r testun a ddewiswyd neu dynnu'r arddull hon oddi ar y testun a ddewiswyd.
Dewislen dewisiadau testun Bydd y dewisydd dewisiadau testun yn agor dewislen ail res gyda'r opsiynau ar gyfer: uwch-ysgrif, is-ysgrif a llinell drwy destun i ddewis ohonynt.
Arddull fformatio: Tynnu llinell trwy Arddangos testun gyda llinell ar draws trwy'r llythrennau.
Arddull fformatio: Uwchysgrif Gwneud i'r testun a ddewiswyd ymddangos ychydig uwchben eich testun arferol neu dynnu'r arddull hon oddi ar y testun a ddewiswyd.
Arddull fformatio: Isysgrif Gwneud i'r testun a ddewiswyd ymddangos ychydig yn is na'ch testun arferol neu dynnu'r arddull hon oddi ar y testun a ddewiswyd.
Opsiynau Alinio Bydd y dewisydd dewisiadau testun yn agor cwymplen gyda'r opsiynau ar gyfer: alinio i'r chwith, canoli, alinio i'r dde ac unioni testun i ddewis ohonynt.
Alinio i'r Chwith Alinio testun i'r chwith.
Canoli Canoli aliniad testun.
Alinio i'r Dde Alinio testun i'r dde.
Unioni Unioni aliniad testun.
Dewislen dewisiadau rhestr Bydd y dewisydd dewisiadau rhestr yn agor dewislen ail res gyda'r opsiynau ar gyfer: rhestri â rhifau a bwledi i ddewis ohonynt. Mae hefyd yn cynnwys opsiwn dewisydd bylchau uchder y llinell.
Arddull rhestr: Rhestr bwledi Creu rhestr â bwledi.
Arddull rhestr: Rhestr wedi'i rhifo Creu rhestr â rhifau.
Dewislen opsiynau uchder y llinell Bydd dewisydd dewisiadau uchder y llinell yn agor cwymplen gyda'r opsiynau ar gyfer: Dewisiadau blychau Sengl, 1.15, 1.5 a Dwbl i ddewis ohonynt.
Mewnosod/Golygu Fformiwla Mathemateg Agor tudalen golygydd gweledol hafaliadau mathemateg neu olygu'r cwestiwn a ddewiswyd.
Dadwneud Bydd yn dadwneud y weithred ddiwethaf a wnaed.
Clirio’r Fformatio Bydd yn clirio’r fformatio presennol mewn unrhyw adran o destun a ddewisir.
Mewnosod/Golygu’r Ddolen Ychwanegu neu olygu dolen URL i wefan, tudalen, neu ffeil.
Mewnosod Ffeiliau Lleol Uwchlwytho ffeil o'ch cyfrifiadur neu ddyfais i'w blannu yn y golygydd. Gallwch ei dangos fel atodiad ffeil neu yn fewnol gyda'r testun arall, os yw'r porwr yn caniatáu hynny.
Dewislen Mewnosod Cynnwys Bydd y dewisydd cynnwys yn caniatáu i chi ddewis i fewnosod neu olygu: delweddau o’r we, cyfryngau o’r we, fideos YouTube™, cynnwys o Storfa Cwmwl, ac eitemau LTI.
Mewnosod/Golygu Delwedd o'r We Plannwch ddelwedd yn y blwch testun neu olygu delwedd gyfredol. Gallwch ychwanegu delweddau o URL.
Mewnosod/Golygu Cyfryngau o'r We Ychwanegu neu olygu URL ar gyfer fideo o sianel YouTube™ neu Vimeo™, plannu ffeiliau menter Office365.
Mewnosod Fideo YouTube Pori ac ychwanegu cynnwys sy’n cael ei weini gan y darparwr cynnwys allanol Youtube.
Mewnosod o’r Storfa ar y Cwmwl Pori ac ychwanegu cynnwys o'ch storfa ar y cwmwl.
Mewnosod/Golygu Eitem LTI Gallwch ychwanegu ffeiliau neu offer mae'ch sefydliad yn eu caniatáu o’r Content Market.
Mewnosod/Golygu Recordiad Recordio a mewnosod ffeil gyda chamera a microffon eich dyfais.

Ar gael ar gyfer hyfforddwyr yn unig yn ardal Adborth asesiadau. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.