Bysellau hwylus ar far llywio'r golygydd

Mae'r golygydd yn cefnogi bysellau hwylus ar gyfer Windows a Mac.

  • I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch Alt + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + OPT + F10. Rhoddir y ffocws ar yr eicon cyntaf ar y chwith yn y rhes gyntaf. Defnyddiwch y bysellau saeth i'r dde a'r chwith i symud ymlaen ac yn ôl. Nid yw'r saethau ar i fyny ac i lawr yn gweithio i lywio i resi gwahanol. Defnyddiwch y bysellau saeth i symud i ddiwedd un rhes ac wedyn i fyny neu i lawr i'r rhes nesaf sydd ar gael.
  • I ddewis eicon ar y bar llywio, pwyswch Enter. Dyma chi yn ôl yn y ffenestr golygu.
  • I fynd yn ôl i’r bar offer, defnyddiwch yr un bysellau hwylus: Alt + F10 neu Fn + OPT + F10 (Mac). Mae’r ffocws yn glanio ar yr eicon diwethaf i chi gael mynediad ato.
  • Defnyddiwch fysell Tab i adael y golygydd a symud i'r maes nesaf ar y dudalen.
  • Defnyddiwch Shift + Tab i adael y golygydd a symud i'r maes blaenorol ar y dudalen.

Os byddwch yn defnyddio'r bysellau hwylus sy'n symud eitemau a ddewisir un nod i'r chwith, i'r dde, i fyny neu i lawr, caiff yr eitem ei leoli'n llwyr. Picseli sy'n pennu "Lleoliad llwyr". Pan fyddwch yn symud eitem i fyny unwaith, mae'n symud i fyny un picsel.

Bysellau hwylus blwch testun y golygydd

Mae golygydd Blackboard yn seiliedig ar olygydd TinyMCE. Gallwch ddod o hyd i dudalennau sy’n disgrifio eu rhestr lawn o  Llwybrau byr y bysellfwrdd a Llwybrau byr hygyrchedd y bysellfwrdd (sy’n gydnaws â darllenyddion sgrin fel JAWS ac NVDA) ar eu gwefan. 

Nid oes gan yr unig ychwanegiad personol a wnaed i'r golygydd, y botwm Ychwanegu cynnwys ar ddiwedd yr ail res o orchmynion, fysell hwylus wedi’i hatodi ato.