Yn y profiad Gwreiddiol, mae Fy Blackboard a'r ddewislen i ddefnyddwyr ar gael bob man yn Blackboard Learn.

Gallwch gael mynediad at y ddewislen nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen. O'r ddewislen i ddefnyddwyr, gallwch gael mynediad at eich gosodiadau cwrs a'ch gosodiadau personol, megis maint testun a gwybodaeth bersonol.

Mwy ar yr adran Gosodiadau

O ddewislen Fy Blackboard i'r chwith o'r ddewislen i ddefnyddwyr, gallwch gael mynediad at ddyddiadau dyledus, defnyddwyr ac offer cymdeithasol sy'n eich helpu i ddarganfod, cysylltu, cyfathrebu a chydweithio gyda'ch rhwydwaith dysgu ar Blackboard.


Golygu'ch gwybodaeth bersonol

Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i adran gymorth "Ultra" am fanylion ar olygu'ch gwybodaeth a dewisiadau.

Gallwch olygu'r wybodaeth sy'n ymddangos yn eich cyfrif defnyddiwr ar dudalen Golygu Gwybodaeth Bersonol. Mae newidiadau a wnewch yn ymddangos ledled Blackboard Learn. Er enghraifft, os byddwch yn newid eich cyfenw, bydd y cyfenw newydd yn ymddangos ym mhob cwrs rydych wedi cofrestru arnynt neu rhai rydych yn eu dysgu. Mae mwyafrif y wybodaeth bersonol yn ddewisol.

Mae'n bosibl na fydd eich sefydliad yn caniatáu i chi newid eich gwybodaeth bersonol, cyfrinair neu osodiadau trwy Blackboard Learn. Mae Blackboard Learn yn aml yn rhannu data gyda systemau eraill ar y campws, megis swyddfa'r cofrestrydd. Efallai bydd eich sefydliad am sicrhau bod eich gwybodaeth yr un fath bob man. Yn yr achos hwn, bydd gan eich sefydliad wahanol ffordd i newid eich gwybodaeth. Cysylltwch â'ch sefydliad am ragor o wybodaeth.

  1. Gallwch gael mynediad at y ddewislen nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen, yna Gosodiadau yna Gwybodaeth Bersonol yna Golygu Gwybodaeth Bersonol. Gallwch hefyd gael mynediad at Gwybodaeth Bersonol ym mhanel Offer ar dab Fy Sefydliad.
  2. Gwneud newidiadau yn ôl yr angen.
  3. Dewiswch Cyflwyno.

Newid gosodiadau personol

Gallwch reoli'ch gosodiadau personol sy'n rheoli'r pecyn iaith, dewis o galendr a chyfarwyddiadau tudalen yn y system.

  1. Gallwch gael mynediad at y ddewislen nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen, yna Gosodiadau yna Gwybodaeth Bersonol yna Newid Gosodiadau Personol. Gallwch hefyd gael mynediad at Gwybodaeth Bersonol ym mhanel Offer ar dab Fy Sefydliad.
  2. Ar dudalen Newid Gosodiadau Personol, gallwch ddewis pecyn iaith o'r ddewislen sydd nesaf at eich diwylliant.
  3. Os yw ar gael, gallwch reoli sut mae'r calendr yn ymddangos. Dewiswch opsiwn o ddewislen Diwrnod cyntaf yr wythnos.
  4. Dewiswch Iawn i ddangos cyfarwyddiadau tudalen am esboniadau byr ar bob tudalen. Mae gan rhai tudalennau ddolenni at Rhagor o Gymorth sy'n agor ffenestr newydd gyda chamau ychwanegol ar gyfer y nodweddion.
  5. Dewiswch Cyflwyno.

Gosod opsiynau preifatrwydd

Gallwch ddewis y gwybodaeth rydych am i eraill ei weld. Mae'ch gwybodaeth yn ymddangos yn y gofrestr, ar dudalennau grŵp, ac yn y Ganolfan Raddau i hyfforddwyr. Gallwch hefyd ddewis dangos y wybodaeth yma yn y Cyfeiriadur Defnyddwyr ym mhanel Offer ar dab Fy Sefydliad. Os ydych yn dewis peidio rhannu'ch cyfeiriad e-bost, nid yw'n ymddangos unrhyw le yn Blackboard Learn.

Os yw'ch sefydliad wedi galluogi offer proffil a phobl, gallwch osod gosodiadau preifatrwydd o fewn eich proffil.

  1. Gallwch gael mynediad at y ddewislen nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen, yna Gosodiadau yna Gwybodaeth Bersonol yna Gosod Opsiynau Preifatrwydd. Gallwch hefyd gael mynediad at Gwybodaeth Bersonol ym mhanel Offer ar dab Fy Sefydliad.
  2. Ar dudalen Gosod Opsiynau Preifatrwydd, dewiswch y blychau ticio priodol i wneud eich gwybodaeth bersonol yn weladwy i ddefnyddwyr eraill Blackboard ac yn y Cyfeiriadur Defnyddwyr.
  3. Dewiswch y blychau ticio priodol os nad ydych eisiau i aelodau eraill y cwrs a'r sefydliad i gysylltu â chi ar e-bost.
  4. Dewiswch y blychau ticio priodol os nad ydych eisiau i'ch enw ymddangos yng nghofrestri'r cwrs a'r sefydliad.
  5. Dewiswch Cyflwyno.

Adran Gosodiadau

Gallwch ddewis dangos darnau penodol o'r wybodaeth yn y ddewislen i ddefnyddwyr. Er enghraifft, gallwch dynnu'r dolenni Cyrsiau a Sefydliadau.

Eich sefydliad sy'n rheoli pa nodweddion, offer a dolenni sydd ar gael. Er enghraifft, mae'n bosibl ni fyddwch yn gallu uwchlwytho llun proffil.

Ewch i'r ddewislen nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen, yna Gosodiadau yna Gwybodaeth Bersonol yna Personoli fy Ngosodiadau.

  • Yn adran Dolen Fy Ngosodiadau, os byddwch yn clirio'r blychau ticio ar gyfer Fy Nghyrsiau a Fy Sefydliadau, ni fyddant yn ymddangos yn eich dewislen i ddefnyddwyr.
  • Os byddwch yn dewis y blychau ticio, bydd adrannau Cyrsiau a Sefydliadau yn dangos gyda rhestr o'ch holl gyrsiau a sefydliadau.
    • Os nad oes gennych unrhyw gyrsiau neu sefydliadau, ni fydd y dolenni'n ymddangos.
    • Os nad ydych erioed wedi cyrchu cwrs neu sefydliad, bydd yn ymddangos mewn is-adran. Er enghraifft, yn adran Cyrsiau, bydd cwrs nad ydych wedi ei gyrchu erioed yn ymddangos yn Fy Nghyrsiau Eraill.

Nid yw'r dewisiadau a wnewch yn effeithio ar fodiwlau Fy Nghyrsiau neu Fy Sefydliadau ar dab Fy Sefydliad neu ar yr hyn sy'n ymddangos ar dab Cyrsiau.

Os byddwch yn clirio'r blwch ticio ar gyfer Casgliad o Gynnwys: Nodau Tudalen, ni fyddwch unrhyw rai o'r nodau tudalen a grëwch yn y Casgliad o Gynnwys yn ymddangos yn yr adran Dolenni.

Adran dolenni

Gall eich sefydliad ddarparu dolenni yn adran Dolenni a gallwch ddangos nodau tudalen a gadwyd o'r Casgliad o Gynnwys. Ni allwch reoli pa ddolenni mae'ch sefydliad yn dewis eu rhannu.


Rheoli rhaglenni trydydd parti

Pan fyddwch yn defnyddio darn o offer trydydd parti, efallai bydd y rhaglen yn gofyn am eich caniatâd i weithredu o fewn Learn ar eich rhan. Mae'r broses yma'n caniatáu i raglen ddysgu gyflwyno eu haseiniadau neu dasgau rydych wedi'u cwblhau i Blackboard Learn. Yn debyg i gysoni rhaglenni cyfryngau cymdeithasol, mae'r integreiddiad yn caniatáu i'ch platfformau dysgu i weithio gyda'i gilydd. Wedi i chi ganiatáu mynediad, gallwch reoli'r awdurdodaeth o Awdurdodi Rhaglenni ar y panel Offer.


Newid eich cyfrinair

Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i’r adran gymorth "Ultra" am gyfrineiriau.

Argymhellwn eich bod yn newid eich cyfrinair o dro i dro er mwyn sicrhau diogelwch. Peidiwch â defnyddio gwybodaeth bersonol gyffredin ar gyfer eich cyfrinair, er enghraifft, eich enw.

Mewngofnodwch i newid eich cyfrinair. Ewch i'r ddewislen nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen > Gosodiadau > Gwybodaeth Bersonol > Newid Cyfrinair.

Mae rhaid defnyddio llythrennau bach/mawr yn gywir mewn cyfrineiriau, ni ddylent gynnwys bylchau, ac mae rhaid iddynt fod o leiaf un nod o hyd. Gall cyfrineiriau gynnwys uchafswm o 32 nod.

Wedi anghofio’ch cyfrinair?

  1. Llywiwch i'r URL ble rydych yn cael mynediad at Blackboard.
  2. Ar y dudalen mewngofnodi, dewiswch Wedi Anghofio'ch Cyfrinair? neu Anghofio Cyfrinair?
  3. Teipiwch eich enw cyntaf, cyfenw a chyfrinair. Byddwch angen cyfeiriad e-bost gweithredol yn gysylltiedig â'ch cyfrif i dderbyn cyfarwyddiadau. Neu, teipiwch eich enw cyntaf, cyfenw a chyfeiriad e-bost.
  4. Cyflwyno.

Ar ôl i chi gyflwyno'ch gwybodaeth, gallwch greu cyfrinair newydd yn seiliedig ar y cyfarwyddiadau a dderbyniwch mewn e-bost. Mae'ch cyfrinair cyfredol yn parhau'n weithredol tan i chi ei newid.


ULTRA: Newid eich cyfrinair

Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i'r adran gymorth "Gwreiddiol" am fanylion ar gyfrineiriau.

Os welwch chi restr lle mae'ch enw yn ymddangos, mae'ch sefydliad yn defnyddio profiad Ultra. Gallwch newid eich cyfrinair gyda'r ddolen Anghofio Cyfrinair? ar y dudalen mewngofnodi. Os ydych chi eisoes wedi mewngofnodi, allgofnodwch i gael mynediad at y dudalen.

Teipiwch eich enw cyntaf, cyfenw a chyfrinair. Byddwch angen cyfeiriad e-bost gweithredol yn gysylltiedig â'ch cyfrif i dderbyn cyfarwyddiadau. Neu, teipiwch eich enw cyntaf, cyfenw a chyfeiriad e-bost.

Ar ôl i chi gyflwyno'ch gwybodaeth, gallwch greu cyfrinair newydd yn seiliedig ar y cyfarwyddiadau y derbyniwch mewn e-bost. Mae'ch cyfrinair cyfredol yn parhau'n weithredol tan i chi ei newid.

Gallwch hefyd newid eich cyfrinair o'ch tudalen Proffil. Ewch i'ch proffil a dewiswch Newid Cyfrinair. Ar y panel Newid Cyfrinair, teipiwch eich hen gyfrinair a'ch cyfrinair newydd. Dewiswch Cadw pan rydych wedi gorffen.

Os ydych yn newid eich cyfrinair system, ni fydd yn effeithio unrhyw gyfrifon allanol, megis Google, yr ydych yn eu defnyddio i fewngofnodi i Blackboard Learn.


ULTRA: Golygu'ch gwybodaeth a dewisiadau

Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i'r adran gymorth "Gwreiddiol" am fanylion ar olygu'ch gwybodaeth bersonol.

Eich proffil yw'r lle i olygu gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'ch persona. Mae'ch proffil yn ymddangos gydag ychydig wybodaeth, a ni allwch ddileu'ch proffil. Eich sefydliad sy'n penderfynu beth gallwch ei bersonoli.

  1. Yn y rhestr lle mae'ch enw yn ymddangos, dewiswch eich enw i gael mynediad at eich proffil.
  2. Dewiswch y saeth nesaf at un o'r mathau o wybodaeth proffil, megis Enw Llawn. Mae panel newydd yn ymddangos.
  3. Gwnewch y newidiadau. Caiff y wybodaeth ei gadw wrth i chi deipio.
  4. Mae Canslo neu X yn dileu'ch newidiadau ac yn cau'r panel.