Gosodiadau'r Asesiad
Mae gan Learn nifer o opsiynau ar gyfer personoli asesiadau. I gyrchu gosodiadau ar gyfer profion, aseiniadau a ffurflenni, dewiswch Gosodiadau ar dudalen yr asesiad newydd. Bydd y panel Gosodiadau yn agor.
Mae gan fathau gwahanol o asesiadau opsiynau gwahanol. Efallai na fyddwch yn gallu addasu gosodiad gan ddibynnu ar y math o asesiad.
Bydd rhai opsiynau yn y panel Gosodiadau yn agor panel arall. I adael y panel a mynd yn ôl i brif banel Gosodiadau, dewiswch yr X ar frig y panel.
I ddysgu mwy am yr adran Offer Ffurfiannol , gweler Asesiadau Ffurfiannol.
Mae cynnwys y dudalen help hon yn cynnwys:
Manylion a Gwybodaeth
Mae adran Manylion a Gwybodaeth y panel Gosodiadau yn cynnwys opsiynau i reoli dyddiadau cyflwyno, cyflwyniadau, ymgeisiau a sgyrsiau.
Yn ddiofyn, gosodir dyddiadau cyflwyno ar y diwrnod nesaf am 11:59 p.m. yn eich cylchfa amser. Mewn senarios fel dysgu ar eich liwt eich hun, gallwch ddewis tynnu'r dyddiad cyflwyno.
Dewiswch y blwch wrth ochr unrhyw un o'r opsiynau i'w troi ymlaen neu'u diffodd.
Mae opsiynau eraill yn cynnwys:
Dangos un cwestiwn ar y tro
Mae cynllunio asesiadau'n ofalus yn bwysig. Rydych eisiau cael hyblygrwydd wrth ddangos cwestiwn. Er enghraifft, gallwch ddewis dangos un cwestiwn ar y tro.
- Ganolbwyntio ar un cwestiwn ar y tro
- Gwella'r perfformiad porwr ar gyfer mynediad myfyrwyr ar gyfrifiaduron hŷn
- Gwella'r profiad ar gyfer myfyrwyr mewn ardaloedd anghysbell sydd â chysylltiadau rhwydwaith gwael
- Cael profiad defnyddiwr gwell wrth gymryd prawf ar ddyfais symudol, lle gall sgrolio drwy gyffwrdd arwain at gamgymeriadau
O'r panel Gosodiadau, ewch i'r adran Opsiynau Cyflwyniad . Dewiswch Dangos un cwestiwn ar y tro. Ni allwch ddewis yr opsiwn hwn nes bod gan eich asesiad gwestiynau.
Gwylio fideo am ddangos un cwestiwn ar y tro mewn asesiadau
Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.
Fideo: Mae Dangos un cwestiwn ar y tro yn dangos sut gall hyfforddwr ddewis dangos un cwestiwn ar y tro ar gyfer myfyrwyr a'i fanteision posibl.
Gwahardd mynd yn ôl ar gwestiynau
Gallwch orfodi dilyniant cwestiynau mewn asesiad gyda'r opsiwn Gwahardd mynd yn ôl. Mae dilyniant yn bwysig pan fydd y cwestiynau nesaf yn darparu awgrymiadau neu'n datgelu atebion cwestiynau cynharach. Unwaith bod myfyrwyr wedi ateb y cwestiwn a symud ymlaen i'r cwestiwn nesaf, ni allant fynd yn ôl.
Os bydd myfyriwr yn hepgor cwestiwn, bydd rhybudd yn rhoi gwybod iddynt na allant fynd yn ôl ar ôl gwneud hynny.
Mae'n rhaid bod gennych o leiaf dau gwestiwn yn eich asesiad a bod Dangos un cwestiwn ar y tro wedi'i droi ymlaen. O'r panel Gosodiadau , ewch i'r adran Opsiynau Cyflwyniad. Dewiswch Gwahardd mynd yn ôl.
Trefnu cwestiynau ac atebion ar hap
Gallwch drefnu cwestiynau a'u hatebion ar hap i ategu gweithgareddau ymarfer a helpu myfyrwyr i osgoi anonestrwydd academaidd.&bsp;
Gallwch ddim ond trefnu atebion ar hap ar gyfer cwestiynau Cyfatebu ac Amlddewis. Os rydych eisiau trefnu atebion ar hap ar gyfer cwestiynau Gwir/Gau, defnyddiwch y math o gwestiwn Amlddewis gyda dewisiadau ateb Gwir a Gau.
Gallwch ddefnyddio un neu ddau osodiad er mwyn i brofion ymddangos yn wahanol ar gyfer pob myfyriwr. Bydd neges yn ymddangos ar dudalen Gosodiadau y prawf ynghylch eich dewisiadau trefnu atebion ar hap.
Mae'n rhaid bod gennych gwestiynau prawf yn barod er mwyn dewis yr opsiynau trefnu ar hap.
Trefnu cwestiynau ar hap
Yn y Gosodiadau, ewch i'r adran Opsiynau Cyflwyniad. Dewiswch Trefnu cwestiynau ar hap i ddangos cwestiynau i fyfyrwyr mewn trefn ar hap.
Mae cwestiynau'n ymddangos mewn trefn wrth i chi greu prawf. Bob tro mae myfyriwr yn dechrau cais ar brawf, mae'r cwestiynau'n ymddangos mewn trefn wahanol. Os rydych yn cynnwys cyfeiriadau at rifau’r cwestiynau fel y maent yn ymddangos ar y tab Cynnwys a Gosodiadau, peidiwch â defnyddio'r opsiwn Trefnu cwestiynau ar hap. Mae'r drefn ar hap yn newid rhifau'r cwestiynau a gallai achosi dryswch.
Ar ôl i fyfyrwyr ddechrau eu cyflwyniadau, gallwch ddewis neu glirio'r gosodiad Trefnu cwestiynau ar hap.
Trefnu atebion ar hap
Yn y Gosodiadau, dewiswch Trefnu atebion ar hap i ddangos opsiynau ateb Ateb Lluosog ac Amlddewis i fyfyrwyr mewn trefn ar hap.
Mae atebion yn ymddangos mewn trefn wrth i chi greu'r prawf. Bob tro mae myfyriwr yn dechrau ymais prawf, mae'r atebion yn ymddangos mewn trefn wahanol.
Ar ôl i fyfyrwyr ddechrau eu cyflwyniadau, ni allwch ddewis neu glirio'r gosodiad Trefnu atebion ar hap.
Trefnu tudalennau ar hap
Os oes gan eich asesiad gwestiynau ar draws nifer o dudalennau (er enghraifft, tudalen â chwestiynau Amlddewis wedi'i dilyn gan dudalen â chwestiynau Traethawd), bydd Trefnu tudalennau ar hap yn rhoi trefn ddangos y tudalennau hyn ar hap.
Os yw'ch asesiad wedi'i osod i drefnu tudalennau ar hap, mae'r opsiwn Peidio â threfnu'r dudalen gyntaf ar hap yn caniatáu i chi gadw'r dudalen gyntaf yn ei lle. Mae hyn yn ddefnyddiol os yw tudalen gyntaf yr asesiad yn cynnwys cyfarwyddiadau.
Graddio a Chyflwyniadau
Mae'r adran Graddio a Chyflwyniadau yn rhoi amrywiaeth o opsiynau addasu i chi ar gyfer eich graddio. Gallwch ddewis:
- Categori gradd
- Ymgeisiau a ganiateir — Os rydych eisiau caniatáu ymgeisiau lluosog, rhowch y nifer a ganiateir.
- Ar gyfer Ymgeisiau i'w graddio, dewiswch pa ymgais sy'n ymddangos fel Angen ei Raddio yn y llyfr graddau: Ymgais gyntaf, Ymgais diwethaf, neu Pob ymgais.
- Os rydych yn dewis Pob ymgais, mae'n rhaid i chi hefyd ddewis y dull cyfrifo ar gyfer y Cyfrifiad Terfynol.
- Graddio gan ddefnyddio — Dewiswch y math o sgema graddio i'w ddefnyddio, fel Llythyren, Pwyntiau, Canran, a Wedi'i gwblhau/Heb ei gwblhau.
- Nifer mwyaf o bwyntiau — Rhowch y nifer mwyaf o bwyntiau a ganiateir ar gyfer yr asesiad.
- Ymatebion dienw — Dewiswch yr opsiwn hwn i wneud canlyniadau ymatebion ffurflen yn ddienw.
Graddio Dienw
Ewch i'r pwnc "Graddio Dienw" am ragor o wybodaeth am yr opsiwn Graddio Dienw .
Opsiynau gwerthuso
Mae opsiynau gwerthuso'n cynnwys:
- 2 raddiwr fesul myfyriwr
- Adolygiad gan gyfoedion
- Graddio Dirprwyedig
Ewch i'r pwnc "Graddio Dirprwyedig" am ragor o wybodaeth am yr opsiwn Graddio Dirprwyedig.
Gradd yr asesiad
Gallwch ddewis cyhoeddi graddau asesiadau yn awtomatig pan gaiff yr aseiniad ei raddio. Mae'r nodwedd hon yn cynnwys aseiniadau a raddir yn awtomatig ac â llaw, yn ogystal â phrofion â mathau o gwestiynau a raddir yn awtomatig. Diffoddwch y gosodiad os ydych eisiau rheoli cyhoeddi graddau â llaw.
Caniatáu i fyfyrwyr weld eu cyflwyniadau
Mae cefnogi uniondeb academaidd a diogelu cynnwys asesiadau yn bwysig. Ewch i'r panel Gosodiadau a sgroliwch i'r adran Canlyniadau'r asesiad i ddewis pryd rydych eisiau rhyddhau canlyniadau'r asesiad. Ewch i'r Gwedd Gyflwyniad, wedyn dewiswch y gosodiad diofyn sef Ar gael ar ôl cyflwyno i ddangos y panel Amser canlyniadau asesiadau.
Yn y panel, gallwch ddiffinio pryd gall y myfyriwr weld eu cyflwyniad asesiad. Gall myfyrwyr weld eu cyflwyniad yn y ffyrdd canlynol:
- ar ôl cyflwyno'r asesiad
- ar ôl i'r hyfforddwr gyhoeddi gradd y myfyriwr unigol ar gyfer yr asesiad
- ar ôl dyddiad cyflwyno'r asesiad • ar ôl i'r hyfforddwr gyhoeddi pob gradd ar gyfer yr asesiad
- ar ddyddiad penodol
I droi'r gallu i weld cyflwyniadau ymlaen neu'i ddiffodd, dewiswch Caniatáu i fyfyrwyr weld eu cyflwyniad. Pan fyddwch wedi gorffen dewis gosodiadau, dewiswch Cadw.
Senarios enghreifftiol:
- Rydych yn cyflawni arholiad pwysig iawn. Ni ddylai fod modd i fyfyrwyr ddychwelyd i gwestiynau'r arholiad ar ôl cyflwyno eu hatebion.
- Mae myfyrwyr yn sefyll arholiad yn anghydamserol. Rydych eisiau i fyfyrwyr adolygu'r cwestiynau, atebion, ac adborth awtomatig ar ôl i bob gradd gael ei chyhoeddi.
Y gosodiad diofyn yw y gall myfyrwyr weld canlyniadau'r asesiad ar ôl cyflwyno. Bydd dad-ddewis yr opsiwn hwn yn cuddio gwedd gyflwyniad myfyrwyr. Mae opsiynau adborth eraill sydd wedi'u cynnwys yn y panel ochr yn parhau i fod yn weladwy. Mae hyn yn cynnwys adborth cyffredinol yr asesiad, y radd derfynol, a'r adroddiad gwreiddioldeb (os yw'n berthnasol).
Rhoi adborth awtomatig am gyflwyniadau asesiadau
Mae adborth awtomatig yn caniatáu i chi roi adborth wedi'i ysgrifennu ymlaen llaw ar fathau unigol o gwestiynau a raddir yn awtomatig. Bydd myfyrwyr yn cael eich adborth yn awtomatig yn seiliedig ar y gosodiadau rhyddhau rydych yn eu rhoi. Yn ddiofyn, dangosir adborth awtomatig ar ôl cyflwyniad y myfyriwr.
Os rydych yn dewis Dangos atebion cywir, mae angen i’ch gosodiadau adborth awtomatig ddangos ar yr un pryd â neu cyn eich dyddiad dangos atebion cywir.
Creu adborth awtomatig
Dewiswch y togl dan y cwestiynau wrth eu greu i ysgrifennu adborth awtomatig.
Rhowch eich adborth ar gyfer Adborth ateb cywir ac Adborth ateb anghywir. Mae adborth ateb anghywir hefyd yn ymddangos ar gyfer atebion â chredyd rhannol. Dewiswch Cadw.
Sgorau cwestiynau
Yn ddiofyn, gosodir sgorau cwestiynau i Ar gael ar ôl cyhoeddi pob gradd. Dewiswch Ar gael ar ôl cyhoeddi pob gradd i agor y panel Amser canlyniadau asesiadau.
Dewiswch neu ddad-ddewis Sgorau cwestiynau i osod a yw sgorau cwestiynau yn cael eu dangos i fyfyrwyr.
Gallwch reoli pryd dangosir sgorau cwestiynau. Mae'r opsiynau yn cynnwys:
- Ar ôl cyhoeddi gradd unigol
- Ar ôl y dyddiad cyflwyno
- Ar ôl cyhoeddi pob gradd
- Ar ddyddiad penodol
Dangos atebion cywir ar gyflwyniadau asesiadau
Gallwch ganiatáu i fyfyrwyr weld yr atebion cywir ar gyfer cwestiynau a raddir yn awtomatig ar ôl cyflwyno. Fel arall, gallwch hefyd guddio atebion nes i bob myfyriwr orffen cyflwyno ei waith.
Yn ddiofyn, cuddir atebion cywir a sgoriau fesul cwestiwn rhag myfyrwyr.
Ewch i'r panel Gosodiadau. Sgroliwch i lawr i'r adran Canlyniadau'r asesiad. Dan Atebion Cywir, dewiswch Troi'r gosodiad ymlaen.
Bydd dewis Troi'r gosodiad ymlaen yn mynd â chi i'r panel Amser canlyniadau asesiadau. Mae gennych yr opsiynau canlynol ar gyfer dangos atebion cywir:
- Ar ôl cyhoeddi gradd unigol
- Ar ôl y dyddiad cyflwyno
- Ar ôl cyhoeddi pob gradd
- Ar ddyddiad penodol
Dewiswch Cadw.
Ar ôl i fyfyrwyr gwblhau asesiad a mynd yn ôl i’w adolygu, bydd baner yn ymddangos ar frig yr asesiad. Rhoddir gwybod iddynt y bydd eu hyfforddwr yn datgelu’r atebion cywir ar ôl i bob myfyriwr gyflwyno. Ni fydd unrhyw adborth a roddwyd gennych yn ymddangos nes i chi gyhoeddi graddau.
Diogelwch
Ar gyfer profion, mae Blackboard yn rhoi opsiynau i ychwanegu diogelwch i chi.
Cyfyngu Lleoliad
Gallwch ofyn i fyfyrwyr sefyll y prawf neu arolwg mewn lleoliad penodol. Ni all myfyrwyr y tu allan i'r lleoliad hwn sefyll y prawf neu arolwg.
Mae'r opsiwn hwn yn seiliedig ar amrediad o gyfeiriadau IP a grëir gan eich sefydliad. Os nad yw eich sefydliad wedi creu'r ystod hon, nid yw'r opsiwn hwn yn ymddangos.
Mae cyfeiriadau IP yn nodi cyfrifiaduron penodol ac yn ddull da i orfodi gofynion cyfyngu lleoliad. Ar y dudalen Gosodiadau Prawf, dewiswch leoliad o’r ddewislen Cyfyngiad Lleoliad.
Codau mynediad
Ychwanegu haen o ddiogelwch at eich asesiadau â chod mynediad. Dosbarthwch god mynediad i reoli pan fydd myfyrwyr yn cymryd asesiad.
Cynhyrchir codau mynediad ar hap gan y system. Ni allwch addasu'r codau mynediad.
Mae asesiadau yn cyfeirio at brofion ac aseiniadau, ond nid eitemau SCORM.
Enghraifft:
Gallwch ychwanegu cod mynediad gan eich bod eisiau i ychydig o fyfyrwyr wneud yr asesiad cyn myfyrwyr eraill. Gallwch ryddhau’r cod mynediad i’r grŵp cyntaf o fyfyrwyr. Ni all y myfyrwyr sy’n gwneud yr asesiad yn nes ymlaen weld rhagolwg o'r asesiad cyn iddynt ei wneud.
Enghraifft:
Gallwch ychwanegu cod mynediad ar gyfer asesiad wedi’i oruchwylio neu wedi’i arolygu. Mae myfyrwyr yn dangos prawf hunaniaeth, yn cael y cod gan yr hyfforddwr neu broctor ac yn gwneud yr asesiad yn y dosbarth.
Os yw sawl grŵp o fyfyrwyr yn gwneud yr un prawf ar amseroedd gwahanol, gallwch newid y cod mynediad ar gyfer pob grŵp. Gwnewch yn siŵr nad yw myfyrwyr wedi cadw eu gwaith i’w orffen yn nes ymlaen.
Yn y panel Gosodiadau, dewiswch Ychwanegu cod mynediad yn yr adran Diogelwch asesiad.
Dewiswch y botwm wrth ochr Nid oes angen cod mynediad i droi codau mynediad ymlaen.
Mae’r system yn cynhyrchu cod mynediad 6 digid ar hap ni allwch ei addasu. Yn ddiofyn, mae'n ymddangos fel 6 seren: ******. Defnyddiwch yr eiconau wrth ochr y cod mynediad i gopïo, cynhyrchu rhif ar hap newydd, neu ddangos y cod mynediad. Hofranwch dros eicon i weld ei bwrpas.
Dim ond hyfforddwyr sy’n gallu cynhyrchu a newid y cod mynediad. Os byddwch yn diffodd y cod mynediad ac yn ei droi ymlaen eto, ni fydd y cod mynediad yn newid.
Dewiswch Parhau. Mae'r cod mynediad bellach yn ymddangos yn ôl yr angen yn y panel Gosodiadau. Gallwch ddewis eicon y bin sbwriel i dynnu'r cod mynediad. Ni fydd angen cod mynediad ar fyfyrwyr i ddechrau neu barhau â'r asesiad mwyach.
Neges Atgoffa: Mae hyfforddwyr neu oruchwylwyr yn rhoi'r cod mynediad i fyfyrwyr.
Beth mae myfyrwyr yn ei weld?
Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, gall myfyrwyr weld yr asesiad os nad ydych yn ychwanegu amodau rhyddhau neu’n ei guddio. Gall myfyrwyr agor y panel Manylion a Gwybodaeth i weld unrhyw gyfarwyddiadau rydych wedi’u hychwanegu. Ni allant ddechrau'r asesiad heb y cod mynediad.
Ni storir y cod mynediad unrhyw le yn y system. Gall myfyrwyr ond dderbyn y cod mynediad gennych chi neu rolau eraill rydych yn dewis ei roi iddynt. Gallwch newid y cod mynediad yn ôl yr angen a rhoi gwybod i fyfyrwyr.
Gall myfyrwyr ddefnyddio'r un cod os ydynt yn cadw’r asesiad ac eisiau dod yn ôl yn nes ymlaen. Nid oes angen i fyfyrwyr ddefnyddio'r cod mynediad i weld y graddau ac adborth rydych yn eu cyhoeddi.
LockDown Browser Dashboard
I ychwanegu rhagor o ddiogelwch at eich asesiadau, gallwch droi’r Lockdown Broswer a chod mynediad ymlaen a byddant yn gweithio gyda’i gilydd. Mae angen i fyfyrwyr roi'r cod mynediad cywir cyn i’r LockDown Browser lansio.
Gwylio fideo am Ychwanegu cod mynediad
Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.
Fideo: Mae Ychwanegu cod mynediad yn esbonio sut i ychwanegu cod mynediad at asesiadau.
Offer Ychwanegol
Ewch i'r panel Gosodiadau i gyrchu'r adran Offer Ychwanegol. Mae Offer Ychwanegol yn cynnwys:
- Terfyn amser
- Cyfarwyddyd graddio
- Nodau a safonau
- Neilltuo grwpiau
- Adroddiad Gwreiddioldeb
Ewch i'r pwnc "Graddio gyda Chyfarwyddiadau" am ragor o wybodaeth am raddio â chyfarwyddiadau.
Ewch i'r pwnc "Nodau" am ragor o wybodaeth am Nodau a Safonau.
Ewch i'r pwnc "Creu a Rheoli Grwpiau" am ragor o wybodaeth am grwpiau.
Ychwanegu amserydd at eich prawf
Gall terfyn amser sicrhau bod myfyrwyr ar y trywydd iawn ac y canolbwyntio ar brawf oherwydd bod ganddynt amser cyfyngedig i gyflwyno'r gwaith. Bydd ymgeisiau'r prawf yn cael eu cadw a’u cyflwyno’n awtomatig pan ddaw'r amser i ben.
Ni allwch ychwanegu terfyn amser at brofion grŵp.
Gallwch hefyd ganiatáu i fyfyrwyr weithio ar ôl y terfyn amser. Mae amser ychwanegol yn caniatáu i fyfyrwyr ailgysylltu os ydynt yn colli cysylltiad yn ystod eu hymgeisiau. Gallwch ganiatáu amser ychwanegol i weld a yw'r amser gwreiddiol rydych chi wedi’i osod yn ddigon i fyfyrwyr ddarllen ac ateb yr holl gwestiynau. Pan fyddwch yn graddio profion, gallwch weld faint o amser ychwanegol ddefnyddiodd pob myfyriwr i gwblhau'r prawf. Gallwch hefyd weld pa gwestiynau a atebwyd ar ôl y terfyn amser cychwynnol. Mae myfyrwyr hefyd yn gweld yr un wybodaeth hon pan fyddant yn cyrchu eu profion graddedig.
Yn y panel Gosodiadau, dewiswch Ychwanegu terfyn amser yn yr adran Offer Ychwanegol.
Rhowch derfyn amser mewn munudau. Mae rhaid i chi ychwanegu terfynau amser fel rhifau cyfan rhwng 1 a 1440. Ni chefnogir degolion.
Nesaf, dewiswch un o ddau opsiwn:
- Caiff gwaith ei gadw a'i gyflwyno'n awtomatig pan ddaw'r amser i ben: Os nad yw myfyriwr yn cyflwyno o fewn y terfyn amser, mae'r system yn cadw ac yn cyflwyno'r prawf yn awtomatig.
- Bydd gan fyfyrwyr amser ychwanegol i weithio ar ôl i'r terfyn amser ddod i ben: Yn y ddewislen sy'n ymddangos pan fyddwch yn dewis yr opsiwn hwn, dewiswch faint o amser ychwanegol:
- 50%
- 100%
- Amser ychwanegol diderfyn
Mae'r opsiynau 50% a 100% yn dangos faint o amser sy'n cael ei ychwanegu at y terfyn amser cyn i'r prawf gael ei gadw a'i gyflwyno'n awtomatig.
Er enghraifft, os ydych chi'n gosod 60 munud fel y terfyn amser ac yn dewis 50% o amser ychwanegol, gall eich myfyrwyr weithio am 30 munud ychwanegol. Ni fydd eich myfyrwyr yn cael eu rhybuddio am yr amser ychwanegol a ganiateir hyd nes y bydd y terfyn amser cychwynnol bron i fyny. Maen nhw'n derbyn negeseuon popian-i fyny sy'n eu rhybuddio am yr amser ychwanegol a ganiateir. Gallant ddewis defnyddio'r amser ychwanegol neu gyflwyno'r prawf. Fe'u hysbysir y gallent dderbyn credyd rhannol am waith a gyflwynir ar ôl y terfyn amser.
Os rydych yn caniatáu ymgeisiau lluosog, mae'r terfyn amser yn berthnasol i bob ymgais.
Dewiswch yr X i fynd yn ôl i'r panel Gosodiadau. Gallwch weld y gosodiad terfyn amser a wnaethoch. Dewiswch y terfyn amser os rydych eisiau gwneud newidiadau. Pwyntiwch at y terfyn amser i gyrchu'r eicon sbwriel i'w dynnu. Fodd bynnag, ni allwch olygu'r terfyn amser ar ôl i fyfyrwyr wneud cyflwyniadau. Mae'r terfyn amser hefyd yn ymddangos ar y dudalen Cynnwys y Cwrs gyda manylion y prawf, ond nid yw'r amser ychwanegol yn ymddangos.
Cymhwysiad terfyn amser + therfyn amser
Os oes gan fyfyrwyr gymhwysiad terfyn amser ac rydych yn caniatáu rhagor o amser i gwblhau asesiad yn y gosodiadau, cyfunir yr amseroedd.
Rhagor am gymwysiadau terfyn amser
Beth mae myfyrwyr yn ei weld?
Mae myfyrwyr yn gweld y terfyn amser gyda manylion prawf eraill ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Maent hefyd yn gweld y terfyn amser ar banel Manylion a Gwybodaeth y prawf ac o fewn y prawf wrth iddynt weithio arno.
Pan fydd myfyrwyr yn dewis Dechrau ymgais, byddant yn gweld ffenestr naid i ddechrau'r amserydd cyn y gallant gyrchu'r prawf.
Mae'r amserydd yn parhau i redeg a yw myfyrwyr yn gweithio'n weithredol ar y prawf ai peidio. Mae'r amserydd yn ymddangos ar waelod y ffenestr i adael i fyfyrwyr wybod faint o amser sydd ar ôl. Os byddant yn cadw drafft neu yn gadael y ffenestr prawf, mae'r cyfrif yn parhau ac mae eu gwaith yn cael ei gadw a'i gyflwyno pan fydd amser yn dod i ben.