Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Gyda chwestiynau Rhifyddol Cyfrifedig, mae myfyrwyr yn cael eu cyflwyno â chwestiwn sydd angen ateb ar ffurf rhif. Nid oes dim angen i'r cwestiwn fod yn fformiwla fathemategol. Gallwch ddarparu cwestiwn testun sy'n gofyn am ateb ar ffurf rhif. Mae Cwestiynau Rhifyddol Cyfrifedig yn debyg i gwestiynau Llenwi'r Bylchau lle mae'r atebion cywir yn rhifau.
- Gall myfyriwr roi rhif fel ateb. Gall y rhif fod yn gyfanrif, degolyn neu nodiant gwyddonol. Y gwerth mwyaf a gefnogir yw 16 digid.
- Gall hyfforddwyr gyfuno testun â fformiwlâu mathemategol yn y cwestiwn.
- Gall hyfforddwyr ddiffinio amrediad atebion. Gall gwerth yr amrediad fod yn gyfanrif, degolyn neu nodiant gwyddonol. Y gwerth mwyaf a gefnogir yw 16 digid.
- Mae maes yr ateb yn dilysu digidau rhifyddol yn unig.
Enghraifft:
Os yw tymheredd cyfartalog y corff dynol o dan amodau arferol yn amrywio rhwng 36.5 gradd Celsius a 37.5 gradd Celsius, beth yw tymheredd cyfartalog y corff dynol mewn Fahrenheit?
Gallwch ddynodi ateb rhifol union gywir, neu gallwch ddynodi ateb ac amrediad a ganiateir.
Caiff cwestiynau Rhifyddol Cyfrifedig eu graddio'n awtomatig.
Mae'n rhaid i atebion rhifyddol cyfrifedig fod yn rhifau, nid alffaniwmerig—42, nid pedwar deg dau.
Creu cwestiwn Rhifydol Cyfrifedig
- Cyrchwch brawf, arolwg, neu gronfa. O'r ddewislen Creu Cwestiwn, dewiswch, Rhifyddol Cyfrifedig.
- Teipiwch Testun y Cwestiwn a'r Ateb Cywir. Mae'n rhaid i'r gwerth hwn fod yn rhif.
- Fel arall, caniatewch amrediad atebion. Gall gwerth yr amrediad fod yn gyfanrif, degolyn neu nodiant gwyddonol. Y gwerth mwyaf a gefnogir yw 16 digid.
- Dewiswch Cadw.
Mae fformiwlâu mathemateg yn rendro fel delweddau SVG
Mae hyfforddwyr a myfyrwyr yn defnyddio fformiwlâu mathemateg yn aml mewn cyrsiau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM). Yn y gorffennol, efallai roedd fformiwlâu yn rendro'n araf neu'n colli ansawdd wrth i chi nesáu atynt. Nawr, byddwn yn rendro fformiwlâu mathemateg fel delweddau ar ffurf Graffigyn Fector Graddadwy (SVG). Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr nesáu at neu fwyhau delweddau fformiwlâu heb golli ansawdd. Mae'r newid hwn yn gwella hygyrchedd ar gyfer defnyddwyr â golwg isel hefyd.
Delwedd 1. Cyn rendro delweddau ar ffurf SVG
Delwedd 2. Ar ôl rendro delweddau ar ffurf SVG
Gall defnyddwyr greu fformiwlâu mathemateg gan ddefnyddio'r golygydd testun. Mae rhai mathau o gynnwys yn cynnwys disgrifiad. Mae'r disgrifiad yn ymddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Mae rhai hysbysiadau ar y Ffrwd Gweithgarwch yn dangos y disgrifiad hefyd. Pan fydd disgrifiad trafodaeth neu ddyddlyfr yn cynnwys fformiwla fathemateg, byddwn yn rhoi '[Fformiwla fathemateg]' yn lle delwedd y fformiwla. Pan fydd y defnyddiwr yn dewis y cynnwys neu'r hysbysiad, bydd y fformiwlâu mathemateg yn rendro fel delweddau.
Delwedd 3. Disgrifiad trafodaeth enghreifftiol sy'n cynnwys fformiwla fathemateg.
Delwedd 4. Pwnc trafod enghreifftiol sy'n cynnwys fformiwlâu mathemateg.