Creu prawf

Bydd profion ar gael bob amser i hyfforddwyr ond ni chefnogir arolygon a gyflwynir yn ddienw ar hyn o bryd.

Gallwch greu profion ochr yn ochr â'r cynnwys arall sydd ei angen ar fyfyrwyr wrth iddynt baratoi.  Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, dewiswch yr arwydd plws lle bynnag rydych am ychwanegu prawf. Yn y ddewislen, dewiswch Creu i agor y panel Creu Eitem a dewiswch Prawf. Bydd y dudalen Prawf Newydd yn agor.

Ni all myfyrwyr weld beth fyddwch chi’n ei ychwanegu nes i chi wneud ei profion yn weladwy.

Rhagor am sut i olygu prawf sydd eisoes yn bodoli

Course Content page, with the Test creation option highlighted

Gallwch hefyd ehangu neu greu ffolder neu fodiwl dysgu ac ychwanegu prawf.

Pan fyddwch yn creu prawf, caiff eitem llyfr graddau ei chreu yn awtomatig. Mae sgôr prawf yn cynnwys cyfanswm holl bwyntiau’r cwestiynau.

Ar ôl i chi gyhoeddi graddau profion, gall myfyrwyr weld eu sgoriau yn y dudalen graddau neu yn y ffrwd gweithgarwch. Gallant hefyd gyrchu prawf, eu cyflwyniadau, eich adborth a’u graddau o ddolen y prawf ar dudalen Cynnwys y Cwrs a thrwy'r Llyfr Graddau.


Gwyliwch fideo am fformatio testun

Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.



Fideo: Creu prawf yn esbonio sut i greu prawf ac ychwanegu cwestiynau. Byddwch hefyd yn dysgu sut i drefnu i'r prawf fod ar gael i fyfyrwyr.


Ynghylch y dudalen Prawf Newydd

Gwahaniaethu rhwng Aseiniadau a Phrofion yn Ultra

Mae Aseiniadau a Phrofion (wedi'u grwpio dan Asesiadau ym mhanel Eitemau Cynnwys y Cwrs) yn rhannu'r un rhyngwyneb defnyddiwr a'r un opsiynau. Mae llawer o opsiynau yn y gosodiadau wedi'u troi ymlaen neu eu diffodd yn seiliedig ar a oes o leiaf un cwestiwn yn yr asesiad.

Yn ymarferol, mae hyfforddwyr yn defnyddio'r asesiadau hyn yn wahanol. Er enghraifft, efallai byddwch yn creu aseiniadau â chyfarwyddiadau yn gofyn i fyfyrwyr gyflwyno ffeil i gael gradd. Mewn prawf, gall myfyrwyr ateb cyfres o gwestiynau rydych wedi'u hychwanegu at yr asesiad.

Er mwyn gwahaniaethu rhwng aseiniadau a phrofion, ac i amlygu llifau gwaith sydd â chwestiynau a'r rhai sydd hebddynt, bydd trafod profion yn pwysleisio llif gwaith sydd â chwestiynau wedi'u hychwanegu ato.

Ar gyfer disgrifiad llif gwaith sydd heb gwestiynau wedi'u hychwanegu ato, ewch i Creu a Golygu Aseiniadau.

Y dudalen Prawf Newydd

Mae tair cydran y gallwch eu haddasu ar y dudalen prawf newydd.

  • ychwanegu cynnwys prawf
  • rheoli a all myfyrwyr weld y prawf 
  • rhoi gosodiadau'r prawf ar waith
Image of new test page with boxes drawn around three areas to customize test: 1. Create content, 2. Student Visibility, and 3. Test Settings

Darparwch deitl disgrifiadol er mwyn i fyfyrwyr allu dod o hyd i'r prawf yn hawdd ymysg cynnwys eich cwrs. Ar y dudalen Cynnwys y Cwrs, bydd y teitl yn ymddangos fel y ddolen mae myfyrwyr yn ei dewis i weld y deunyddiau. Os nad ydych yn ychwanegu teitl, bydd "Prawf Newydd" a'r dyddiad yn ymddangos yn y rhestr cynnwys. Os nad ydych yn ychwanegu cynnwys, ni fydd y prawf yn ymddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs.

Ychwanegu Cynnwys Prawf

Dewiswch yr arwydd plws i agor y ddewislen i ychwanegu cwestiynau a mwy.

Image of component to create test content with box drawn around plus sign button

Gallwch ddewis math o gwestiwn, ychwanegu cronfa gwestiynau, uwchlwytho cwestiynau o ffeil neu ailddefnyddio cwestiynau a chynnwys o asesiadau sydd eisoes yn bodoli. Gallwch hefyd ychwanegu ffeiliau a thestun, megis cyfarwyddiadau ar gyfer y prawf. Gallwch hefyd ychwanegu ffeiliau o storfa cwmwl, megis OneDrive® a Google Drive™.

Rhagor am ychwanegu cwestiynau

Rhagor am ychwanegu cronfeydd cwestiynau

Rhagor am ailddefnyddio cwestiynau a chynnwys asesiadau

Rhagor am uwchlwytho cwestiynau o ffeil

Ar ôl i chi ychwanegu cwestiwn at brawf, gallwch ddewis a ydych eisiau i fyfyrwyr ychwanegu cynnwys ychwanegol, fel testun, ffeiliau ategol neu atodiadau. Yn ddiofyn, mae'r nodwedd hon wedi'i throi ymlaen ar gyfer eich prawf. Toglwch y nodwedd hon i'w diffodd os nad ydych eisiau i fyfyrwyr ychwanegu cynnwys ychwanegol. 

Test content page with additional content from students at the end of assessment turned on. You can turn off this function at any time.

Gwelededd Prawf

Image of test visibility component displaying option menu

Ni all myfyrwyr weld prawf nes i chi benderfynu ei ddangos iddynt. Gallwch greu'ch holl gynnwys ymlaen llaw a dewis beth rydych chi eisiau i fyfyrwyr ei weld yn seiliedig ar eich amserlen. Gallwch hefyd osod amodau argaeledd yn seiliedig ar ddyddiad, amser a pherfformiad ar eitemau eraill yn llyfr graddau’r cwrs. Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, gall myfyrwyr weld pryd rydych yn dewis dangos y prawf.

Gosodiadau Prawf

Mae ochr dde y dudalen yn amlinellu Gosodiadau Prawf. Er mwyn dewis a defnyddio gosodiadau, dewiswch yr eicon Gosodiadau i agor panel newydd.

Gweld cymwysiadau. Os oes gan fyfyrwyr yn eich cwrs gymwysiadau, bydd y nifer hwn o fyfyrwyr yn ymddangos yn yr adran Gosodiadau Prawf. Gallwch osod cymwysiadau ar gyfer myfyrwyr a’u heithrio rhag gofynion cwrs penodol, megis dyddiadau cyflwyno a therfynau amser ar gyfer profion. I addasu cymwysiadau, ewch i'r Rhestr a chyrchu dewislen y myfyriwr. Gallwch hefyd gael mynediad ati o'r dudalen Cyflwyniad neu'r Llyfr Graddau.

Rhagor am gymwysiadau

Image of Test Settings menu with box drawn around Accommodations display and Settings icon

Wrth ddewis eich gosodiadau, dewiswch y botwm Cadw ar waelod y panel pan fyddwch wedi gorffen.

Manylion a Gwybodaeth

Mae'r adran Manylion a Gwybodaeth yn darparu opsiynau ar gyfer cyflwyno prawf. 

Image of Details & Information section of Test Settings panel

Rhowch ddyddiad cyflwyno. Mae dyddiadau cyflwyno yn ymddangos yn y calendr ac yn y ffrwd gweithgarwch. Mae cyflwyniadau hwyr i’w gweld â label Hwyr yn llyfr graddau’r cwrs. Anogwch fyfyrwyr i adolygu beth y dylent ei gyflwyno nawr a beth sydd ar ddod er mwyn iddynt allu gofyn cwestiynau cyn gynted â phosibl.

Gwahardd cyflwyniadau hwyr. Gorfodi dyddiad cyflwyno llym ac atal cyflwyniadau hwyr. Cyflwynir ymgeisiau sydd ar y gweill a'r rhai sydd wedi'u cadw yn awtomatig ar y dyddiad cyflwyno. Bydd myfyrwyr yn derbyn derbynneb cyflwyniad drwy e-bost. Caiff cymwysiadau wedi'u nodi eu parchu.

Os yw myfyrwyr wedi cyflwyno ymgeisiau, ni allwch newid y dyddiad cyflwyno i ddyddiad yn y gorffennol. Os yw'r dyddiad cyflwyno wedi bod, ni allwch ddewis y gosodiad Gwahardd cyflwyniadau hwyr.

Gwahardd ymgeisiau newydd ar ôl y dyddiad cyflwyno. Atal myfyrwyr rhag dechrau ymgais newydd ar ôl y dyddiad cyflwyno. Caiff cymwysiadau wedi'u nodi eu parchu.

Caniatáu sgyrsiau dosbarth. Os byddwch chi’n galluogi sgyrsiau dosbarth, gall myfyrwyr drafod y prawf gyda chi a’u cyd-ddisgyblion tra bod y prawf ar gael. Gall myfyrwyr gyfrannu at y sgwrs cyn, yn ystod, ac ar ôl y prawf. Wrth i'r sgwrs ddatblygu, bydd yn ymddangos gyda'r prawf perthnasol yn unig.

Rhagor am sgyrsiau

Casglu cyflwyniadau all-lein. Efallai y byddwch am raddio gwaith myfyrwyr nad yw'n galw ar fyfyrwyr i uwchlwytho cyflwyniad. Er enghraifft, gallwch ychwanegu graddau at eich llyfr graddau ar gyfer cyflwyniadau llafar, prosiectau ffair gwyddoniaeth, perfformiadau actio, a gwaith celf a ddarperir yn bersonol.

Rhagor am gasglu cyflwyniadau all-lein

Opsiynau Cyflwyniad

Mae Opsiynau Cyflwyniad yn caniatáu i chi reoli sut dangosir cynnwys y prawf i fyfyrwyr.

Image of Presentation Options section of Test Settings panel

Rheoli cyflwyno cwestiynau. Yn ddiofyn, bydd eich prawf yn dangos pob cwestiwn i fyfyrwyr yn y drefn gwnaethoch eu hychwanegu. Gallwch ddewis o ystod o opsiynau cyflwyno sy'n diwallu eich anghenion.

  • Dangos un cwestiwn ar y tro. Mae'r opsiwn hwn yn rheoli sut mae myfyriwr yn llywio'r prawf ac yn caniatáu iddynt ganolbwyntio ar un cwestiwn ar y tro ac yn lleihau'r baich gwybyddol. Gall myfyrwyr hepgor cwestiynau pan fydd yr opsiwn hwn wedi'i alluogi, os nad yw Gwahardd mynd yn ôl wedi'i alluogi.
  • Gwahardd mynd yn ôl. Mae'r opsiwn Dangos un cwestiwn ar y tro yn rhoi'r opsiwn i chi wahardd myfyriwr rhag llywio'n ôl i gwestiynau blaenorol yn y prawf. Mae'r opsiwn hwn hefyd ar gael ar gyfer profion wedi'u tudalennu, lle mae galluogi'r opsiwn hwn yn atal myfyrwyr rhag llywio'n ôl i dudalennau blaenorol yn y prawf.

Mae opsiynau i reoli golwg a llywio cwestiynau prawf yn golygu bod llai o bryder ynghylch rhoi atebion i gwestiynau mewn rhannau eraill o'r prawf ar ddamwain. Gall hefyd annog myfyrwyr i ganolbwyntio.

Os oes gennych nifer o dudalennau yn eich prawf, bydd galluogi Dangos un cwestiwn ar y tro yn cyfuno'r dudalennau hyn i greu un dudalen. Bydd blwch naid yn rhoi gwybod i chi am eich dewis ac yn ei gadarnhau.

Image of "Combine all pages?" pop-up box
  • Trefnu cwestiynau ar hap. Mae'n rhoi trefn dangos cwestiynau i fyfyrwyr ar hap.
  • Trefnu atebion ar hap. Mae'n rhoi trefn dangos atebion ar gyfer cwestiynau Cyfatebu ac Amlddewis i fyfyrwyr ar hap.
  • Trefnu tudalennau ar hap. Os oes gan eich prawf gwestiynau ar draws nifer o dudalennau (er enghraifft, tudalen â chwestiynau Amlddewis wedi'i dilyn gan dudalen â chwestiynau Traethawd), bydd yr opsiwn hwn yn rhoi trefn dangos y tudalennau hyn ar hap.
  • Peidio â threfnu'r dudalen gyntaf ar hap. Os yw'ch prawf wedi'i osod i drefnu tudalennau ar hap, mae'r opsiwn hwn yn caniatáu i chi gadw'r dudalen gyntaf yn ei lle. Mae hyn yn ddefnyddiol, er enghraifft, os yw tudalen gyntaf y prawf yn cynnwys cyfarwyddiadau.

Gall trefnu cwestiynau, atebion, a thudalennau ar hap ategu gweithgareddau ymarfer/drilio a helpu myfyrwyr i osgoi anonestrwydd academaidd. Gallwch ddefnyddio un o'r gosodiadau hyn neu bob un ohonynt er mwyn i brofion ymddangos yn wahanol ar gyfer pob myfyriwr. 

Mae cwestiynau'n cael eu dangos yn eu trefn i chi ond maent yn cael eu trefnu ar hap i fyfyrwyr. I osgoi dryswch, peidiwch ag ychwanegu rhifau i gyfeirio at gwestiynau eraill yn y prawf.

Gallwch ddim ond trefnu atebion ar hap ar gyfer cwestiynau Cyfatebu ac Amlddewis. Os ydych eisiau trefnu atebion ar hap ar gyfer cwestiynau Gwir/Gau, defnyddiwch y math o gwestiwn Amlddewis gyda dewisiadau ateb Gwir a Gau.

Rhagor am drefnu cwestiynau ac atebion ar hap

Graddio a Chyflwyniadau

Mae Graddio a Chyflwyniadau yn darparu opsiynau ar gyfer math yr asesiad a'r meini prawf graddio. 

Image of top half of Grading & Submissions section of Test Settings panel

Newid categori’r graddau. Gallwch newid categori gradd y prawf i fod yn rhan o un o’r categorïau llyfr graddau addasedig byddwch chi’n ei osod yn eich cwrs. Gallwch greu categorïau newydd i bersonoli sut caiff gwaith cwrs ei grwpio yn eich cwrs. Gallwch chi ddefnyddio categorïau rhagosodedig ac addasedig pan fyddwch chi’n pennu’r radd gyflawn.

Pennu nifer yr ymgeisiau. Gallwch ganiatáu i’ch myfyrwyr gyflwyno mwy nag un ymgais i sefyll prawf. Pan fyddwch yn dewis caniatáu ymgeisiau lluosog, gallwch hefyd ddewis sut caiff y radd derfynol ei chyfrifo. Ni allwch ganiatáu ymgeisiau lluosog ar gyfer prawf grŵp.

Dewiswch y sgema graddio. O ddewislen Graddio gan ddefnyddio, dewiswch sgema graddio sydd eisoes yn bodoli megis Pwyntiau. Mae sgôr prawf yn cynnwys cyfanswm holl bwyntiau’r cwestiwn. Gallwch newid y sgema graddio ar unrhyw adeg a dangosir y newid i fyfyrwyr ac yn eich llyfr graddau.

Gosod y Nifer mwyaf o bwyntiau. Os byddwch yn creu prawf sy'n cynnwys blociau testun yn unig, gallwch osod y sgôr uchaf â llaw. Fel arall, golygwch werth pwyntiau cwestiynau unigol.

Galluogi gradd yr asesiad Cyhoeddi gradd myfyriwr yn awtomatig unwaith bod graddio wedi'i chwblhau. Diffoddwch y gosodiad os rydych eisiau rheoli cyhoeddi graddau â llaw. 

image of Assessment grade portion of Grading & Submissions section of Test Settings panel

Canlyniadau'r Asesiad

Mae Canlyniadau'r asesiad yn caniatáu i chi reoli sut mae myfyrwyr yn gweld adborth, sgoriau, ac atebion ar ôl iddynt gyflwyno'r asesiad.

Image of Assessment results section of Test Settings panel

Dewiswch y ddolen dan bob opsiwn i agor y panel Amser canlyniadau asesiadau i addasu Gwedd Gyflwyniad, Adborth Awtomatig am Gwestiynau, Sgorau Cwestiynau ac Atebion Cywir.

Image of Assessment results section of Test Settings panel

Caniatáu i fyfyrwyr weld eu cyflwyniad. Mae'n amddiffyn uniondeb academaidd cwestiynau'r prawf. Pan fydd wedi'i ddiffodd, gall myfyrwyr ddim ond gweld cwestiynau'r prawf wrth wneud y prawf.

Dangos adborth awtomatig. Mae'n rhoi adborth i fyfyrwyr sy’n cael ei ryddhau’n awtomatig yn seiliedig ar eich gosodiadau.

Rhagor am adborth awtomatig

Dangos sgorau cwestiynau. Mae'n rhoi sgôr unigol pob cwestiwn mewn prawf myfyriwr. Gallwch benderfynu pryd caiff y wybodaeth hon ei dangos i fyfyrwyr. 

Dangos atebion cywir. Dewiswch Dangos atebion cywir i ganiatáu i fyfyrwyr weld atebion cywir cwestiynau a farcir yn awtomatig ar ôl cyflwyno.

Rhagor am ddangos atebion cywir

Dioglewch asesiad

Mae Diogelwch Asesiad yn darparu offer i ddiogelu'r aseiniadau rydych yn eu creu.

Image of Assessment security section of Test Settings panel

Ychwanegu cod mynediad. Gallwch ddosbarthu cod mynediad i reoli pan fydd myfyrwyr yn cymryd prawf. Cynhyrchir codau mynediad ar hap gan y system. 

Rhagor am godau mynediad

Cyrchu Respondus. Offeryn trydydd parti yw Respondus® y gallwch ei defnyddio i greu, rheoli ac argraffu profion yn Blackboard. Dewiswch y ddolen i lansio'r offeryn. 

Rhagor am Respondus

Cyrchu Asesiad a Oruchwylir. Cyflenwir asesiadau a oruchwylir gan offer a ddarparwyd gan wasanaethau goruchwylio trydydd parti. Mae asesiadau a oruchwylir yn sicrhau nad yw myfyrwyr yn cael eu dylanwadu gan ffynonellau allanol wrth ddrafftio a chyflwyno ymgeisiau. Dewiswch Ffurfweddu'r gosodiadau goruchwylio. Os nad yw'r integreiddiad wedi’i alluogi yn eich sefydliad, bydd y neges hon yn ymddangos: Mae diogelwch asesiad wedi'i analluogi gan nad yw'r gwasanaeth ar gael. Cysylltwch â gweinyddwr eich sefydliad am gymorth.

Rhagor am Asesiad a Oruchwylir

Offer Ychwanegol

Mae Offer Ychwanegol yn darparu nifer o opsiynau ychwanegol i bersonoli eich prawf.

image of Additional tools section of Test Settings panel

Ychwanegu terfyn amser. Gall terfyn amser gadw myfyrwyr ar y trywydd iawn ac yn canolbwyntio ar y prawf. Mae gan bob myfyriwr gyfnod cyfyngedig i gyflwyno'r gwaith. Caiff ymgeisiau'r prawf eu cadw a’u cyflwyno’n awtomatig pan ddaw'r amser i ben. Gallwch hefyd ganiatáu i fyfyrwyr weithio ar ôl y terfyn amser. Gallwch ddim ond ychwanegu terfynau amser at brofion unigolion (nid profion grŵp).

Ychwanegu cyfarwyddyd graddio. Mae cyfarwyddyd yn offeryn sgorio ar gyfer gwerthuso gwaith a raddir. Gall defnyddio cyfarwyddiadau eich helpu i werthuso gwaith a gyflwynir gan fyfyrwyr yn seiliedig ar feini prawf allweddol rydych yn eu diffinio. Gallwch greu cyfarwyddyd newydd neu gysylltu cyfarwyddyd sydd eisoes yn bodoli yn eich cwrs. Gallwch ddim ond ychwanegu cyfarwyddyd at brawf heb gwestiynau.

Ychwanegu nodau a safonau. Mae hyfforddwyr yn alinio cynnwys cwrs i un nod neu nodau lluosog. Gallwch chi a'ch sefydliad ddefnyddio nodau i fesur cyflawniad myfyrwyr ar draws rhaglenni a chwricwla. Gallwch hefyd alinio cwestiynau prawf unigol â nodau.

Gwneud prawf grŵp. Gallwch greu prawf ar gyfer grwpiau o fyfyrwyr. Yn rhagosodedig, byddwch yn pennu gradd i bob grŵp fel cyfanrwydd, ond gallwch newid gradd unigol aelod o grŵp.

Caiff profion grŵp eu trefnu yn yr un modd ag aseiniadau grŵp.

Galluogi SafeAssign. Gallwch ddefnyddio SafeAssign i wirio am lên-ladrad posibl mewn cyflwyniadau myfyrwyr ar gyfer cwestiynau profion. Mae'r mathau o ffeiliau a gefnogir yn cynnwys:

  • DOC
  • DOCX
  • DOCM
  • PPT
  • ODT
  • txt
  • RTF
  • PDF
  • HTML
  • ZIP (sy'n cynnwys mathau o ffeiliau a gefnogir)

Nid yw ffeiliau mewn fformatiau eraill yn cael eu gwirio.

Gallwch alluogi'r Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign ar unrhyw adeg, hyd yn oed ar ôl i fyfyrwyr ddechrau eu cyflwyniadau. Fodd bynnag, bydd cyflwyniadau dim ond yn cael eu gwirio pan fydd SafeAssign wedi'i alluogi.

Os rydych eisiau eithrio cyflwyniadau myfyrwyr o'r Global Reference Database a'r Global Reference Database, mae'n rhaid i chi ddewis Eithrio cyflwyniadau o'r Cronfeydd Data Cyfeirnodau Sefydliadol a Chyffredinol cyn i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith. Ni allwch dynnu gwaith o'r cronfeydd data a gafodd ei gyflwyno cyn i chi ddewis yr opsiwn eithrio. 

Ychwanegu disgrifiad dewisol. Bydd y disgrifiad yn ymddangos gyda theitl y prawf ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Dyma le y gallwch roi mwy o wybodaeth am y prawf i fyfyrwyr neu roi cyfarwyddiadau ychwanegol iddynt.  Er enghraifft, efallai byddwch yn gofyn iddynt ddarparu dyfyniadau ar gyfer cwestiynau traethawd, cynnwys gwaith labordy, neu baratoi cynnwys cyn y prawf.

Hyd mwyaf disgrifiad yw 750 nod. Bydd rhybudd yn ymddangos dan faes y disgrifiad pan fydd 75 nod neu lai yn weddill. Bydd y botwm Cadw wedi'i analluogi os byddwch yn mynd dros 750 nod.

Image of empty Description field of Test Settings panel

Ychwanegu cwestiynau at brawf

Pan fyddwch yn creu prawf newydd, dewiswch yr arwydd plws i agor y ddewislen a dewiswch fath o gwestiwn. Gallwch hefyd ailddefnyddio cwestiynau a chynnwys o asesiadau sy'n bodoli eisoes. Os byddwch yn ychwanegu cwestiynau at brawf, ni allwch alluogi graddio cyfochrog.

This is how the expanded Add question type menu looks like when you’re creating a new test.

Bydd y maes Cynnwys Prawf yn agor pan fyddwch yn teipio’r cwestiwn a’r dewisiadau o atebion os oes angen hynny, megis yn achos cwestiynau Aml-ddewis. Mae gan gwestiynau werth diofyn o 1 pwynt. Dewiswch y blwch Pwyntiau i deipio gwerth newydd.

Expanded Insert menu and points value for question number one in a test.

Rhagor am y mathau o gwestiynau y gallwch eu hychwanegu

Gallwch ddefnyddio'r swyddogaethau yn y golygydd i fformatio testun.

I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch ALT + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + ALT + F10. Defnyddiwch fysellau'r saethau i ddewis opsiwn, megis rhestr â rhifau.

I helpu i gadw eich cynnwys prawf yn drefnus, gallwch ychwanegu ffeiliau o fewn cwestiynau unigol. Gwnewch ddewis o ddewislen Mewnosod Cynnwys y golygydd, megis Mewnosod o'r Storfa Cwmwl.

Mwy ar ychwanegu ffeiliau a blociau testun

Mwy ar olygu a dileu cwestiynau


Alinio cwestiynau â nodau

Gallwch alinio nodau â chwestiynau asesiadau unigol er mwyn helpu eich sefydliad i fesur cyrhaeddiad. Ar ôl ichi drefnu bod y prawf ar gael, gall myfyrwyr weld gwybodaeth am y nodau rydych chi'n eu halinio gyda chwestiynau fel eu bod yn gwybod eich disgwyliadau.

Ewch i ddewislen cwestiwn, dewiswch Alinio â nod, a dewiswch nodau.

Rhagor am sut i alinio nodau â chynnwys cwrs

Top right hand side corner menu highlighted to edit, align with goal or delete a question.

Cynhyrchu cwestiynau profion

Mae creu cwestiynau profion yn cymryd llawer iawn o amser. Gall yr AI Design Assistant gynnig awgrymiadau ar gyfer cwestiynau profion, gan roi amser ychwanegol i chi gael canolbwyntio ar dasgau mwy cymhleth. Mae'r AI Design Assistant o fudd ar gyfer asesiadau ffurfiannol a chrynodol. Cynhyrchir cwestiynau profion yn seiliedig ar gyd-destun y cwrs rydych yn ei ddewis.

Rhagor am yr AI Design Assistant

Yn y panel creu prawf, dewiswch Cynhyrchu cwestiwn yn awtomatig o'r ddewislen cwestiwn newydd. Gallwch gyrchu'r ddewislen cwestiwn newydd drwy bwyso'r botwm plws.

The Aut-generate question option at the top of the new question menu

Mae gennych sawl ffordd o fireinio'r cwestiynau profion y mae'r AI Design Assistant yn eu cynhyrchu.

Auto-Generate Questions panel
  • Rhoi disgrifiad dewisol (wedi'i gyfyngu i 2000 nod) i gulhau ffocws y cwestiynau 
  • Addasu cymhlethdod y cwestiynau 
  • Dewis y nifer o gwestiynau 
  • Dewiswch y saeth wrth ochr Opsiynau uwch i newid yr iaith allbwn 

Gallwch ddewis o'r mathau canlynol o gwestiynau: 

  • Traethawd 
  • Llenwi'r bwlch 
  • Cyfatebu 
  • Amlddewis 
  • Gwir/Gau 

Mae'r math o gwestiwn "Ysbrydolwch fi!" yn awgrymu amrywiaeth o fathau o gwestiynau i roi mwy o opsiynau i chi. Ewch i'r pwnc "Mathau o Gwestiynau" i ddysgu mwy am y gwahanol fathau o gwestiynau yn Learn.

 Yn ddewisol, gallwch ddewis pa eitemau cwrs yr hoffech i'r AI Design Assistant ddarparu cyd-destun ar eu cyfer ar gyfer cwestiynau prawf. Dewiswch Dewis eitemau cwrs i ddechrau arni.

Dewiswch y blwch wrth ochr unrhyw eitem o gynnwys cwrs i'w chynnwys yng nghyd-destun eich prawf. 

Context picker

Gallwch ddewis y saeth wrth ochr ffolder neu fodiwl dysgu i gynnwys eitemau ohonynt. Pan fyddwch wedi gorffen dewis eitemau ar gyfer cyd-destun, dewiswch Dewis eitemau i fynd yn ôl i gynhyrchu cwestiynau. 

Nid yw'r dewisydd cyd-destun yn casglu cyd-destun o eitemau sydd wedi'u hatodi i ddogfen Ultra. Dim ond eitemau sy'n ymddangos ar ddewislen y dewisydd cyd-destun sy'n cael eu defnyddio gan y dewisydd cyd-destun. 

Unwaith y byddwch wedi cwblhau pob un o'ch gosodiadau, dewiswch Cynhyrchu. Dewiswch y cwestiynau yr hoffech eu hychwanegu at eich asesiad, wedyn dewiswch Ychwanegu at Asesiad.

Test question panel, with the three dot More options menu dropdown open and highlighted

Adolygwch bob cwestiwn i sicrhau eu bod yn gywir ac a oes ganddynt ragfarn. Gallwch hefyd olygu cwestiynau i gyd-fynd â'ch nodau dysgu'n well. Ewch i'r pwnc "Golygu Profion a Chwestiynau" i ddysgu mwy am olygu cwestiynau profion.


Ychwanegu ffeiliau a blociau testun at brofion

Golygwch brawf. Dewiswch yr arwydd plws i agor y ddewislen lle bynnag rydych eisiau ychwanegu cwestiynau, testun neu ffeil. Gallwch ychwanegu cynifer o flociau testun a ffeiliau ag y mynnwch,

The assignment space is open with 1) a True/False question created, 2) an Essay question created, and 3) the plus sign clicked and the "Add text" option selected.

Ychwanegu blociau testun. Dewiswch Ychwanegu testun i agor y golygydd. Gallwch chi gynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer rhan o’r prawf neu destun rhagarweiniol ar gyfer ffeil sain neu ddelwedd. Gallwch hefyd ludo testun o ddogfen Word.

Gallwch chi hefyd ddefnyddio’r golygydd i ymgorffori delweddau ac atodi ffeiliau ynghyd â’ch testin.

Os byddwch chi’n creu prawf sy’n cynnwys blociau testun yn unig, gallwch newid Sgôr mwyaf yn y panel Gosodiadau Profion. Er enghraifft, efallai byddwch chi’n dymuno i fyfyrwyr lwytho cyflwyniadau i fyny neu ddefnyddio’r meysydd testun anstwrythuredig.

Ychwanegu ffeiliau. Dewiswch Atodi ffeil leol i bori am ffeiliau ar eich cyfrifiadur. Eich sefydliad sy'n rheoli maint mwyaf y ffeil y gallwch ei uwchlwytho. Ni allwch ychwanegu ffolder o ffeiliau.

Ychwanegu ffeil o’r Storfa Cwmwl. Gallwch gysylltu ar unwaith â sawl ap gwe lle rydych yn storio’ch ffeiliau, megis One Drive. Bydd y ffeiliau a ychwanegwch yn gopïau. Os ydych am olygu ffeil a gedwir ar eich storfa cwmwl, bydd angen i chi uwchlwytho copi newydd ohono i’ch cwrs. Os yw’ch porwr yn ei ganiatáu, bydd ffeiliau cyfryngau yr ydych yn eu hychwanegu o’r storfa cwmwl yn cael eu dangos yn fewnol.

Rhagor am storfa cwmwl

Opsiynau gwylio ffeil amlgyfrwng

Opsiynau gwylio ffeil amlgyfrwng

Os yw'ch porwr yn ei chaniatáu, mae ffeiliau amlgyfrwng yr ychwanegwch yn ymddangos yn fewnol yn ddiofyn. Os nad yw'ch porwr yn gallu arddangos ffeil amlgyfrwng yn fewnol, mae'n ymddangos fel atodiad. Bydd ffeiliau y byddwch chi'n eu hychwanegu o storfa cwmwl yn ymddwyn yn yr un modd.

Caiff delweddau sy’n ymddangos yn fewnol eu hymgorffori mewn bloc 768 picsel ger y torbwyntiau mwyaf. Yr agosaf yw'r delweddau i'r maint hwnnw, y lleiaf o badin sy'n ymddangos o'u hamgylch.

Ewch i ddewislen ffeil amlgyfrwng a dewiswch Golygu.

I olygu testun amgen neu ymddygiad arddangos y ffeil, dewiswch y ffeil yn y golygydd ac wedyn dewiswch yr eicon Golygu Atodiad.

Yn ffenestr Golygu Priodweddau'r Ffeil, gallwch ddewis sut mae'ch fideo, ffeil sain neu ddelwedd yn ymddangos yn yr asesiad: yn fewnol neu fel atodiad: Er enghraifft, gallwch chi arddangos ffeiliau mawr iawn fel atodiadau y gall myfyrwyr eu lawrlwytho. Galwch olygu enwau ffeiliau ar gyfer ffeiliau a ddangosir fel atodiadau.

Gallwch hefyd ychwanegu testun amgen i ddisgrifio'r delweddau ychwanegwch chi. Mae testun amgen yn disgrifio'r ddelwedd ar gyfer pobl sy'n defnyddio darllenyddion sgrin neu'n ymweld â thudalennau gwe gyda delweddau wedi'u diffodd.

Ar gyfer ffeiliau fideo a sain sy’n ymddangos yn fewnol, gall myfyrwyr chwarae, oedi a rheoli'r sain. Ar gyfer ffeiliau fideo, gall myfyrwyr weld y fideo mewn sgrin lawn.

Gweld ffeiliau amlgyfrwng fel atodiadau

Ar gyfer ffeiliau amlgyfrwng sy'n ymddangos fel atodiadau, mae myfyrwyr yn cyrchu'r ddewislen ac yn dewis Rhagolwg o'r Ffeil neu Lawrlwytho'r Ffeil Wreiddiol. Mae gan hyfforddwyr yr opsiynau ychwanegol o symud, golygu a dileu.

Rhagor am olygu ffeiliau o fewn cwestiynau


Ychwanegu toriadau tudalen at brofion

Mae toriadau tudalen yn caniatáu creu adrannau mewn asesiad yn hawdd ac yn cynnig hyblygrwydd o ran cyflwyno cynnwys asesiad. Er enghraifft, gallwch ychwanegu tudalen gyda chyfarwyddiadau testun ar ddechrau'r prawf, neu grwpio cwestiynau cysylltiedig am bwnc ar un dudalen. Pan fydd myfyrwyr yn llywio i brawf â thudalennau, byddant yn gweld yr holl wybodaeth yr ydych wedi'i hychwanegu at dudalen ar yr un pryd.

Dewiswch yr arwydd plws i agor y ddewislen lle bynnag rydych eisiau ychwanegu toriad tudalen. Mae Ychwanegu Toriad Tudalen ar waelod y ddewislen.

Image of create content menu open with a box around Add Page Break option

I gyfuno dwy dudalen wahanol, dewiswch Cyfuno tudalennau yn unrhyw fan ar hyd y llinell sy'n gwahanu'r ddwy dudalen hyn. Bydd dewis yr opsiwn hwn yn cyfuno'r ddwy dudalen hyn i greu un dudalen.

Image of two separate test pages with a box around Combine pages option

Aildrefnu cwestiynau, testun a ffeiliau mewn prawf

Caiff cwestiynau eu rhifo yn awtomatig yn y drefn yr ydych yn eu hychwanegu. Mae rhifau’r cwestiynau’n cael eu diweddaru pan fyddwch chi’n aildrefnu. Cyn i fyfyrwyr agor y prawf, gallwch ail-drefnu elfennau’r prawf.

Golygwch brawf. Pwyntiwch at un o eitemau’r prawf i gyrchu’r eicon Symud. Pwyswch a llusgwch y cwestiwn, bloc testun neu’r ffeil i leoliad newydd.

Reorder icon right below the menu on the top right-hand corner.

Gallwch ddefnyddio'ch bysellfwrdd i symud eitem.

  1. Tabiwch i eicon Symud eitem.
  2. Pwyswch Enter i alluogi’r modd symud.
  3. Defnyddiwch y bysellau saethau i ddewis lleoliad.
  4. Pwyswch Enter i ollwng yr eitem yn y lleoliad newydd.

Beth fydd myfyrwyr yn ei weld mewn profion?

Os nad oes terfyn amser, gall myfyrwyr weld prawf ac nid oes rhaid iddynt ei gyflwyno. Pan fydd myfyrwyr yn dewis Gweld asesiad, gallant ddewis edrych ar y prawf yn unig neu ychwanegu ychydig o waith. Gall y myfyrwyr ddewis Cadw a Chau yn y panel a dychwelyd nes ymlaen. Caiff eu gwaith ei gadw. Gall myfyrwyr ddewis Gweld asesiad i ail-ddechrau gweithio neu Cyflwyno pan fyddant wedi gorffen.

Students can take a test by clicking on this icon.

Os ydych wedi ychwanegu terfyn amser, bydd y myfyrwyr yn gweld Dechrau ymgais yn hytrach na Gweld yr asesiad.

Mae'r terfyn amser yn ymddangos ochr yn ochr â manylion eraill y prawf ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Mae myfyrwyr hefyd yn gweld y terfyn amser ar banel Manylion a Gwybodaeth y prawf ac o fewn y prawf wrth iddynt weithio.

Missing media item.

Pan fydd myfyrwyr yn dewis Dechrau ymgais, byddant yn gweld ffenestr naid. Rhaid iddynt gychwyn yr amserydd cyn iddynt allu cael mynediad at y prawf. Os nad ydynt yn barod i ddechrau, gallant ddewis Canslo. Ar ôl iddynt gychwyn, bydd y prawf yn cael ei gyflwyno'n awtomatig pan ddaw'r amser i ben.

Os gwnaethoch ganiatáu i fyfyrwyr gyflwyno ymgeisiau lluosog, mae'r terfyn amser yn berthnasol i bob cais.

Start the timer pop-up window with options to cancel timer or start timer.

Rhagor am lif gwaith myfyrwyr


Penderfynu pryd bydd canlyniadau ar gael 

Dewiswch Caniatáu i fyfyrwyr weld eu cyflwyniadau yng ngosodiadau'r asesiad i ddiffinio pryd bydd canlyniadau ar gael i fyfyrwyr: 

  • Ar ôl cyflwyno'r asesiad 
  • Ar ôl i chi gyhoeddi gradd y myfyriwr ar gyfer yr asesiad 
  • Ar ôl dyddiad cyflwyno'r asesiad 
  • Ar ôl i chi gyhoeddi'r holl raddau ar gyfer yr asesiad 
  • Ar ddyddiad penodol. 

 
Gallwch ddad-ddewis Caniatáu i fyfyrwyr weld eu cyflwyniadau os rydych am gadw uniondeb academaidd yr asesiad. Pan nad yw'r opsiwn hwn wedi'i ddewis, ni all myfyrwyr weld: 

  • Cynnwys asesiad fel teitl, fideos neu ddelweddau, adrannau testun 
  • Cwestiynau'r asesiad 
  • Atebion 
  • Adborth awtomatig 
  • Adran cynnwys ychwanegol ar ddiwedd yr asesiad 
     
Test settings options

Rhagor am Reolyddion Dangos Adborth i Fyfyrwyr 

 

Llywio rhyngwyneb prawf 

Gallwch lywio'r tabiau ar frig asesiad rydych wedi'i greu i gael mynediad hawdd i wybodaeth fel: 
 

  • Cynnwys a gosodiadau 
  • Cyflwyniadau 
  • Gweithgarwch Myfyrwyr 
  • Dadansoddi Cwestiynau 
Tab navigation in Assessments

Profion a’r ffrwd gweithgarwch

Pan fyddwch yn creu prawf ac yn ei wneud yn weladwy i fyfyrwyr, cânt eu hysbysu yn eu ffrydiau gweithgarwch.

Test notification in a student's activity stream.

Ar ôl i chi bostio graddau profion, gall myfyrwyr ddewis Gweld eich gradd i arddangos eu graddau. Bydd unrhyw adborth a ddarparwch yn ymddangos wedi teitl y prawf.

Students can view their grade by clicking on View my grade on their activity stream.

Byddwch yn gweld rhybudd yn y ffrwd pan fydd gennych gyflwyniadau i'w graddio. Dewiswch deitl y prawf i gychwyn graddio yn y dudalen cyflwyno profion.

A submitted test is ready for grading in the activity stream.

Rhagor am y ffrwd gweithgarwch


ULTRA: Casglu cyflwyniadau heb gyswllt

Gallwch greu asesiadau sy'n ymddangos ar dudalen Cynnwys Cwrs nad ydynt yn galw ar fyfyrwyr i uwchlwytho cyflwyniadau. Gallwch ychwanegu cyfarwyddiadau, ffeiliau, cyfarwyddyd, a nodau fel y gall myfyrwyr baratoi ar gyfer y gwaith all-lein. G hallwch alluogi sgyrsiau, ond ni allwch chi ychwanegu cwestiynau.

Enghreifftiau o waith all-lein:

  • Cyflwyniadau llafar
  • Prosiectau ffair gwyddoniaeth
  • Perfformiadau actio
  • Gwaith celf wedi'i gyflwyno'n bersonol
  • Ymarferion adeiladu tîm wyneb yn wyneb, trafodaethau panel a thrafodaethau

Efallai y bydd hyfforddwyr sy'n addysgu cyrsiau hybrid yn canfod mai'r math hwn o asesiad yw'r mwyaf defnyddiol. Er enghraifft, gallwch ddefnyddio cyfarwyddyd i raddio cyflwyniad mewn dosbarth wrth i fyfyriwr gyflwyno. Nid oes angen cymryd nodiadau neu ychwanegu sgôr wedyn.

Pan fyddwch yn creu asesiad, gallwch ddewis casglu cyflwyniadau heb gyswllt yn y panel gosodiadau. Pan fydd myfyrwyr yn agor y math hwn o asesiad, fe'u hysbysir na allant gyflwyno gwaith ar-lein. Os byddwch yn creu grwpiau i gasglu cyflwyniadau heb gyswllt, mae myfyrwyr yn gallu gweld aelodau eu grŵp.

Ar gyfer cyflwyniadau a gesglir heb gyswllt, ni allwch ganiatáu ymgeisiau lluosog, caniatáu terfyn amser neu ddefnyddio SafeAssign.

Ar gyfer graddau sy'n mynnu bod myfyrwyr yn bresennol y tu allan i'r dosbarth, megis ar gyfer siaradwr gwadd neu daith maes, gallwch chi ychwanegu cyfarfodydd at y nodwedd bresenoldeb.

Rhagor ar ychwanegu cyfarfod

Graddio cyflwyniadau heb gyswllt

Pan rydych yn barod i raddio cyflwyniadau heb gyswllt, agorwch y dudalen gyda'r rhestr o gyflwyniadau o dudalen yr asesiad neu o'r Llyfr Graddau. Dewiswch enw myfyriwr i agor panel Creu Ymgais, rhowch ddyddiad ac amser y cyflwyniad, a chadwch eich newidiadau.

Ar dudalen cyflwyniadau y myfyriwr, gallwch bennu gradd a defnyddio cyfeireb os ydych chi wedi cysylltu un.

Beth mae myfyrwyr yn ei weld?

Gall myfyrwyr weld yr asesiad ochr yn ochr â'r cynnwys arall ar dudalen Cynnwys y Cwrs ac ar eu tudalennau graddau cyffredinol a chwrs. Pan fydd myfyrwyr yn cyrchu'r asesiad o'r meysydd cwrs hyn, fe'u hysbysir na allant gyflwyno gwaith ar-lein. Gallant gyrchu gwybodaeth arall, megis y cyfarwyddiadau a chyfeireb os ydych wedi ychwanegu un.

Pan fyddwch yn neilltuo gradd, caiff myfyrwyr wybod am hyn yn eu ffrydiau gweithgarwch.