Mae sut mae eich myfyrwyr yn edrych ar ddata gweithgarwch cwrs yn seiliedig ar y ffordd rydych chi’n rheoli eich graddio. Er enghraifft, mewn cwrs Gwreiddiol, gallwch ddewis cuddio’r radd allanol oddi-wrth myfyrwyr. Mae eich dewis yn cael ei drosglwyddo i’r adroddiad gweithgarwch cwrs a nodweddion cyfatebol sydd wedi’u cuddio oddi-wrth y myfyrwyr.

Rhagor am y radd allanol

Defnyddiwch yr enghreifftiau hyn i ddysgu sut mae data gweithgarwch cwrs yn ymddangos mewn senarios graddio gwahanol.

"Rwyf wedi gwneud y radd allanol yn anweledig mewn cwrs Gwreiddiol.”

Senario Data Ddim ar gael i Fyfyrwyr Rhybuddion Ffrwd Ddim ar gael i Fyfyrwyr

Cyfrifir gradd allanol, ond rydych chi wedi'i chuddio oddi-wrth myfyrwyr.

  • Gradd myfyriwr dros amser o’i gymharu â gradd gyfartalog y cwrs
  • Gweithgarwch a gradd myfyrwyr yn cael eu cymharu i weithgarwch a graddau cyfoedion
  • Gradd myfyriwr yn is na throthwy penodedig
  • Myfyriwr yn absennol o'r system am nifer penodedig o ddyddiau

"Does gen I ddim gradd allanol neu unrhyw raddau."

Os nad ydych chi wedi gosod gradd allanol neu nad oes gennych chi unrhyw raddau, rydych chi a’ch myfyrwyr yn gweld rhywbeth yn wahanol. Rydych chi ond yn gweld graffiau sy’n dangos data gweithgarwch.

Senario Data Ddim ar gael i Fyfyrwyr a Hyfforddwyr Rhybuddion Ffrwd Ddim ar gael i Fyfyrwyr a Hyfforddwyr

Nid ydych wedi gosod gradd allanol neu nid oes gennych unrhyw raddau.

  • Gradd myfyriwr dros amser o’i gymharu â gradd gyfartalog y cwrs
  • Gweithgarwch a gradd myfyrwyr yn cael eu cymharu i weithgarwch a graddau cyfoedion
  • Gradd myfyriwr yn is na throthwy penodedig
  • Myfyriwr yn absennol o'r system am nifer penodedig o ddyddiau
  • Hyfforddwr: Mae data gradd digonol ar gael
  • Hyfforddwr: Rhybudd crynodeb i fyfyrwyr sydd ar ei hôl hi neu angen sylw

“Nid wyf wedi cyhoeddi unrhyw raddau myfyrwyr eto, ond rwyf wedi graddio eitemau.”

Fel hyfforddwr, rydych dal yn gweld data o'r graddau nad ydych wedi eu cyhoeddi eto. Nid yw myfyrwyr yn gweld data graddau nes i chi gyhoeddi’r graddau.

Senario Data Ddim ar gael i Fyfyrwyr Rhybuddion Ffrwd Ddim ar gael i Fyfyrwyr

Rydych chi wedi graddio eitemau, ond nid ydych chi wedi’u cyhoeddi i fyfyrwyr eu gweld.

  • Gradd myfyriwr dros amser o’i gymharu â gradd gyfartalog y cwrs
  • Gweithgarwch myfyrwyr yn cael ei gymharu i weithgarwch cyfoedion a chyfartaledd y cwrs
  • Gradd myfyriwr yn is na throthwy penodedig
  • Myfyriwr yn absennol o'r system am nifer penodedig o ddyddiau