Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.
Mudo o Moodle
Rydym yn gwybod eich bod wedi treulio llawer o amser yn datblygu eich cyrsiau ym Moddle ac nad ydych am ail-wneud yr holl waith hwnnw oherwydd bod eich sefydliad wedi penderfynu newid i Ultra. Gallwch drosi eich cwrs yn hawdd o Moodle i Ultra wrth gadw cymaint o ddeunyddiau ac addasiadau eich cwrs â phosibl.
Rhagor am wahaniaethau o ran terminoleg ym Moodle a Learn Ultra
Mae'r pynciau ar y dudalen hon yn cynnwys:
Mewngludo eich cwrs
I fewngludo eich cwrs o Moodle i Ultra, mae angen i chi lawrlwytho ffeil gwrs.
Moodle
Gallwch greu copi wrth gefn o'ch cwrs o fewn Moodle.
- O brif dudalen y cwrs, dewiswch y ddewislen Mwy.
- Dewiswch Ailddefnyddio'r cwrs.
- Ewch i'r gwymplen ar y brig, wedyn dewiswch Creu Copi Wrth Gefn.
- Yn ddiofyn, dewisir yr holl osodiadau a gweithgareddau. Rydym yn argymell cynnwys yr holl eitemau yn eich copi wrth gefn.
- Dewiswch Perfformio copi wrth gefn.
- Pan fydd y copi wrth gefn wedi'i gwblhau, dewiswch Parhau.
- Gallwch nawr lawrlwytho'r ffeil wrth gefn fel estyniad .mbz o ardal copi wrth gefn y cwrs.
Blackboard Learn Ultra
Ewch i dudalen Cynnwys eich cwrs yn Learn. Dewiswch y ddewislen Mwy o opsiynau ac wedyn dewiswch Mewngludo Cynnwys.
Dewiswch Mewngludo Cynnwys eto ar y panel sy'n ymddangos. Dewiswch y ffeil MBZ y gwnaethoch ei lawrlwytho yn gynharach.
Bydd bar llwyd yn ymddangos ar frig y dudalen Cynnwys sy'n dweud, "Wrthi'n mewngludo cynnwys cwrs." Bydd cyrsiau mwy yn cymryd mwy o amser i'w huwchlwytho, gan ddibynnu ar gyflymder eich cysylltiad â'r rhyngrwyd. Nid oes bar cynnydd.
Gall eich sefydliad gyfyngu ar faint y ffeiliau y mae modd eu huwchlwytho i Ultra. Efallai y bydd eich cwrs yn mynd dros y terfyn maint hwn os oes llawer o ffeiliau mawr ynddo.
Os byddwch yn gadael y dudalen Cynnwys, gallwch wirio cynnydd y broses uwchlwytho trwy fynd i'r panel Tasgau a Logiau'r Cwrs Dewiswch y ddewislen Mwy o Opsiynau ar frig y dudalen Cynnwys ac wedyn dewiswch Tasgau a Logiau'r Cwrs.
Pan fydd y broses mewngludo wedi'i chwblhau, gofynnir i chi adolygu eithriadau y broses mewngludo. Mae'r anogwr hwn yn ymddangos ar waelod eich sgrin.
Gwylio fideo am Fewngludo Cyrsiau Moodle i Blackboard Learn
Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.
Fideo: Mewngludo Cyrsiau Moodle
Adolygu eithriadau ac addasu eich cwrs
Dewiswch y ddolen destun goch gyda nifer yr eithriadau eich proses mewngludo i'w hadolygu. Peidiwch â dychryn - nid yw'r rhan fwyaf o eithriadau o bwys ac ni fydd angen unrhyw addasiad gennych.
Pan fyddwch yn mewngludo cwrs Moodle i gwrs Ultra, trosir pob un o'ch gwersi, adrannau a phynciau yn fodiwlau dysgu. Gallwch lusgo eitemau a fewngludwyd y tu allan i fodiwlau dysgu'n hawdd a'u rhoi ar y brif dudalen Cynnwys. Mae'r modiwlau dysgu yn cynnwys nodweddion ar gyfer gorfodi dilyniant, rheoli gwelededd myfyrwyr, a gallant gynnwys delwedd i helpu'ch myfyrwyr i lywio i'r modiwl. Ewch i'r pwnc "Creu Modiwlau Dysgu" i gael mwy o wybodaeth am fodiwlau dysgu.
Mae gwahaniaethau o ran y nodweddion sydd ar gael yn Ultra ac ym Moodle, felly rydym yn argymell adolygu pob un o'ch trafodaethau, cwisiau a phrofion ar ôl i chi eu mewngludo. Mae opsiynau prawf a cwis nad yw Ultra yn eu cefnogi yn cael eu tynnu yn ystod y broses mewngludo.
Mae modd addasu dyddiadau cyflwyno a gwelededd myfyrwyr ar gyfer cynnwys gan ddefnyddio'r nodwedd Swp-olygu. Gallwch hefyd ddileu cynnwys mewn grŵp. Ewch i'r pwnc "Swp-olygu" i gael rhagor o wybodaeth am y nodwedd hon.
Mathau o gynnwys a fyddant yn cael eu trosi
Wrth i ni wneud gwelliannau yn y broses trosi, caiff y rhestr o bethau a gefnogir ei hehangu.
- Cyhoeddiadau
- Aseiniadau
- Llyfrau
- Penodau
- Dewisiadau (ar gyfer y wedd cwrs Gwreiddiol yn unig)
- Trafodaethau
- Ffeiliau
- Ffolderi
- Rhestri Termau (ar gyfer y wedd cwrs Gwreiddiol yn unig)
- Trafodaethau a Raddiwyd
- Gwersi
- Tudalennau
- Cwisiau (Rhai Mathau o Gwestiynau)
- Amlddewis (Un Ateb)
- Amlddewis (Nifer o Atebion)
- Amlddewis (Credyd Rhannol)
- Gwir/Gau
- Cyfatebu
- Ateb Byr
- Rhifol
- Traethawd
- Cyfrifwyd
- Amlddewis a Gyfrifwyd (Un Ateb)
- Amlddewis a Gyfrifwyd (Nifer o Atebion)
- Syml a Gyfrifwyd
- Pecynnau SCORM
- Adrannau
- Meysydd Testun a Chyfryngau
- Pynciau
- URLau
- Gosodiadau Gwelededd
- Dangos ar dudalen y cwrs (Yn weladwy i fyfyrwyr)
- Cuddio ar dudalen y cwrs (Wedi'i guddio rhag myfyrwyr)
- Wikis (ar gyfer y wedd cwrs Gwreiddiol yn unig)
Mathau o gynnwys NA fyddant yn cael eu trosi
Nid yw'r eitemau hyn yn cael eu cario drosodd yn ystod y broses drosi ar hyn o bryd:
- Sgyrsiau
- Galluoedd
- Cronfeydd Data
- Dyddiadau Cyflwyno
- Llyfr Graddau
- Categorïau
- Llythyrau
- Graddfeydd
- Mathau o Gwestiynau
- Llusgo a Gollwng mewn Testun
- Marcwyr Llusgo a Gollwng
- Llusgo a Gollwng ar Ddelwedd
- Atebion Planedig
- Cyfateb Ateb Byr Ar Hap
- Dewis Geiriau Coll
- Disgrifiad
- Cyfyngiadau
- Cyfarwyddiadau
- Arolygon
- Tagiau
- Gosodiadau Gwelededd
- Trefnu bod ar gael ond peidio â dangos ar dudalen y cwrs (Wedi'i guddio rhag myfyrwyr)
- Gweithdai
Ni chedwir data cymryd rhan na data gweithgarwch yn ystod y broses trosi. Tynnir eitemau fel postiadau ar Drafodaethau, cyflwyniadau Asesiad, a graddau.