Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.
Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.
Mudo o Canvas
Rydym yn gwybod eich bod wedi treulio llawer o amser yn datblygu eich cyrsiau yn Canvas ac nad ydych am ail-wneud yr holl waith hwnnw oherwydd bod eich sefydliad wedi penderfynu newid i Ultra. Gallwch drosi eich cwrs yn hawdd o Canvas i Ultra wrth gadw cymaint o ddeunyddiau ac addasiadau eich cwrs â phosibl.
Mae'r pynciau ar y dudalen hon yn cynnwys:
Mewngludo Cyrsiau Canvas
Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.
Fideo: Mewngludo Cyrsiau Canvas i Blackboard Learn
Mewngludo eich cwrs
I fewngludo eich cwrs o Canvas i Ultra, mae angen i chi lawrlwytho ffeil cwrs.
Instructure Canvas
- Ewch i'ch cwrs yn Canvas a dewiswch Gosodiadau.
- Dewiswch Allgludo Cynnwys Cwrs ar y dde.
- Gwnewch yn siŵr bod y Math o Allgludo wedi'i osod i Cwrs, wedyn dewiswch Creu Ffeil Allgludo. Gall prosesu gymryd peth amser, gan ddibynnu ar gyflymder eich cysylltiad â'r rhyngrwyd a maint eich cwrs.
- Pan fydd y broses allgludo wedi'i chwblhau, dewiswch y ddolen Ffeil Allgludo Newydd sy'n ymddangos i lawrlwytho ffeil IMSCC o'ch cwrs.
Blackboard Learn Ultra
Ewch i dudalen Cynnwys eich cwrs yn Learn. Dewiswch y ddewislen Mwy o opsiynau ac wedyn dewiswch Mewngludo Cynnwys.
Dewiswch Mewngludo Cynnwys eto ar y panel sy'n ymddangos. Dewiswch y ffeil IMSCC a lawrlwythoch yn gynharach.
Bydd bar llwyd yn ymddangos ar frig y dudalen Cynnwys sy'n dweud, "Wrthi'n mewngludo cynnwys cwrs." Bydd cyrsiau mwy yn cymryd mwy o amser i'w huwchlwytho, gan ddibynnu ar gyflymder eich cysylltiad â'r rhyngrwyd. Nid oes bar cynnydd.
Gall eich sefydliad gyfyngu ar faint y ffeiliau y mae modd eu huwchlwytho i Ultra. Efallai y bydd eich cwrs yn mynd dros y terfyn maint hwn os oes llawer o ffeiliau mawr ynddo.
Os byddwch yn gadael y dudalen Cynnwys, gallwch wirio cynnydd y broses uwchlwytho trwy fynd i'r panel Tasgau a Logiau'r Cwrs Dewiswch y ddewislen Mwy o Opsiynau ar frig y dudalen Cynnwys ac wedyn dewiswch Tasgau a Logiau'r Cwrs.
Pan fydd y broses mewngludo wedi'i chwblhau, gofynnir i chi adolygu eithriadau y broses mewngludo. Mae'r anogwr hwn yn ymddangos ar waelod eich sgrin.
Adolygu eithriadau ac addasu eich cwrs
Dewiswch y ddolen destun goch gyda nifer yr eithriadau eich proses mewngludo i'w hadolygu. Peidiwch â dychryn - nid yw'r rhan fwyaf o eithriadau o bwys ac ni fydd angen unrhyw addasiad gennych.
Pan fyddwch yn mewngludo cwrs Canvas i gwrs Ultra, bydd pob un o'ch modiwlau yn cael eu trosi yn ffolderi. Gallwch lusgo eitemau a fewngludwyd y tu allan i ffolderi yn hawdd a'u rhoi ar y brif dudalen Cynnwys. Gallwch hefyd greu ffolder o fewn ffolder sydd eisoes yn bodoli i drefnu eich cynnwys ymhellach.
Gallwch droi eich modiwlau Canvas yn fodiwlau dysgu yn Ultra i reoli mynediad myfyrwyr ymhellach. Mae'r modiwlau dysgu yn cynnwys nodweddion ar gyfer gorfodi dilyniant, rheoli gwelededd myfyrwyr, a gallant gynnwys delwedd i helpu'ch myfyrwyr i lywio i'r modiwl. Ewch i'r pwnc "Creu Modiwlau Dysgu" i gael mwy o wybodaeth am fodiwlau dysgu.
Mae gwahaniaethau rhwng y nodweddion sydd ar gael yn Ultra ac yn Canvas, felly rydym yn argymell adolygu pob un o'ch trafodaethau, cwisiau a phrofion ar ôl i chi eu mewngludo. Mae opsiynau prawf a cwis nad yw Ultra yn eu cefnogi yn cael eu tynnu yn ystod y broses mewngludo.
Mae modd addasu dyddiadau cyflwyno a gwelededd myfyrwyr ar gyfer cynnwys gan ddefnyddio'r nodwedd Swp-olygu. Gallwch hefyd ddileu cynnwys mewn grŵp. Ewch i'r pwnc "Swp-olygu" i gael rhagor o wybodaeth am y nodwedd hon.
Ni fydd fformiwlâu mathemategol a ysgrifennwyd yn LaTeX heb y gystrawen gywir yn cael eu trosi o Canvas i Ultra. Adolygwch yr holl fformiwlâu yn eich cwrs ar ôl i chi ei fewngludo.
Mathau o gynnwys a fyddant yn cael eu trosi
Wrth i ni wneud gwelliannau yn y broses trosi, caiff y rhestr o bethau a gefnogir ei hehangu.
- Cyhoeddiadau
- Aseiniadau
- Trafodaethau
- Ffeiliau
- Cynlluniau Graddio
- Modiwlau
- Tudalennau
- Maes Llafur
- Cwisiau
- Mathau o Gwestiynau
- Amlddewis
- Gwir/Gau
- Llenwi'r Bwlch
- Llenwi Bylchau
- Amlateb
- Cyfateb
- Ateb Rhifyddol
- Fformiwla
- Traethawd
- Fideos (MP4, AVI, MOV, MPG, MOOV)
- Mae MPEG, MPG, AVI, MOV, WMV yn cael eu hatodi fel ffeiliau
- Mae MP4 yn llwytho fel fideo rhyngweithiol
Mathau o gynnwys a gosodiadau NA fyddant yn cael eu trosi
Nid yw'r eitemau hyn yn cael eu cario drosodd yn ystod y broses drosi ar hyn o bryd:
- Baner Cwrs
- Dolenni Cwrs
- Cwisiau Newydd
- Canlyniadau
- Mathau o Gwestiynau
- Uwchlwytho Ffeiliau
- Cwymprestr Lluosog
- Testun (Dim Cwestiwn)
- Cyfarwyddiadau
- Penawdau Testun
Ni chedwir data cymryd rhan na data gweithgarwch yn ystod y broses trosi. Tynnir eitemau fel postiadau ar Drafodaethau, cyflwyniadau Asesiad, a graddau.