Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.
Mudo o D2L Brightspace
Rydym yn gwybod eich bod wedi treulio llawer o amser yn datblygu eich cyrsiau yn Brighstpace ac nad ydych am ail-wneud yr holl waith hwnnw oherwydd bod eich sefydliad wedi penderfynu newid i Ultra. Gallwch drosi eich cwrs yn hawdd o Brightspace i Ultra wrth gadw cymaint o ddeunyddiau ac addasiadau eich cwrs â phosibl.
Mae'r pynciau ar y dudalen hon yn cynnwys:
Mewngludo eich cwrs
I fewngludo eich cwrs o Brightspace i Ultra, mae angen i chi lawrlwytho ffeil cwrs.
D2L Brightspace
- Ewch i'ch cwrs yn Brightspace a dewiswch y ddewislen Offer Cwrs .
- Dewiswch Gweinyddu Cwrs.
- Dewiswch Mewngludo / Allgludo / Copïo Cydrannau.
- Ar y dudalen nesaf, dewiswch Allgludo fel Pecyn Brightspace, wedyn dewiswch Dechrau.
- Dewiswch Dewis Pob Cydran, wedyn dewiswch Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, ewch i'r gwaelod a dewiswch Cynnwys Ffeiliau Cwrs yn y Pecyn Allgludo.
- Dewiswch Allgludo. Bydd hysbysiad yn ymddangos yn eich Rhybuddion Diweddaru pan fydd y broses allgludo wedi'i chwblhau.
- Dewiswch Cliciwch yma i lawrlwytho'r pecyn Zip allgludo.
Blackboard Learn Ultra
Ewch i dudalen Cynnwys eich cwrs yn Learn. Dewiswch y ddewislen Mwy o opsiynau ac wedyn dewiswch Mewngludo Cynnwys.
Dewiswch Mewngludo Cynnwys eto ar y panel sy'n ymddangos. Dewiswch y ffeil ZIP y gwnaethoch ei lawrlwytho yn gynharach.
Bydd bar llwyd yn ymddangos ar frig y dudalen Cynnwys sy'n dweud, "Wrthi'n mewngludo cynnwys cwrs." Bydd cyrsiau mwy yn cymryd mwy o amser i'w huwchlwytho, gan ddibynnu ar gyflymder eich cysylltiad â'r rhyngrwyd. Nid oes bar cynnydd.
Gall eich sefydliad gyfyngu ar faint y ffeiliau y mae modd eu huwchlwytho i Ultra. Efallai y bydd eich cwrs yn mynd dros y terfyn maint hwn os oes llawer o ffeiliau mawr ynddo.
Os byddwch yn gadael y dudalen Cynnwys, gallwch wirio cynnydd y broses uwchlwytho trwy fynd i'r panel Tasgau a Logiau'r Cwrs Dewiswch y ddewislen Mwy o Opsiynau ar frig y dudalen Cynnwys ac wedyn dewiswch Tasgau a Logiau'r Cwrs.
Pan fydd y broses mewngludo wedi'i chwblhau, gofynnir i chi adolygu eithriadau y broses mewngludo. Mae'r anogwr hwn yn ymddangos ar waelod eich sgrin.
Ni chedwir data cymryd rhan na data gweithgarwch yn ystod y broses trosi. Tynnir eitemau fel postiadau ar Drafodaethau, cyflwyniadau aseiniad, a graddau.
Mewngludo Cyrsiau D2L Brightspace i Blackboard Learn
Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.
Fideo: Mewngludo Cyrsiau D2L Brightspace i Blackboard Learn
Adolygu eithriadau ac addasu eich cwrs
Dewiswch y ddolen destun goch gyda nifer yr eithriadau eich proses mewngludo i'w hadolygu. Peidiwch â dychryn - nid yw'r rhan fwyaf o eithriadau o bwys ac ni fydd angen unrhyw addasiad gennych.
Pan fyddwch yn mewngludo cwrs Brightspace i gwrs Ultra, bydd pob un o'ch Gwersi a Ffolderi ac Unedau yn cael eu trosi yn ffolderi. Gallwch lusgo eitemau a fewngludwyd y tu allan i ffolderi yn hawdd a'u rhoi ar y brif dudalen Cynnwys. Gallwch hefyd greu ffolder o fewn ffolder sydd eisoes yn bodoli i drefnu eich cynnwys ymhellach.
Gallwch droi eich Gwersi a Ffolderi ac Unedau Brightspace yn fodiwlau dysgu yn Ultra i reoli mynediad myfyrwyr ymhellach. Mae'r modiwlau dysgu yn cynnwys nodweddion ar gyfer gorfodi dilyniant, rheoli gwelededd myfyrwyr, a gallant gynnwys delwedd i helpu'ch myfyrwyr i lywio i'r modiwl. Ewch i'r pwnc "Creu Modiwlau Dysgu" i gael mwy o wybodaeth am fodiwlau dysgu.
Mae gwahaniaethau rhwng y nodweddion sydd ar gael yn Ultra ac yn Brightspace, felly rydym yn argymell adolygu pob un o'ch trafodaethau, cwisiau a phrofion ar ôl i chi eu mewngludo. Mae opsiynau prawf a cwis nad yw Ultra yn eu cefnogi yn cael eu tynnu yn ystod y broses mewngludo. Cedwir delweddau wedi'u mewnblannu a chynnwys amlgyfrwng yn Nogfennau HTML. Mae Dogfennau HTML yn cael eu trosi'n Ddogfennau yn y Wedd Cwrs Ultra neu'n Eitemau Cynnwys yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol.
Mae modd addasu dyddiadau cyflwyno a gwelededd myfyrwyr ar gyfer cynnwys gan ddefnyddio'r nodwedd Swp-olygu. Gallwch hefyd ddileu cynnwys mewn grŵp. Ewch i'r pwnc "Swp-olygu" i gael rhagor o wybodaeth am y nodwedd hon.
Ni fydd fformiwlâu mathemategol a ysgrifennwyd yn LaTeX heb y gystrawen gywir yn cael eu trosi o Brightspace i Ultra. Adolygwch yr holl fformiwlâu yn eich cwrs ar ôl i chi ei fewngludo.
Mathau o gynnwys a fyddant yn cael eu trosi
Wrth i ni wneud gwelliannau yn y broses trosi, caiff y rhestr o bethau a gefnogir ei hehangu.
- Cyhoeddiadau
- Pennawd
- Cynnwys
- Dyddiad Dechrau
- Dyddiad Gorffen
- Aseiniadau
- Fforymau Trafod
- Teitl
- Disgrifiad
- Gwelededd
- Pynciau Trafod
- Teitl
- Disgrifiad
- Gwelededd
- Pwyntiau
- Ffeiliau
- Ffolderi a Gwersi
- Categorïau'r Llyfr Graddau
- Colofnau'r Llyfr Graddau
- Rhifol
- Dewis blwch
- Llwyddo/Methu
- Testun
- Dogfennau HTML
- Rhyngweithrededd Offer Dysgu (Annibynnol)
- Cwisiau
- Cwestiynau
- Gwerthoedd Pwyntiau
- Cronfeydd Cwestiynau
- Nifer o Gwestiynau
- Gwerthoedd Pwyntiau
- Adrannau
- Gosodiadau
- Amserydd
- Cwestiynau
- Llyfrgell Cwestiynau
- Adrannau
- Cwestiynau
- Mathau o Gwestiynau (Ewch i'r pwnc "Trosi Rhifyddeg ac Hafaliadau Ffigurau Ystyrlon o Brightspace" i ddysgu mwy am sut mae'r mathau canlynol o gwestiynau yn cael eu trosi o Brightspace)
- Rhifyddeg
- Ffigurau Ystyrlon
- Golygydd Testun Cyfoethog
- Sain, Delweddau, Fideos, ac Uwchlwytho Ffeiliau
- Hafaliadau
- Dolenni i Ffeiliau
- Unedau/Modiwlau
- Dolenni Gwe
Mathau o gynnwys NA fyddant yn cael eu trosi
Nid yw'r eitemau hyn yn cael eu cario drosodd yn ystod y broses drosi ar hyn o bryd:
- Sgemâu Graddio
- Colofnau'r Llyfr Graddau
- Fformiwla
- Cyfrifwyd
- Golygydd Testun Cyfoethog
- Rhyngweithrededd Offer Dysgu (Planedig)
- Cyfarwyddiadau
- SCORM