Tudalen Negeseuon

Mewn cwrs, cyrchwch y dudalen Negeseuon ar y bar llywio. Bydd pob un o'ch negeseuon cwrs ac ymatebion yn ymddangos. Gallwch fwrw golwg trwy'r rhestr yn hawdd ac agor neges i ddarllen yr holl ymatebion.

Bydd eich negeseuon sydd heb eu darllen yn ymddangos yn gyntaf yn y rhestr. Mae pob neges yn dangos llun proffil y creawdwr. O dan enw'r creawdwr, gallwch weld sawl cyfranogwr sydd wedi’i gynnwys neu os yw’r neges ar gyfer y dosbarth cyfan.

In the Messages page you will find all the conversations.

A. Anfon neges. Dewiswch eicon Neges Newydd i anfon neges. Anfonwch i un person, rhagor nag un person neu'r dosbarth cyfan.

Os oes gennych lawer o negeseuon, dewiswch nifer y negeseuon rydych eisiau eu gweld fesul tudalen i gulhau'ch ffocws.

B. Edrych yn hwylus ar beth sy’n newydd. Mae cyfrif negeseuon yn ymddangos uwchben y rhestr. Bydd ymatebion newydd yn ymddangos gyda ffont trwm.

C. Dileu neges. Defnyddiwch yr eicon Dileu i ddileu neges. Os daw rhagor o ymatebion, byddwch yn ei cael. Ni allwch olygu neu ddileu ymatebion unigol mewn neges.

Pan fyddwch yn creu neu'n ymateb i neges, dewiswch yr eicon Ychwanegu Cyfranogwyr i ychwanegu pobl ychwanegol, oni bai bod y neges wedi cael ei hanfon at y dosbarth cyfan. Mae'r derbynyddion gwreiddiol yn gweld nodyn yn y neges nesaf eich bod wedi ychwanegu pobl newydd neu'r dosbarth cyfan. Mae'r derbynyddion newydd yn gweld y neges o'r pwynt y cawsant eu hychwanegu.

Select the Add participants icon to add more people to the conversation.

Anfon neges

Os byddwch yn anfon neges at fyfyrwyr cyn i'r cwrs fod ar gael iddynt, caiff y neges ei hanfon i'w cyfeiriad e-bost cysylltiedig.

Pan ddewiswch yr eicon Neges Newydd ar y dudalen Negeseuon, bydd y panel Neges Newydd yn agor.

You will first find the recipient input, then the send options and then the message text box.

Dechreuwch deipio i ychwanegu derbynyddion. Wrth i chi deipio, bydd enwau'r derbynyddion sy'n cyfateb yn ymddangos mewn dewislen er mwyn eu dewis yn hawdd. Gallwch barhau i ychwanegu cynifer o enwau ag y mynnwch.

Pan fyddwch yn anfon negeseuon at fwy nag un myfyriwr, bydd y derbynyddion dan BCC (Copi Cudd). Mae hyn yn sicrhau bod manylion adnabod a gwybodaeth gyswllt myfyrwyr yn parhau i fod yn gyfrinachol. 

Dechreuwch gyda’r wybodaeth bwysicaf. Nid oes gan negeseuon deitlau, felly mae angen i dderbynyddion ddibynnu ar ran gyntaf eich neges oherwydd y bydd yn ymddangos ar y dudalen Negeseuon fel rhagolwg. Defnyddiwch yr opsiynau yn y golygydd i fformatio'ch testun.

I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, dewiswch ALT + F10. Ar Mac, dewiswch Fn + ALT + F10. Defnyddiwch fysellau'r saethau i ddewis opsiwn, megis rhestr â rhifau.

Anfonwch gopi e-bost. Gallwch anfon copi o neges gwrs fel neges e-bost. Efallai bydd myfyrwyr yn gweld, darllen a gweithredu ar gyhoeddiadau pwysig a negeseuon cwrs pan dderbyniant gopi yn eu mewnflwch. Bydd copïau e-bost yn cael eu danfon dim ond os oes gan dderbynyddion gyfeiriad e-bost dilys yn eu proffil Blackboard Learn. Pan ddewiswch yr opsiwn hwn, bydd holl dderbynyddion y neges yn cael copi e-bost.

Bydd derbynyddion yn gallu gweld eich neges ym mewnflwch eu cyfrifon e-bost, ond ni fyddant yn gallu anfon e-bost i ymateb.

Caniatáu neu wrthod atebion. Gallwch ddewis peidio â chaniatáu atebion ar gyfer negeseuon a grëwch.

Gall eich sefydliad ddewis peidio â chaniatáu i fyfyrwyr ateb neu greu negeseuon yn eu cyrsiau. Ni allwch droi'r gosodiad hwn ymlaen a’i ddiffodd yn eich cyrsiau unigol. Yn y senario hwn, gall myfyrwyr ddim ond darllen negeseuon a anfonir atynt gan rolau eraill, megis hyfforddwyr a chynorthwywyr addysgu. Mae’r blwch ticio Caniatáu atebion i'r neges hon yn berthnasol i’r rolau yn y cwrs sydd â chaniatâd i ateb a chreu negeseuon, megis hyfforddwyr eraill a chynorthwywyr addysgu. Hefyd, ni chaniateir i fyfyrwyr anfon negeseuon maent yn eu cael ymlaen at bobl eraill.


Anfon negeseuon o'r llyfr graddau

O’r rhestr myfyrwyr, gallwch anfon neges at unrhyw un sy’n gysylltiedig â’ch cwrs.

Select the three dot options menu at the right end of a student row. Select the Message Student option. The Message panel will open at the right side of the screen.

Dewiswch y ddewislen tri dot ar ochr dde rhes myfyriwr. Dewiswch yr opsiwn Anfon neges at fyfyriwr. Bydd y panel Neges yn agor ar ochr dde'r sgrin.

Mae negeseuon a anfonwch o’r wedd rhestr myfyrwyr hefyd yn ymddangos ar y dudalen Negeseuon.


Anfon negeseuon o'r dudalen cyflwyniad

Gallwch bellach anfon negeseuon at fyfyrwyr os, enghraifft, rydych eisiau anfon nodiadau atgoffa at fyfyrwyr nad ydynt wedi cyflwyno gwaith neu rydych eisiau rhoi gwybod i fyfyrwyr am eu graddau. Bydd yr holl fyfyrwyr sy'n cael neges yn cael copi cudd (BCC) i sicrhau cyfrinachedd.

I anfon negeseuon at fyfyrwyr o'r dudalen cyflwyniad, chwiliwch am neu hidlo'r derbynyddion. Os oes mwy nag un dudalen o fyfyrwyr, bydd yr hidlyddion a dewisiadau yn effeithio ar bob tudalen. Wedyn, dewiswch y botwm "Anfon Neges" i agor y rhyngwyneb negeseuon i ysgrifennu'r neges. 

Bulk messages from the submission page. Multiple students selected.

Byddwch yn gweld y dudalen Neges newydd. Ar ôl anfon y neges, bydd modd dod o hyd i'r sgyrsiau ar y dudalen Negeseuon gyda gweddill eich sgyrsiau.

Anfon nodiadau atgoffa o dudalen cyflwyniad dienw.

I atgoffa eich myfyrwyr am eu gwaith dienw sydd i'w cyflwyno, dewiswch Anfon nodyn atgoffa o dudalen y cyflwyniad dienw. Bydd hyn yn anfon neges awtomatig at y myfyrwyr ac yn cadw eu manylion personol yn anhysbys.

Send reminder button available in the anonymous submission page when there are students with outstanding work.

Ar ôl dewis Anfon nodyn atgoffa, cewch neges i gadarnhau sy'n dangos faint o fyfyrwyr a fydd yn cael y nodyn atgoffa: Ydych yn siŵr eich bod eisiau anfon nodyn atgoffa at X o fyfyrwyr nad ydynt wedi cyflwyno gwaith erbyn hyn? 

I helpu i sicrhau anhysbysrwydd y myfyrwyr, ni chedwir y nodiadau atgoffa hyn yn adran negeseuon y llyfr graddau.

Bydd y myfyrwyr yn cael neges e-bost sy'n esbonio bod ganddynt gyflwyniad heb ei gyflwyno, manylion y cwrs a'r asesiad a'r dyddiad cyflwyno.

Student's reminder reads "You do not have a submission for", the assessment details and the due date.