Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.
Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.
Mae gan Fforymau Trafod ac Edeifion ddau brif achos defnyddio ar gyfer trosi yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol:
- Mae Fforymau Trafod yn broc y drafodaeth: Gallwch greu fforwm fel proc y drafodaeth. Mae eich myfyrwyr yn defnyddio'r fforwm i weld y proc ac wedyn yn creu edefyn yn y fforwm i'w ateb.
- Mae Fforymau Trafod yn gynhwysyddion prociau trafodaethau: Gallwch greu fforwm fel cynhwysydd ag edeifion. Mae pob edefyn yn broc trafodaeth unigryw. Ni all eich myfyrwyr greu edeifion. Maent yn adolygu pob edefyn ar gyfer proc y drafodaeth, ac wedyn yn ateb yr edefyn i ateb y proc.
Mae Fforymau Trafod yn broc y drafodaeth ar gyfer trosi
Os yw'r gosodiad "caniatáu i aelodau greu edeifion newydd" ymlaen ar gyfer y fforwm, caiff ei drosi yn Drafodaeth yn y Wedd Cwrs Ultra.
Mae'r meysydd ac opsiynau canlynol yn parhau ar ôl y broses trosi:
Meysydd ac Opsiynau'r Wedd Cwrs Gwreiddiol | Meysydd ac Opsiynau'r Wedd Cwrs Ultra |
---|---|
Enw | Teitl |
Disgrifiad | Disgrifiad |
Argaeledd | Gwelededd |
Dyddiad ac Amser Dangos Ar Ôl | Dyddiad ac Amser Dangos Ar |
Dyddiad ac Amser Dangos Tan | Dyddiad ac Amser Cuddio Ar Ôl |
Mae rhaid i gyfranogwyr greu edefyn er mwyn gweld edeifion eraill yn y fforwm hwn. | Postio Gyntaf |
Dim Graddio yn y Fforwm | Trafodaeth Radd (Heb ei Dewis) |
Pwyntiau Posibl | Nifer Mwyaf o Bwyntiau |
Dyddiad ac Amser Cyflwyno | Dyddiad ac Amser Cyflwyno |
Cyfarwyddiadau Cysylltiedig | Cyfarwyddiadau |
Caniatáu i Awduron Ddileu Eu Postiadau Eu Hunain* | Atal Golygu |
Caniatáu i Awduron Olygu Postiadau y Maent wedi'u Cyhoeddi Eu Hunain* | Atal Golygu |
* Roedd yr opsiynau i atal awduron rhag dileu neu olygu postiadau yn opsiynau ar wahân yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Mae'r ddau opsiwn wedi'u cyfuno yn y Wedd Cwrs Ultra. Os yw un o'r opsiynau yn cael ei ddewis yn y Wedd Cwrs Ultra, caiff yr opsiwn "Atal Golygu" ei ddewis pan gaiff yr eitem ei throsi.
Mae pob edefyn yn cael eu gollwng yn ystod prosesau copïo, mewngludo a throsi.
Mae Fforymau Trafod yn gynhwysydd ar gyfer trosi prociau trafodaeth
Os nad yw'r gosodiad "caniatáu i aelodau greu edeifion newydd" 'Ymlaen' ar gyfer y fforwm, caiff y fforwm ei drosi yn Drafodaeth yn y Wedd Cwrs Ultra. Bydd pob edefyn yn y fforwm yn cael eu trosi yn Drafodaethau yn y ffolder a chânt eu rhoi yn y ffolder a grëir.
Mae'r meysydd ac opsiynau canlynol yn parhau ar ôl y broses trosi ar gyfer Fforymau Trafod:
Meysydd ac Opsiynau'r Wedd Cwrs Gwreiddiol | Meysydd ac Opsiynau'r Wedd Cwrs Ultra |
---|---|
Enw | Teitl |
Disgrifiad | Disgrifiad |
Argaeledd | Gwelededd |
Dyddiad ac Amser Dangos Ar Ôl | Dyddiad ac Amser Dangos Ar |
Dyddiad ac Amser Dangos Tan | Dyddiad ac Amser Cuddio Ar Ôl |
Mae'r meysydd ac opsiynau canlynol yn parhau ar ôl y broses trosi ar gyfer Edeifion Trafod:
Meysydd ac Opsiynau'r Wedd Cwrs Gwreiddiol | Meysydd ac Opsiynau'r Wedd Cwrs Ultra |
---|---|
Pwnc | Teitl |
Neges | Disgrifiad |
Argaeledd | Gwelededd |
Dyddiad ac Amser Dangos Ar Ôl | Dyddiad ac Amser Dangos Ar |
Dyddiad ac Amser Dangos Tan | Dyddiad ac Amser Cuddio Ar Ôl |
Mae rhaid i gyfranogwyr greu edefyn er mwyn gweld edeifion eraill yn y fforwm hwn. | Postio Gyntaf |
Dim Graddio yn y Fforwm | Trafodaeth Radd (Heb ei Dewis) |
Pwyntiau Posibl | Nifer Mwyaf o Bwyntiau |
Dyddiad ac Amser Cyflwyno | Dyddiad ac Amser Cyflwyno |
Cyfarwyddiadau Cysylltiedig | Cyfarwyddiadau |
Caniatáu i Awduron Ddileu Eu Postiadau Eu Hunain* | Atal Golygu |
Caniatáu i Awduron Olygu Postiadau y Maent wedi'u Cyhoeddi Eu Hunain* | Atal Golygu |
* Roedd yr opsiynau i atal awduron rhag dileu neu olygu postiadau yn opsiynau ar wahân yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Mae'r ddau opsiwn wedi'u cyfuno yn y Wedd Cwrs Ultra. Os yw un o'r opsiynau yn cael ei ddewis yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol, caiff yr opsiwn "Atal Golygu" ei ddewis pan gaiff yr eitem ei throsi.
- Mae trafodaethau yn etifeddu meysydd ac opsiynau o'r edefyn trafod a'r fforwm trafod rhiant yn ystod y broses trosi.
- Mae pob ymateb ac ateb yn cael eu gollwng yn ystod prosesau copïo, mewngludo a throsi.