Mewngludo/Allgludo grwpiau ac aelodau
Mae bellach gennych ffordd o greu grwpiau neu ychwanegu aelodau grwpiau mewn sypiau yng nghyrsiau Ultra drwy fewngludo ffeil CSV (Gwerth wedi'i Wahanu ag Atalnod). Mae'r nodwedd hon hefyd yn caniatáu i chi allgludo grwpiau ac aelodau i ffeil CSV.
Mewngludo grwpiau
Gallwch greu grwpiau drwy fewngludo ffeil CSV o dudalen setiau o grwpiau'r cwrs neu wedd grwpiau'r cwrs. Pan fyddwch yn neilltuo asesiad i set o grwpiau, bydd modd i chi fewngludo ffeil CSV. Mae hyn yn caniatáu i chi neilltuo set o grwpiau sydd eisoes yn bodoli neu greu set o grwpiau newydd wrth greu asesiad.
Yng ngwedd Grwpiau'r Cwrs, dewiswch yr eicon Mewngludo Grwpiau neu Aelodau i agor y panel ochr sy'n cynnwys y templedi i'w defnyddio:
Ar ôl i chi ddewis Mewngludo Set o Grwpiau, bydd y panel canlynol yn agor:
Yng ngwedd Set o grwpiau, dewiswch yr eicon Mewngludo Grwpiau neu Aelodau i agor y panel ochr sy'n cynnwys y templedi i'w defnyddio:
Gallwch fewngludo grwpiau neu fewngludo aelodau o'r dudalen Mewngludo Allgludo Grwpiau. Dyma pam gallwch lawrlwytho dau dempled gwahanol:
- Templed ar gyfer creu grwpiau, a
- Thempled ar gyfer mewngludo aelodau i grwpiau
Yn y ddau dempled, mae'r holl gelloedd gofynnol wedi'u marcio gyda seren (*).
- Templed ar gyfer creu grwpiau:
- Dewiswch yr eicon Mewngludo Grwpiau neu Aelodau, bydd y panel ochr yn agor.
- Dewiswch y tab Creu grwpiau.
- Dewiswch y ddolen Lawrlwytho'r templed grwpiau a lawrlwythwch y templed.
- Llenwch y templed â'r holl wybodaeth ofynnol.
Ar gyfer y maes gofynnol Cod Grŵp, gallwch ddewis unrhyw god alffaniwmerig o'ch dewis. - Cadwch eich ffeil dempled fel ffeil .csv.
- Uwchlwythwch eich templed .csv gan ddefnyddio'r botwm Uwchlwytho Ffeil.
- Templed ar gyfer mewngludo aelodau i grwpiau:
- Dewiswch yr eicon Mewngludo Grwpiau neu Aelodau, bydd y panel ochr yn agor.
- Dewiswch y tab Neilltuo aelodau.
- Dewiswch y ddolen Lawrlwytho'r templed aelodau a lawrlwythwch y templed.
- Llenwch y templed â'r holl wybodaeth ofynnol.
Ar gyfer y maes gofynnol Cod Grŵp, dylech ychwanegu'r cod alffaniwmerig cyfatebol a neilltuoch i'r grŵp wrth greu'r grŵp. Gallwch hefyd allgludo'r templed grwpiau cyfatebol. - Cadwch eich ffeil dempled fel ffeil .csv.
- Uwchlwythwch eich templed .csv gan ddefnyddio'r botwm Uwchlwytho Ffeil.
Ar ôl mewngludo ffeil, cewch e-bost cadarnhau i roi gwybod i chi fod y ffeil wedi'i mewngludo yn llwyddiannus neu y bu gwallau. Rydym yn argymell defnyddio'r templedi a ddarparwyd er mwyn osgoi problemau.
Allgludo grwpiau
Ar ôl creu grwpiau, gallwch eu hallgludo o'r wedd Set o Grwpiau i adolygu'r ddogfen, a'u mewngludo eto drwy ddewis y botwm "Uwchlwytho ffeil".
Gallwch allgludo ffeiliau CSV grwpiau neu aelodau, neu'r ddwy ffeil ar yr un pryd.
Dewiswch y tab Allgludo ac wedyn dewiswch unrhyw ffeil a allgludwyd o'r rhestr i'w lawrlwytho. Cofiwch gadw'r ffeil fel ffeil CSV ar eich dyfais.