Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.
Mae Lleoedd Grŵp yn darparu rhestr o'r holl aseiniadau ar gyfer grŵp penodol, yn ogystal â lle i weld pob aelod o'r grŵp.
Ewch i dudalen Grwpiau eich cwrs. Dewiswch enw grŵp i fynd i Le y Grŵp.
Gallwch hefyd gyrraedd Lle Grŵp o dudalen Rheoli'r Grŵp. Dewiswch Mynd i Mewn i'r Lle Grŵp o ddewislen tri dot y grŵp.
Mae'r holl aseiniadau yn cael eu dangos ar dab Cynnwys y Lle Grŵp.
O'r tab Aelodau, gallwch weld holl aelodau'r grŵp ac anfon neges at y grŵp.
Gall myfyrwyr gael mynediad i'w Lleoedd Grŵp trwy ddewis enw eu grŵp ar y dudalen Grwpiau.