Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.

Ynghylch Sgwrs ag AI

Gallwch greu Sgyrsiau ag AI sy'n seiliedig ar bwnc neu senario i ymgysylltu â'ch myfyrwyr. Mae Sgyrsiau ag AI yn cynnwys cwestiynu Socratig ac ymarferion chwarae rôl. Gall myfyrwyr archwilio a myfyrio ar eu meddyliau eu hun neu chwarae rôl mewn sefyllfa sy'n gysylltiedig â'u dysgu neu yrfa. Byddwn yn cynnwys mathau eraill o sgyrsiau wrth i ni gasglu adborth a mewnwelediadau gan ddefnyddwyr.

Mae dwy elfen i'r gweithgaredd Sgwrs ag AI:

  • Sgwrs ag AI 
    • Mae hyn yn gofyn i fyfyrwyr feddwl yn feirniadol am y pwnc mae'r hyfforddwr yn ei ddylunio.
  • Cwestiwn myfyrio 
    • Mae hyn yn gofyn i fyfyrwyr rannu eu syniadau am y gweithgaredd. Gall myfyrwyr hefyd fflagio unrhyw ragfarn neu wallau o'r AI fel rhan o'n Hymagwedd AI Dibynadwy. Mae myfyrio yn helpu myfyrwyr i ddeall defnyddio gwasanaethau AI yn gyfrifol. 

Ewch i Nodyn Tryloywder Sgwrs ag AI i ddysgu mwy am sut mae rhaglen AI Dibynadwy Anthology yn berthnasol i Sgwrs ag AI. 

Ar gyfer gweinyddwyr: Am ragor o wybodaeth am sut i alluogi Sgwrs ag AI, ewch i'n tudalen amFfurfweddu AI Design Assistant ac Unsplash
Bydd diffodd Sgwrs ag AI ar ôl ei defnyddio yn stopio gwasanaethau Sgwrs ag AI. Felly, ni fydd unrhyw weithgareddau sgwrsio ag AI sydd ar gael i fyfyrwyr yn gweithredu yn ôl y disgwyl.


Creu Sgwrs ag AI

Ewch i'r gwymplen Creu Eitem drwy ddewis yr eicon plws unrhyw le ar dudalen Cynnwys y Cwrs.

Course Content page with the Create Item dropdown expanded

Mae'r Sgwrs ag AI yn yr adran Cyfranogiad ac Ymrwymiad.

Create Item panel, displaying AI Conversation at the bottom of Participation and Engagement

Addasu Sgwrs ag AI

Dewiswch fath y sgwrs. Gallwch ddewis Cwestiynu Socratig neu Chwarae Rôl.

Mae sgyrsiau Cwestiynu Socratig yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol drwy gwestiynu parhaus. Mae sgyrsiau Chwarae Rôl yn caniatáu i fyfyrwyr chwarae senario gyda'r persona AI.

Step 1 of creating a new AI Conversation. Socratic questioning and Role play are available options.

Ar gyfer Cwestiynu Socratig, rhowch bwnc y sgwrs yn y maes cynnwys. Gwnewch yn siŵr bod eich pwnc yn benagored ac nad oes ganddo ateb cywir neu anghywir. Dewiswch Nesaf i symud ymlaen i'r cam nesaf. 

Step 2 of creating a Socratic questioning exercise, prompting the user to enter a topic of conversation

Ar gyfer Chwarae Rôl, cynhwyswch senario, rolau ar gyfer y myfyriwr a'r persona, a'r nod ar gyfer y senario. Dewiswch Nesaf i symud ymlaen i'r cam nesaf. 

Step 2 of creating a Role play exercise, prompting the user to enter a scenario and roles

Nawr, dewiswch bersona ar gyfer y Sgwrs ag AI. Gallwch ddarparu eich delwedd eich hun, defnyddio Unsplash, neu gynhyrchu delwedd ar gyfer afatar y persona. Rhowch enw i'r persona a disgrifiad byr o swydd, personoliaeth neu hwyliau'r persona. Gallwch hefyd addasu cymhlethdod ymatebion y persona.

Mae nodweddion personoliaeth yn llunio'r rhyngweithiadau'n sylweddol. Dewiswch nodweddion yn ofalus a rhagweld y sgwrs er mwyn osgoi rhagfarn neu gynnwys amhriodol.

Step 3 of creating an AI Conversation, where the persona is defined

Dewiswch Cadw pan fyddwch wedi gorffen. Gallwch weld rhagolwg o'r Sgwrs ag AI fel myfyriwr a rhyngweithio â'r persona AI drwy ddewis Rhagolwg o'r sgwrs

Dylech gael rhagolwg o sgwrs ag AI bob tro cyn rhyddhau'r gweithgaredd i fyfyrwyr. Gall offer AI rith-weld a chyflwyno rhagfarn. Mae'n bwysig sicrhau bod eich cyfarwyddiadau'n glir a bod y persona AI yn ymateb mewn ffordd ddisgwyliedig a phriodol.

Preview of student display of an AI conversation

Gallwch olygu'r cwestiwn myfyrio i helpu eich myfyrwyr i ddeall y ffordd orau o fyfyrio ar y gweithgaredd.


Adolygu rhyngweithiadau myfyrwyr

Ar ôl cyflwyno, gallwch adolygu trawsgrifiad y sgwrs ag AI a myfyrdodau eich myfyrwyr. Mae'r Sgwrs ag AI yn asesiad ffurfiannol yn ddiofyn, ond nid ydych wedi'ch cyfyngu i'r opsiwn hwn.

Grading page for an AI conversation

Mae gennych yr opsiwn o adolygu gweithgarwch cyffredinol myfyrwyr ar gyfer yr asesiad drwy ddewis y tab Gweithgarwch Myfyrwyr. Ewch i'r pwnc "Manylion Gweithgarwch Myfyrwyr ar gyfer Asesiadau" i ddysgu mwy am y nodwedd hon.