Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.
Weithiau, mae myfyrwyr yn wynebu sefyllfaoedd neu ddigwyddiadau sy'n gwneud cwblhau asesiad, fel cyflwyno gwaith cwrs neu sefyll prawf, yn anodd neu'n amhosibl iddynt. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, efallai bydd angen i chi estyn y dyddiad cyflwyno ar gyfer yr asesiad, rhoi ymgais ychwanegol iddynt, neu eu hesgusodi o'r asesiad yn gyfan gwbl.
Eithriadau
Pan fydd amgylchiadau arbennig yn codi, gallwch roi eithriad i fyfyriwr unigol ar brawf neu aseiniad penodol. Mae eithriad yn cynnwys ymgeisiau ychwanegol, dyddiadau cyflwyno wedi'u haildrefnu, neu fynediad estynedig, hyd yn oed os yw'r asesiad wedi'i guddio rhag myfyrwyr eraill.
Mae eithriadau unigol ar gyfer mynediad estynedig dim ond yn berthnasol os ydych wedi gosod argaeledd amodol —dyddiadau dangos ar neu guddio ar ôl— ar yr asesiad.
Enghreifftiau:
- Prawf gydag un ymgais: Caniatáu rhagor o ymgeisiau ar gyfer myfyriwr sy'n ddall ac sydd am ddefnyddio technoleg darllenydd sgrin am y tro cyntaf.
- Dyddiad cyflwyno asesiad newydd: Gosod dyddiad cyflwyno newydd ar gyfer myfyriwr sy'n cymryd rhan mewn cystadleuaeth ranbarthol, er mwyn iddynt allu cyflwyno'r asesiad ar ôl dod yn ôl.
- Aseiniad ag argaeledd amodol dyddiad ac amser Cuddio ar ôl: Estyn mynediad i aseiniad ar gyfer myfyriwr sydd â phroblemau rhyngrwyd. Os yw dyddiad ac amser y dyddiad cyflwyno yr un dyddiad ac amser â'r dyddiad cyflwyno gwreiddiol, caiff y cyflwyniad ei farcio yn hwyr yn y llyfr graddau o hyd. Er mwyn osgoi hyn, gallwch osod dyddiad ac amser Cuddio ar ôl newydd.
Creu eithriad asesiad
Gallwch hefyd ychwanegu eithriadau at myfyriwr unigol neu grŵp o dudalen Cyflwyniadau'r asesiad. Gallwch hefyd ychwanegu eithriadau o'r dudalen graddio wrth raddio cyflwyniad myfyriwr.
1. O dudalen Cyflwyniadau asesiad
O dudalen Cyflwyniadau asesiad, agorwch y ddewislen yn rhes myfyriwr a dewiswch Ychwanegu neu olygu eithriadau. Mae'r panel Eithriadau yn agor. I'ch helpu i sicrhau bod eithriad yn fanwl gywir, mae'r panel Eithriadau yn cynnwys gwybodaeth berthnasol fel enw'r cwrs, yr asesiad a'r myfyriwr.
Gallwch newid y dyddiadau ac amseroedd Dangos ar a Cuddio ar ôl a chaniatáu ymgeisiau ychwanegol. Gallwch hefyd ddewis dyddiad cyflwyno newydd.
2. O'r dudalen graddio
Wrth raddio cyflwyniad myfyriwr unigol, agorwch y ddewislen wrth ochr y bilsen radd a dewiswch Eithriadau. Bydd y panel gosodiadau Golygu Cyflwyniad yn agor.
3. O wedd Graddau y llyfr graddau
Dewiswch gell asesiad myfyriwr i ddangos y ddewislen opsiynau. Wedyn, dewiswch Ychwanegu neu olygu eithriadau a bydd y panel Eithriadau yn agor.
4. O wedd fanwl y myfyriwr
Dewiswch y ddewislen ar gyfer yr asesiad perthnasol a dewiswch Ychwanegu neu olygu eithriadau i agor y panel Eithriadau.
Enghraifft o fynediad estynedig:
Os ydych wedi cuddio cynnwys ar ôl dyddiad ac amser penodol, gallwch estyn mynediad ar gyfer myfyriwr unigol. Er enghraifft, cuddir "Prawf 1" heddiw ar ôl 10 AM. Mae gan fyfyriwr broblemau rhyngrwyd, felly rydych yn estyn mynediad ar gyfer y myfyriwr hwnnw yn unig tan 6 PM. Fodd bynnag, os yw'r dyddiad cyflwyno am 10 AM hefyd, caiff y cyflwyniad ei farcio'n hwyr yn y llyfr graddau serch hynny.
Yn y ffrwd gweithgarwch, caiff y myfyriwr ei hysbysu am argaeledd y prawf, ond ni restrir yr ystod o fynediad estynedig yn y ffrwd neu gyda'r prawf. Bydd rhaid ichi roi gwybod i'r myfyriwr am hyd yr ystod o fynediad estynedig. Bydd yn rhaid i chi hefyd roi gwybod i fyfyrwyr fesul un pan fyddwch yn caniatáu ymgeisiau ychwanegol.
Os byddwch yn copïo asesiad o un cwrs i gwrs arall, ni chopiir yr eithriadau. Mae'r cynnwys wedi'i osod i Wedi’i Guddio rhag myfyrwyr os ydych yn copïo eitemau unigol i'ch cwrs. Os byddwch yn copïo asesiad o un cwrs i gwrs arall, ni chopiir data am fyfyrwyr penodol.
Ychwanegu eithriad ar ôl i radd gael ei phostio
Gallwch gynnig eithriad i fyfyriwr ar gyfer asesiad rydych wedi'i raddio a phostio yn barod. Er enghraifft, os ydych am i fyfyriwr ail-wneud prawf a raddiwyd yn awtomatig sydd heb ragor o ymgeisiau, gallwch ychwanegu ymgais arall.
Bydd rhaid i chi roi gwybod i'r myfyriwr am yr ymgais ychwanegol gan nad yw'r system yn anfon hysbysiad.
Eithriadau a seroau awtomatig
Os byddwch yn rhoi eithriad dyddiad cyflwyno ac mae sero awtomatig yn barod, caiff y sero awtomatig ei dynnu. Bydd dim ond yn ymddangos os nad yw'r myfyriwr yn cyflwyno'r gwaith erbyn y dyddiad cyflwyno estynedig newydd.
Eithriadau yn erbyn cymwysiadau
Mae eithriadau yn wahanol i'r cymwysiadau y gosodwch yng nghofrestr y cwrs neu wedd fanwl myfyrwyr. Mae cymhwysiad yn berthnasol i bob dyddiad cyflwyno neu derfyn amser yn eich cwrs ar gyfer myfyriwr unigol. Mae eithriadau dim ond yn cael eu caniatáu ar gyfer dyddiadau Dangos ar a Cuddio ar ôl ac ymgeisiau ychwanegol.
Eiconau eithriadau a chymwysiadau
Ar ôl i chi ganiatáu eithriad ar gyfer asesiad myfyriwr, byddwch yn gweld eicon cloc llwyd wrth ochr enw'r myfyriwr. Mae eicon y cymhwysiad yn faner borffor.
Yn y rhestr myfyrwyr, os oes gan fyfyriwr gymhwysiad ac eithriad ar gyfer asesiad, dim ond yr eicon cymhwysiad a fydd yn ymddangos. Bydd modd gweld y ddau eicon ar y dudalen cyflwyniad.
Rhagor am sut mae cymwysiadau yn gweithio gyda grwpiau
Esgusodiadau
Mae adegau pan fydd angen i chi esgusodi myfyriwr rhag asesiad neu weithgaredd cwrs oherwydd amgylchiadau bywyd sydd y tu hwnt i reolaeth y myfyriwr.
Gallwch esgusodi myfyriwr rhag gweithgaredd a asesir drwy roi esgusodiad iddynt. Pan fydd y myfyriwr wedi'i esgusodi, bydd cyfrifiad gradd gyffredinol y myfyriwr yn cael ei addasu i sicrhau nad ydynt yn cael eu rhoi dan anfantais o'u cymharu â myfyrwyr eraill.
Gallwch esgusodi myfyriwr rhag tasg benodol mewn tair ffordd:
- O dudalen Cyflwyniadau asesiad, agorwch y ddewislen yn rhes myfyriwr a dewiswch Ychwanegu neu olygu esgusodiadau. Bydd hyn yn agor y panel esgusodiadau.
- O wedd fanwl y myfyriwr, dewiswch ddewislen yr asesiad perthnasol a dewiswch Ychwanegu neu olygu esgusodiadau.
- O wedd Graddau y llyfr graddau, dewiswch gell asesiad y myfyriwr a bydd dewislen yn agor. Wedyn, dewiswch Ychwanegu neu olygu esgusodiadau.
Wrth esgusodi eitem, ni fydd yr eitem yn:
- cael ei chynnwys yng nghyfrifiad y radd gyffredinol,
- cael ei marcio fel ei bod yn hwyr ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn cyflwyno gwaith,
- cael sero awtomatig.
Gall myfyrwyr weld a ydynt wedi'u hesgusodi yn yr asesiad ac yn y llyfr graddau.
Gall y pwyntiau posibl cyffredinol neu'r pwysoliad cyffredinol ar gyfer myfyriwr sydd ag un neu fwy o esgusodiadau newid o'u cymharu â myfyrwyr eraill. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod esgusodiad yn tynnu'r nifer mwyaf o bwyntiau cyfatebol ar gyfer yr asesiad o'r nifer mwyaf o bwyntiau yn y cwrs ar gyfer y myfyriwr hwnnw.
Gall myfyrwyr barhau i gyflwyno gwaith ar gyfer eitemau wedi'u hesgusodi. Gallwch raddio a rhoi adborth ar gyfer y cyflwyniadau hyn. Ond, bydd y cyflwyniadau yn parhau i fod wedi'u heithrio o gyfrifiad gradd gyffredinol y myfyriwr. Bydd rhaid i chi dynnu'r esgusodiad er mwyn i'r radd gyfrif tuag at radd gyffredinol y myfyriwr.
Eithriadau ac esgusodiadau mewn asesiadau dienw
Mae graddio dienw yn helpu i leihau rhagfarn graddio. Gallwch ychwanegu esgusodiadau ar gyfer profion ac aseiniadau dienw.
O wedd fanwl myfyriwr, dewiswch ddewislen yr asesiad dienw a dewiswch naill ai Ychwanegu neu olygu eithriadau neu Ychwanegu neu olygu esgusodiadau i agor y panel cyfatebol.
I gadw manylion myfyrwyr yn ddienw, mae'r dangosyddion cymwysiadau, eithriadau ac esgusodiadau dim ond yn cael eu dangos yng ngwedd fanwl myfyrwyr, y wedd Graddau a'r wedd Myfyrwyr.
Rhagor am asesiadau dienw
Dileu ymgeisiau
O bryd i'w gilydd, gall myfyrwyr gyflwyno'r ffeil anghywir ar gyfer asesiad, neu efallai caiff yr asesiad ei lygru mewn ffordd arall. Yn yr achosion hynny, efallai byddwch eisiau dileu'r ymgais neu roi ymgais ychwanegol i'r myfyriwr.
Er mai rhoi ymgais ychwanegol i'r myfyriwr os oes angen yw'r arfer gorau, gallwch ddileu cyflwyniadau anghywir o adran graddio'r asesiad. Agorwch y ddewislen wrth ochr y bilsen radd a dewiswch Dileu.
Gwirio cyflwyniadau myfyrwyr
O bryd i'w gilydd gall myfyrwyr ofyn i chi wirio eu cyflwyniad neu honni eu bod wedi gwneud cais efallai nad ydych wedi'i weld. I ddod o hyd i gyflwyniad, gallwch ofyn i'r myfyriwr am rif cadarnhau'r cyflwyniad a chwilio amdano yn y llyfr graddau. Mae'r rhif hwn ar gael yn nerbynneb y cyflwyniad.