Gallwch ganiatáu i fyfyrwyr gyflwyno mwy nag un ymgais ar gyfer asesiad.
Gall ymgeisiau lluosog helpu myfyrwyr i aros ar y trywydd iawn, gwella ansawdd eu gwaith, ac yn y pen draw gwella llwyddiant myfyrwyr a'u cadw. Ar gyfer aseiniadau, gall myfyrwyr gyflwyno drafftiau ac ennill credyd am welliannau. Rhowch wybod i fyfyrwyr pa aseiniadau sy'n caniatáu ymgeisiau lluosog, a beth yw'r disgwyliadau a pholisïau graddio ar gyfer pob ymgais.
Enghraifft: Aseiniadau Papur Ymchwil
Mewn un aseiniad gyda phedwar ymgais, gall myfyriwr gyflwyno atodiadau ffeil ar gyfer yr eitemau hyn:
- Braslun
- Llyfryddiaeth
- Drafft lled agos
- Papur terfynol
Gallwch ddarparu adborth ar bob cam. Gallwch aseinio graddau wrth i bob ymgais gael ei gyflwyno ond defnyddio gradd y papur terfynol yn unig fel gradd yr aseiniad.
Fel arall, os ydych eisiau darparu pedair gradd - un ar gyfer pob rhan o broses y papur ymchwil - gallwch greu aseiniadau ar wahân ar gyfer pob un. Nesaf, sefydlwch golofn wedi'i chyfrifo yn y ganolfan raddau. Ychwanegwch y pwyntiau ar gyfer pob aseiniad i gynhyrchu sgôr derfynol ar gyfer y papur ymchwil.
Gallwch hefyd ganiatáu i grwpiau gyflwyno'u haseiniadau mwy nag unwaith a chael adborth a gradd ar gyfer pob cyflwyniad.
I ganiatáu ymgeisiau lluosog ar gyfer asesiad, agorwch yr asesiad a dewiswch y botwm Gosodiadau.
Graddio asesiadau sydd ag ymgeisiau lluosog
Pan fyddwch yn dewis enw myfyriwr yn y llyfr graddau, bydd panel yn ymddangos sy'n dangos pob ymgais, ynghyd â'r dyddiad y cawsant eu cyflwyno. Dewiswch ymgais i weld y cyflwyniad.
I weld dim ond yr ymgais sydd angen ei raddio, o'r dudalen Cyflwyniadau, dewiswch Angen ei Raddio ar gyfer yr hidlydd Statws Graddio.
Neges Atgoffa: Pan fyddwch yn cyhoeddi graddau, gall myfyrwyr eu gweld ynghyd ag unrhyw adborth rydych wedi ei darparu. Mae pob darn o adborth ar gyfer pob ymgais, hyd yn oed ymgeisiau heb eu graddio, yn cael eu dangos i fyfyrwyr.
Os ydych wedi defnyddio cyfarwyddyd neu gwestiynau sy'n cael eu sgorio'n awtomatig, efallai fod y radd ar gyfer yr ymgais eisoes yn bodoli.
Mae'r Adroddiad Logiau Ymgeisiau yn rhoi gwybodaeth fanwl am asesiad gan gynnwys dyddiad ac amser dechrau ac atebion pob cwestiwn, rhif derbynneb y cyflwyniad, gradd derfynol, gradd ymgais, a mwy. Gall logiau ymgeisiau ddilysu a yw myfyrwyr wedi dod ar draws problemau wrth wneud asesiad a helpu i adnabod arwyddion anonestrwydd academaidd.
Rhoi adborth ar ymgeisiau cyflwyno
I roi adborth, dewiswch y botwm adborth wrth ochr yr ymgais i agor y panel adborth. Gallwch sgrolio drwy'r asesiad ac ychwanegu adborth cyffredinol a gradd.
O'r panel adborth, dewiswch Ychwanegu i atodi cynnwys ychwanegol, fel recordiad sain/fideo wedi'i blannu, at eich adborth. Gall myfyrwyr wylio neu wrando ar eich adborth ochr yn ochr ag unrhyw destun rydych yn ei gynnwys. SYLWER: Ni chefnogir y nodwedd hon ar bob porwr. I gael y profiad gorau, defnyddiwch Chrome neu Firefox.
Pan fyddwch yn cyhoeddi graddau, gall myfyrwyr eu gweld ynghyd ag unrhyw adborth rydych wedi ei darparu. Mae pob darn o adborth ar gyfer pob ymgais, hyd yn oed ymgeisiau heb eu graddio, yn cael eu dangos i fyfyrwyr.
Graddau terfynol
Yn y panel sy'n rhestru ymgeisiau myfyriwr, mae'r radd derfynol yn ymddangos pan raddir ymgeisiau, yn seiliedig ar y gosodiad Ymgeisiau Gradd a ddewisoch ym mhanel gosodiadau'r asesiad. Er enghraifft, os cyfrifir y radd derfynol yn seiliedig ar yr ymgais sydd â'r radd uchaf, mae'r radd derfynol yn ymddangos yn syth ar ôl i un ymgais gael ei raddio. Gall y radd newid wrth i chi barhau i raddio mwy o ymgeisiau.
Ar ôl i chi orffen graddio ymgeisiau, gallwch gyhoeddi'r radd derfynol i'r myfyriwr ei gweld.
Beth mae myfyrwyr yn ei weld?
Mae asesiadau sydd ag ymgeisiau lluosog yn rhestru'r nifer o ymgeisiau a ganiateir, yn ogystal â sut mae'r radd derfynol yn cael ei chyfrifo. Mae myfyrwyr yn gweld y wybodaeth hon ar y dudalen Manylion a Gwybodaeth cyn iddynt ddechrau. Pan gyhoeddir y graddau, bydd myfyrwyr yn gallu gweld graddau ar gyfer pob un o’u hymgeisiau, yn ogystal â'r radd derfynol. Os byddwch yn penderfynu gwrthwneud y radd derfynol, bydd neges yn ymddangos i roi gwybod i'r myfyriwr.