Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.


Credyd ychwanegol ar gyfer colofn y Radd Gyffredinol

Gallwch greu colofn credyd ychwanegol yn y Llyfr Graddau gyda sgôr mwyaf o 0 sydd wedi’i gynnwys yng nghyfrifiad diofyn colofn y Radd Gyffredinol. Wedyn, gallwch neilltuo pwyntiau credyd ychwanegol yn ôl yr angen. 

Mae'r dull hwn yn gweithio ar gyfer un golofn credyd ychwanegol unigol yn unig lle nad yw graddau wedi’u pwysoli.

Enghraifft o golofnau yn y Llyfr Graddau

Enghraifft:

Colofnau yn y Llyfr Graddau

ColofnPwyntiau Posibl
Aseiniad 110
Aseiniad 220
Traethawd50
Prawf30
Credyd Ychwanegol0
Cyfanswm100

Os byddwch yn rhoi 0 fel y pwyntiau posib, bydd unrhyw sgema graddio sy'n defnyddio canran, megis Canran neu Lythyren, yn cael ei gynrychioli yn y Llyfr Graddau fel sgôr. Mae'r sgemâu graddio hyn yn seiliedig ar ganran y sgôr o'i gymharu â'r pwyntiau posib. Pan mai 0 yw'r pwyntiau posib, nid oes modd cyfrifo canran.

Creu categori gradd newydd ac ychwanegu colofn credyd ychwanegol 

  1. Ewch i'r Llyfr Graddau a dewiswch Gosodiadau
  2. Ewch i Categorïau Graddio a dewiswch Ychwanegu Categori Newydd
  3. Rhowch "Credyd Ychwanegol" yn y maes ar gyfer enw'r categori newydd. 
  4. Ewch yn ôl i'r Llyfr Graddau. 
  5. Yn y Llyfr Graddau, dewiswch y botwm plws lle rydych eisiau rhoi'r golofn. 
  6. Dewiswch Ychwanegu Eitem
  7. Yn y panel Eitem Newydd , rhowch y wybodaeth briodol. Cynhwyswch 0 fel y nifer mwyaf o bwyntiau a dewiswch Credyd Ychwanegol o'r gwymplen Categori gradd.
  8. Dewiswch Cadw. 

Bydd y golofn credyd ychwanegol yn ymddangos yn y Llyfr Gaddau. Ar ôl i chi ychwanegu pwyntiau mewn colofn credyd ychwanegol, gall cyfanswm pwyntiau myfyriwr gyfateb i fwy na 100 y cant. Os bydd myfyriwr yn derbyn credyd llawn am bob eitem a raddir (100 pwynt) a'i fod hefyd yn derbyn 6 phwynt credyd ychwanegol, y cyfanswm yw 106 allan neu 100 neu 106%.


Creu credyd ychwanegol wrth bwysoli graddau 

Mae’r golofn cyfanswm wedi ei phwysoli yn cynhyrchu gradd yn seiliedig ar ganlyniad colofnau a chategorïau a ddewisir, a'u canrannau priodol. Pan fyddwch chi’n creu colofn wedi ei phwysoli, gallwch gynnwys colofnau eraill a gyfrifwyd a cholofnau eraill a bwysolwyd. Eich opsiynau yw ychwanegu pwyntiau credyd ychwanegol at gategori neu at y radd gyffredinol. 

Rhagor am greu colofn cyfanswm wedi'i bwysoli

Ychwanegu pwyntiau credyd ychwanegol at gategori 

Pan fyddwch yn cyfuno colofn credyd ychwanegol â cholofn cyfanswm pwysol, mae’r ddwy yn cael eu cyfrif fel pwyntiau yn hytrach na chanrannau.

Rhagor am y rhesymeg fathemategol a ddefnyddir gan golofnau cyfanswm pwysol.

Creu categori gradd newydd ac ychwanegu eitem cyfrifiad cyfanswm 

  1. Ewch i'r Llyfr Graddau a dewiswch Gosodiadau
  2. Ewch i Categorïau Graddio a dewiswch Ychwanegu Categori Newydd
  3. Rhowch "Credyd Ychwanegol" yn y maes ar gyfer enw'r categori newydd. 
  4. Ewch yn ôl i'r Llyfr Graddau. 
  5. Yn y Llyfr Graddau, dewiswch y botwm plws lle rydych eisiau rhoi'r golofn. 
  6. Dewiswch Ychwanegu Cyfrifiad Cyfanswm
  7. Yn y panel Cyfrifiad Cyfanswm Newydd, rhowch y wybodaeth briodol. 
    • Cynhwyswch 0 fel y nifer mwyaf o bwyntiau a dewiswch Credyd Ychwanegol o'r gwymplen Categori gradd
    • Rhowch enw i'r eitem gan gynnwys y geiriau "Credyd Ychwanegol", er mwyn i chi allu dod o hyd iddo yn nes ymlaen. 
  8. Dewiswch Cadw. 

Cysylltu'r eitem cyfrifiad cyfanswm â'r categori pwysol neu eitem yn y Llyfr Graddau 

  1. Ewch i'r Llyfr Graddau a dewiswch Gosodiadau
  2. Ewch i'r adran Gradd Gyffredinol a dewiswch Rheoli gosodiadau gradd gyffredinol. Gwnewch yn siŵr bod y golofn wedi'i chynnwys yng nghyfrifiad y Radd Gyffredinol ar dab y math o Gyfrifiad Pwyntiau
  3. Dewiswch y tab Uwch a ffurfweddwch y cyfrifiad. 
  4. Dewiswch Cyfanswm, wedyn dewiswch yr eitem credyd ychwanegol o'r gwymplen. 
  5. Dewiswch y gweithredydd +
  6. Dewiswch Cyfanswm eto, wedyn dewiswch Cyfrifiad Cyfanswm. Dewiswch yr eitem neu gategori gradd yr hoffech ei gysylltu â'r credyd ychwanegol. 
  7. Dewiswch Cadw.
The advanced tab of Manage overall grade settings, displaying how to add extra credit to a weighted category

Pan fyddwch yn cyfuno colofn credyd ychwanegol â cholofn cyfanswm pwysol, mae’r ddwy yn cael eu cyfrif fel pwyntiau yn hytrach na chanrannau.

Rhagor am y rhesymeg fathemategol a ddefnyddir gan golofnau cyfanswm pwysol.