Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.
Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Mae'r llyfr graddau ar gael i hyfforddwyr ar bob adeg yng Ngwedd Cwrs Ultra.
Mae'n bwysig bod modd i hyfforddwyr a gweinyddwyr olrhain unrhyw newidiadau a wneir i raddau mewn cwrs at ddibenion archwilio. Mae cofnodion hanes graddau yn darparu trwydd archwilio defnyddiol ar gyfer mynd i'r afael â, er enghraifft, cwestiynau myfyrwyr a heriau graddio. Gallwch eu lawrlwytho o'r llyfr graddau.
Lawrlwytho hanes graddau o'r llyfr graddau
Dewiswch yr eicon Lawrlwytho'r Llyfr Graddau i agor panel opsiynau Lawrlwytho Graddau, wedi'i ddilyn gan yr opsiwn Hanes Graddau.
Mae modd dewis eitemau sydd â graddio dienw wedi'i alluogi, ond ni chaiff y golofn ei hallgludo yn y ffeil a lawrlwythir. Ar ôl cyhoeddi graddau, tynnir yr anhysbysrwydd a chânt eu cynnwys yn y lawrlwythiad.
Mae gennych nifer o opsiynau wrth lawrlwytho hanes graddau:
- Dewis pa eitemau o'r llyfr graddau i'w cynnwys yn y lawrlwythiad,
- cynnwys eitemau a dilëwyd,
- dewis fframiau amser yn y ddewislen Dyddiad Addasu Diwethaf i optimeddio'r nifer o wybodaeth,
- allgludo'r ffeil mewn fformat wedi'i gwahanu ag atalnodau (CSV) neu wedi'i gwahanu â thabiau (XLS), a
- dewis cadw'r ffeil ar eich dyfais neu yn y Casgliad o Gynnwys.
Mae'r ffeil hanes graddau a lawrlwythir yn cynnwys y wybodaeth hon:
- Dyddiad
- Math o asesiad a chategori gradd
- Manylion defnyddiwr y fersiwn diwethaf
- Enw defnyddiwr myfyrwyr
- Derbynneb cyflwyno: Rhif y dderbynneb cyflwyno
- Ymgais cyflwyno: Rhif yr ymgais a gyflwynwyd
- Math: A oedd yn radd normal neu radd wrthwneud
- Gwerth a enillwyd
- Digwyddiad: Manylion ychwanegol fel a oedd yn ymgais grŵp, os nad yw wedi'i gyhoeddi neu os oes angen ei raddio
Mae graddau heb eu cyhoeddi yn cael eu cynnwys yn y ffeil hefyd gan eu bod yn rhoi mwy o fewnwelediad i newidiadau graddau yn y cwrs.