Yn Blackboard Learn, gallwch chi ddefnyddio unrhyw theori neu fodel wrth ddysgu’ch cwrs ar lein, oherwydd ei fod yn agored, hyblyg ac yn canolbwyntio ar gyrhaeddiad myfyrwyr.

Hyd yn oed os ydych chi’n newydd i addysgu ar lein, bydd modd ichi greu cwrs sylfaenol mewn byr o dro. Gallwch chi gychwyn arni gyda gwerth wythnos neu ddwy o ddeunyddiau ac ychwanegu rhagor yn hwyrach ymlaen.

Rydyn ni wedi casglu ynghyd rai awgrymiadau a chamau sylfaenol ar gyfer hyfforddwyr sy’n newydd i Blackboard Learn ac sydd am ddysgu sut i greu cynnwys ar gwrs ar lein. Rydyn ni am eich helpu gyda’r prif egwyddorion a phrosesau sy’n berthnasol wrth lunio cwrs newydd sbon.

Wrth ichi weithio trwy’r pwnc hwn, dewiswch beth sy’n gweddu orau i sut rydych chi’n addysgu ac anghenion eich myfyrwyr.

Ar ôl ichi gwblhau’r camau sylfaenol, bydd eich cwrs yn barod ar gyfer y myfyrwyr! Ond yn gyntaf, mae angen ichi benderfynu ym mha wedd cwrs y byddwch yn adeiladu’ch cwrs. Wedyn, gallwch ffocysu ar y camau a gwybodaeth benodol sydd eu hangen arnoch. Gwybod eich gwedd cwrs yn barod? Ewch amdani!

Gallwch hefyd gael cipolwg ar ein pwnc Cychwyn Cyflym sydd â manylion sylfaenol am adeiladu cwrs.


Dewiswch sut rydych am i’ch cwrs edrych

Gan ddibynnu ar ba brofiad mae’ch sefydliad wedi’i ddewis, mae’n bosibl y bydd gennych yr hyblygrwydd i ddewis sut y bydd eich cwrs yn ymddangos yn Blackboard Learn.

Profiad: Mae hyn yn disgrifio sut y bydd y rhyngwyneb y tu allan i gwrs yn edrych, ac yn disgrifio pa nodweddion ac opsiynau llywio fydd yn ymddangos. Mae’n bosibl y bydd eich sefydliad yn dewis y Profiad Gwreiddiol neu’r Profiad Ultra.

Mae gennych y profiad Gwreiddiol os yw'ch enw yn ymddangos yn y gornel ar y dde uchaf yn eich ffenestr ar ôl i chi fewngofnodi. Gallwch lywio i ardaloedd eraill y system o'r tabiau ym mhennyn y dudalen.

Efallai bydd gan eich rhyngwyneb liwiau, logos, tabiau, offer ac enwau sy'n benodol i'ch sefydliad. Er enghraifft, gall eich sefydliad ailenwi tab Fy Sefydliad i gyd-fynd ag enw eich sefydliad neu dynnu tab neu ddarn o offer yn gyfan gwbl.

Mae gennych brofiad Ultra os yw'ch enw yn ymddangos yn y panel ar y chwith yn eich ffenestr ar ôl i chi fewngofnodi. Gallwch lywio i nodweddion craidd y tu allan i'ch cyrsiau o'r rhestr. Cyrcwch y llif gweithgarwch sy’n cofnodi popeth sy’n digwydd yn eich cyrsiau, ac y tudalennau graddau sy’n dangos eich tasgau graddio fesul cwrs.

Yn wahanol i’r profiad Gwreiddiol, mae’r profiad Ultra yn edrych yn debyg ym mhob sefydliad. Efallai byddwch yn gweld brandio sefydliadol, megis lliwiau a logos.

Gwedd Cwrs: Mae hyn yn disgrifio sut y bydd eich cwrs yn edrych a pha nodweddion, adnoddau ac opsiynau llywio fydd ar gael. Gall eich cyrsiau ymddangos yng ngwedd cwrs Gwreiddiol, gwedd cwrs Ultra, neu’r ddwy.

Os oes gan eich sefydliad brofiad Gwreiddiol, dim ond yng ngwedd cwrs Gwreiddiol y gall eich cyrsiau ymddangos.

Os oes gan eich sefydliad brofiad Ultra, mae’n bosibl y bydd modd ichi gynnig cymysgedd o’r ddwy wedd cwrs. Fodd bynnag, caiff eich sefydliad gyfyngu’ch gwedd cwrs i un wedd yn unig. Os oes modd ichi ddefnyddio’r ddwy wedd cwrs, dewiswch pa wedd cwrs bynnag sydd orau i bob un o’ch cyrsiau. Bydd y ddwy wedd gwrs yn ymddangos yn eich rhestr o gyrsiau heb fawr o drafferth.

Gwedd Cwrs Gwreiddiol

Mae gwedd cwrs Gwreiddiol yn cynnwys pob un o’r llifau gwaith traddodiadol a’r cyfoeth o nodweddion y mae Blackboard Learn yn adnabyddus amdanynt.

Mae dewislen y cwrs yn ymddangos ar ochr chwith eich cwrs a bydd hon yn ganolog i sut y byddwch yn llywio o gwmpas eich cwrs ac yn ei drefnu. Rydych chi’n creu dolenni ar ddewislen y cwrs i gyflwyno adnoddau a deunyddiau i fyfyrwyr.

Yr ardal ar ôl dewislen y cwrs yw’r Panel Rheoli. Gallwch chi ddod o hyd i’r Ganolfan Raddau a’ch cadwrfa ffeiliau, a dewis pa adnoddau gwrs fydd ar gael i’ch myfyrwyr. Nid yw myfyrwyr yn gweld y Panel Rheoli.

Mae’ch cynnwys yn ymddangos yn y brif ffenestr ar y dde i ddewislen y cwrs. Rydych chi’n defnyddio’r nodweddion uwchben y brif ffenestr i ychwanegu cynnwys, fel Adeiladu Cynnwys ac Asesiadau. Trwy gydol y cwrs, bydd gan y rhan fwyaf o eitemau ac adnoddau ddewislenni.

Rhagor o wybodaeth am y Wedd Cwrs Gwreiddiol

Gwedd Cwrs Ultra

Yng ngwedd cwrs Ultra, mae gennych lifau gwaith symlach, dyluniad cyfoes a rhyngwyneb sy’n ymaddasu i bob dyfais.

Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, cliciwch ar y symbol plws pryd bynnag y byddwch am greu cynnwys. Mewn cwrs newydd a gwag, defnyddiwch y swyddogaethau i ychwanegu cynnwys, fel Creu ac Uwchlwytho. Dewiswch yr eiconau ar y bar llywio i agor adnoddau a ddefnyddir yn aml, fel trafodaethau.

Mae holl gynnwys eich cyrsiau'n ymddangos ym mhrif ran y dudalen. Bydd modd ichi weld yr ardal lywio ar y chwith bob amser y tu ôl i’r haenau.

Mae gan y rhan fwyaf o eitemau, fel ffolderi ac aseiniadau, ddewislen ag opsiynau. Pan fyddwch yn agor darn o gynnwys, mae'n llithro allan mewn haen ar ben tudalen Cynnwys y Cwrs. Caewch yr haenau i ddychwelyd i le roeddech yn flaenorol yn eich cwrs.

Os ydych chi wedi galluogi sgyrsiau ar gynnwys, bydd eiconau gweithgaredd yn ymddangos ar gyfer gweithgareddau sgyrsiau newydd. Bydd yr eicon gweithgaredd hefyd yn ymddangos ar drafodaethau, ac ar brofion ac aseiniadau lle rydych chi wedi galluogi sgyrsiau grŵp.

Rhagor am y Wedd Cwrs Ultra

Rhagor am rhannau sylfaenol o gyrsiau Blackboard


Camau sylfaenol

Ar ôl ichi gwblhau’r pedwar cam sylfaenol cyntaf, bydd eich cwrs yn barod ar gyfer y myfyrwyr! Mae gwerthuso yn gam a ddylai ddigwydd trwy’r amser.

  1. Llunio cynllun
  2. Creu cynnwys
  3. Rhagolwg ac adborth
  4. Cyhoeddi’r cynnwys i fyfyrwyr
  5. Gwerthuso’ch cwrs

1. Llunio cynllun

Mae cynllunio yn un o’r agweddau pwysicaf ar greu cwrs. Cymerwch yr amser i ddatblygu braslun neu crëwch amlinelliad o’r eitemau a’r gweithgareddau rydych chi am eu cynnwys yn eich cwrs. Gwnewch restr o unrhyw ddeunyddiau sy’n barod i fynd ar y we, neu ddeunyddiau y gellir eu haddasu i fynd ar y we yn hawdd. Fwy na thebyg, bydd rhaid ichi greu deunyddiau newydd i’w defnyddio yn eich cwrs ar lein.

Weithiau, dydy hi ddim yn bosibl cael eich holl gynnwys yn barod erbyn diwrnod cyntaf eich dosbarth. Gallwch chi baratoi cynnwys ar gyfer wythnosau cyntaf eich dosbarth, a rhoi’r cynnwys hwn yn unig i’ch myfyrwyr. Cuddiwch y cynnwys rydych chi am weithio ymhellach arno. Gallwch chi ddatblygu’r darnau nesaf o gynnwys wrth i fyfyrwyr weithio ar y deunydd rydych chi eisoes wedi’i roi iddyn nhw.


2. Creu cynnwys

Rydyn ni wedi llunio rhestr o rai o’r deunyddiau hanfodol y byddwch o bosibl am eu hychwanegu at eich cwrs cyntaf. Defnyddiwch y dolenni i bynciau eraill i archwilio’r mathau o gynnwys a dod o hyd i’r cyfarwyddiadau cam wrth gam.

  1. Rhowch groeso i’ch myfyrwyr: Gadewch i’ch myfyrwyr wybod eich bod yn falch eu bod yma. Mae tôn groesawgar, braidd yn anffurfiol ond hefyd yn broffesiynol, yn gyfystyr â gwên a chyfarchiad i fyfyriwr sy’n cerdded trwy’r drws mewn ystafell ddosbarth draddodiadol. Bydd eisiau ichi gynnwys cyfarwyddiadau penodol ynghylch sut i ddechrau’r cwrs. Er enghraifft, os oes rhaid iddyn nhw fwrw golwg dros y maes llafur yn gyntaf, esboniwch wrthyn nhw sut i ddod o hyd iddo. Gallwch chi greu darn sylfaenol o gynnwys neu anfon neges gyda chyfarwyddiadau.
  2. Gwybodaeth cwrs: Mewn un maes neu ffolder, rhowch ddeunyddiau y bydd y myfyrwyr yn gallu eu defnyddio trwy gydol y tymor.
    • Maes llafur, gynnwys nodau, amcanion, gwybodaeth am werslyfrau a’ch manylion cyswllt.
    • Canllawiau marcio, polisïau dychwelyd gwaith yn hwyr, a lle i ddod o hyd i farciau yn eich cwrs
    • Amserlen pwnc neu wers a neges atgoffa bod dyddiadau cyflwyno i’w gweld yng nghalendr y cwrs.
    • Cymorth technegol a pholisïau sefydliadol
  3. Darlithoedd, darlleniadau, ffeiliau a deunydd amlgyfrwng: Cynhwyswch yr holl ddeunyddiau y bydd eu hangen ar y myfyrwyr iddyn nhw allu datblygu dealltwriaeth sylfaenol o’r pwnc neu’r wers. Er mwyn sicrhau bod gan eich myfyrwyr amgylchedd cyfarwydd sy’n hawdd llywio o’i gwmpas, crëwch strwythur cyson ar gyfer pob pwnc neu wers. Efallai y byddwch am greu ffolder ar gyfer pob segment. Gallwch chi gynnwys cynnwys tebyg, fel amcanion, darlleniadau, cyfarwyddiadau, adnoddau gwe, deunyddiau amlgyfrwng a’ch darlithoedd. Bydd eisiau ichi greu darnau o gynnwys y gellir eu rheoli’n hawdd, ynghyd ag ychwanegu elfennau gweledol a chlywedol.
  4. Aseiniadau a phrofion: Dechreuwch ag aseiniadau syml sy’n meithrin hyder ac yn paratoi’r myfyrwyr am waith mwy heriol yn yr wythnosau i ddod. Gallwch chi roi cwis i’r myfyrwyr na chaiff ei farcio hefyd, fel bod modd iddyn nhw ymgyfarwyddo â’r rhyngwyneb. Rydych chi’n creu’ch aseiniadau a’ch profion ochr yn ochr â’r cynnwys y bydd ei angen ar y myfyrwyr i baratoi, neu gallwch chi eu trefnu mewn ffolderi.
  5. Cymryd rhan a rhyngweithio: Er mwyn adeiladu cymuned ar lein lwyddiannus, mae angen ar y myfyrwyr yr adnoddau i ryngweithio a sgwrsio, fel mewn trafodaethau a blogiau. Trwy sgwrs, rydym yn dysgu am ein gilydd, ein hunain, y pwnc, sut i fynd yn ein blaen, a gwneud penderfyniadau grŵp.

3. Rhagolwg ac adborth

Byddwch eisiau bod yn hyderus bod eich cwrs wedi ei ddylunio’n dda a’i fod yn gweithio fel y dylai, cyn i’ch myfyrwyr ei weld. Os yw’n bosibl, bwriwch olwg dros eich cwrs ar gyfrifiaduron gwahanol gyda phorwyr a systemau gweithredu gwahanol. Bydd eisiau ichi sicrhau bod deunyddiau amlgyfrwng yn ymddangos fel y dylent hefyd. Mae’n syniad da gwirio’ch cwrs ar ddyfeisiau llai hefyd i sicrhau ei fod yn ymddangos fel y dylai.

Gallwch chi wahodd myfyriwr neu gydweithiwr i weld rhagolwg o’ch cwrs. Trwy ddarganfod problemau yn gynnar, fe gewch chi lai o negeseuon gan fyfyrwyr sy’n dweud eu bod yn ei chael yn anodd dod o hyd i’r deunyddiau.

  • Oedd yn hawdd llywio o gwmpas y cwrs? Ydy’r cynnwys wedi ei drefnu a’i becynnu mewn modd rhesymegol?
  • Allan nhw ddod o hyd i aseiniadau a phrofion?
  • Ydynt yn gwybod sut i gyfathrebu â chi a’u cyd-ddisgyblion?
  • Oedd modd iddynt lawrlwytho dogfennau, agor cyfryngau a dod o hyd i’r maes llafur a graddau?

4. Cyhoeddi cynnwys

Wrth ichi greu cynnwys, mae’n debygol y byddwch yn parhau i olygu a dileu deunyddiau a’u symud o gwmpas. Arbrofwch! Rhowch gynnig ar ddulliau gwahanol o arddangos cynnwys. Gallwch chi guddio eitemau os nad ydych chi am i’r myfyrwyr eu gweld. Gallwch chi symud cynnwys i ffolder a chuddio’r ffolder honno rhag y myfyrwyr.

Pan fyddwch yn barod, dangoswch y cynnwys rydych chi am i’r myfyrwyr ei weld nawr a chuddio’r gweddill.

Mae symud y cynnwys diweddaraf i frig y rhestr o gynnwys hefyd yn ymarfer da. Trwy wneud hynny, does dim rhaid i’r myfyrwyr chwilio am y cynnwys sydd ei angen arnynt na cholli’r cynnwys diweddaraf.

Mwy o wybodaeth am gyhoeddi cynnwys


5. Gwerthuso’ch cwrs

Wrth ichi adeiladu’ch cwrs, does dim amheuaeth y byddwch yn neidio yn ôl ac ymlaen rhwng datblygu a gwerthuso. Dylai gwerthuso fod yn elfen barhaus o’r broses, nid cam olaf y gwaith o ddatblygu’ch cwrs. Yn wir, fe’ch anogir yn gryf i fynd yn ôl i fwrw golwg drosto.

Mae sawl ffordd o werthuso.

  • Daliwch ati i fireinio ar eich cwrs ac ychwanegu ato wrth ichi ei addysgu, a darganfyddwch beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd ddim.
  • Gofynnwch i’r myfyrwyr roi eu barn am y cwrs ar ddiwedd y tymor.
  • Gofynnwch i hyfforddwyr ar lein eraill beth sy’n gweithio’n dda iddyn nhw.
  • Bwriwch olwg dros gyrsiau ar lein eraill Peidiwch â bod ofn dwyn oddi wrth y gorau!
  • Ewch i Exemplary Course Program Blackboard sy’n arddangos cyrsiau pedagogaidd gadarn a thechnolegol gyfoethog.