Rydym wedi creu rhestr o dermau ar gyfer hyfforddwyr sy’n newydd i Blackboard Learn.

Asesiadau: Mae “Aseiniadau” yn cynnwys aseiniadau a phrofion.

Content Market: Gallwch ddarganfod ac ychwanegu cynnwys ac offer o ffynonellau allanol. Cael deunyddiau dysgu gwerthfawr gan bartneriaid cyhoeddi Blackboard, fel Macmillan a Jones & Bartlett.

Sgwrs: Os ydych chi wedi galluogi sgyrsiau dosbarth wrth greu cynnwys, bydd modd i’r myfyrwyr drafod y cynnwys â chi a’u cyd-ddisgyblion. Gallant ofyn am gymorth, rhannu ffynonellau, neu ateb cwestiynau y mae eraill wedi eu gofyn. Wrth i’r sgwrs ddatblygu, bydd ond i’w gweld gyda’r cynnwys perthnasol. Nid yw sgyrsiau'n ymddangos ar y dudalen trafodaethau.

Gallwch alluogi sgyrsiau ar gyfer yr eitemau hyn o gynnwys:

  • Dogfennau
  • Aseiniadau
  • Aseiniadau grŵp
  • Profion
  • Profion grŵp
  • Cyflwyniadau all-lein
  • Dolenni at offer dysgu

Rhagor am sgyrsiau

Argaeledd Cwrs:

  • Agor: Gallwch agor cwrs pan fyddwch yn barod i’r myfyrwyr gyfrannu.
  • Preifat: Gallwch wneud cwrs yn breifat tra rydych yn ychwanegu neu’n arbrofi gyda chynnwys, ac yna ei agor i fyfyrwyr pan fyddwch yn barod. Mae myfyrwyr yn gweld cyrsiau preifat ar eu rhestrau cwrs ond ni allant eu cyrchu. Mae cyrsiau preifat yn ymddangos gyda delwedd hyfforddwr llwyd a chroeslinell.

    Ni allwch wneud cwrs yn breifat yn ystod tymor gweithredol. Cysylltwch â’ch gweinyddwr am wybodaeth ynghylch gosodiadau cwrs.

  • Cwblhau: Gallwch ddewis pennu'ch cwrs fel Cyflawn pan fydd y cwrs wedi dod i ben, ond ni allwch wneud newidiadau iddo mwyach. Gall myfyrwyr gyrchu’r cynnwys, ond ni allant gymryd rhan yn y cwrs mwyach. Er enghraifft, ni allant ymateb i drafodaethau neu gyflwyno aseiniadau. Gallwch ddychwelyd y cwrs i statws Agored neu Breifat fel y dymunwch. Fodd bynnag, os oes gan gwrs ddyddiad terfyn, a bod y dyddiad hwnnw wedi pasio, yna ni all myfyrwyr gyrchu’r cwrs mwyach. Felly, os ydych yn cwblhau cwrs ac yn ei agor eto ar ôl y dyddiad gorffen, ni all myfyrwyr ei gyrchu. Mae Wedi Cwblhau yn berthnasol i’r Wedd Cwrs Ultra yn unig.
  • Cuddio: Gallwch guddio cwrs ar eich rhestr o gyrsiau er mwyn trefnu beth allwch ei weld.

Dogfen: Math sylfaenol o gynnwys sy’n eich galluogi i gyfuno amrywiaeth o ddeunyddiau at ei gilydd, fel testun, deunyddiau amlgyfrwng ac atodiadau.

Tudalennau hollgynhwysol: Yn y panel ar y chwith, mae gennych fynediad at y nodweddion craidd yn y rhestr lle mae’ch enw’n ymddangos. Wrth ddewis unrhyw ddolen o’r rhestr, bydd modd ichi weld pob un o’ch cyrsiau. Cyrcwch y llif gweithgarwch sy’n cofnodi popeth sy’n digwydd yn eich cyrsiau, ac y tudalennau graddau sy’n dangos eich tasgau graddio fesul cwrs.

Llyfr Graddau: Gweld yr holl waith cwrs sy’n berthnasol i’r cwrs rydych chi ynddo. Mae'r llyfr graddau'n cael ei lenwi gyda myfyrwyr pan fyddant yn cofrestru ar eich cwrs. Gallwch farcio gwaith cwrs, rheoli eitemau a phostio graddau.

Haen: Mae holl gynnwys eich cyrsiau'n ymddangos ym mhrif ran y dudalen. Pan fyddwch yn agor darn o gynnwys, mae'n llithro allan mewn haen ar ben tudalen Cynnwys y Cwrs. Caewch yr haenau i ddychwelyd i le roeddech yn flaenorol yn eich cwrs.

Panel: Pan fyddwch yn creu neu’n gwneud gosodiadau, bydd panel yn agor. Yn y panel, gallwch ddewis y math o gynnwys rydych am ei ychwanegu neu ddewis gosodiadau.

Graddio cyfochrog: Gallwch drefnu bod defnyddwyr penodol yn eich cwrs yn graddio setiau o gyflwyniadau asesiadau. Ni all graddwyr weld graddau, adborth, anodiadau ar ffeiliau myfyrwyr, a chyfeirebau graddwyr eraill. Maent yn graddio’n gyfochrog ac yn darparu graddau dros dro. Mae'r rolau graddio diofyn yn cynnwys hyfforddwyr, graddwyr a chynorthwywyr dysgu. Y rôl hyfforddwr yw'r graddiwr terfynol neu gysonwr diofyn. Mae'r cysonwr yn adolygu’r graddau dros dro ac yn pennu’r graddau terfynol mae myfyrwyr yn eu gweld.

Dadansoddiad cwestiynau: Mae dadansoddiad cwestiynau'n darparu ystadegau am berfformiad cyffredinol, ansawdd asesiad a chwestiynau unigol. Mae'r data hyn yn eich helpu i adnabod cwestiynau a allai fod yn wahaniaethwyr gwael o berfformiad myfyrwyr. Mae dadansoddiad cwestiynau ar gyfer asesiadau gyda chwestiynau. 

Banciau Cwestiynau: Gallwch fewngludo banciau cwestiynau i'w defnyddio yn asesiadau yn eich cyrsiau. Mae hyfforddwyr fel arfer yn defnyddio banciau i greu cronfa ddata o gwestiynau y gallant eu hailddefnyddio mewn amryw asesiadau. Mae cronfeydd cwestiynau'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn ymddangos fel banciau cwestiynau Ultra ar ôl eu trosi.

Cronfa gwestiynau: Pan fyddwch yn creu prawf, gallwch ddefnyddio cronfeydd cwestiynau er mwyn sicrhau bod pob myfyriwr yn derbyn fersiwn gwahanol o'r prawf