Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.

Mae "Ultra" yn disgrifio trawsnewidiad rhyngwyneb defnyddiwr a llif gwaith Blackboard Learn.

Cymerwch olwg arno! Mae rhyngweithiad greddfol, llyfn yn ein dyluniad modern yn hawdd ac yn hwylus i'w defnyddio.

Defnyddiwch unrhyw ddyfais! Gyda'n dyluniad ymatebol, mae'r rhyngwyneb yn addasu i ffitio unrhyw gyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar.

Peidiwch â cholli unrhyw beth yn eich cyrsiau. O'r ffrwd gweithgarwch, fe welwch restr o bopeth sydd wedi digwydd ym mhob un o'ch cyrsiau. Dewiswch eitem i weld mwy!


Oes Ultra gennyf i?

Mae gennych brofiad Ultra os yw'ch enw yn ymddangos yn y panel ar y chwith yn eich ffenestr ar ôl i chi fewngofnodi. Gallwch lywio i nodweddion craidd y tu allan i'ch cyrsiau o'r rhestr.

Pan fyddwch yn dewis unrhyw ddolen o'r rhestr, gwelwch wedd gyffredinol ar draws pob un o'ch cyrsiau. Ewch i’r calendr cyffredinol sy’n cofnodi dyddiadau cyflwyno ymhob un o’ch cyrsiau ac i’r dudalen raddau sy’n dangos pob un o’ch tasgau graddio fesul cwrs. Nid oes angen llywio i bob cwrs i weld beth sydd yn barod ar gyfer graddio.

Gallwch weld y rhestr hon wrth i chi symud o dudalen i dudalen - hyd yn oed pan rydych mewn cwrs. Wrth i chi agor tudalennau, maent yn agor fel haenau. Caewch yr haenau i ddychwelyd i dudalen flaenorol neu'r rhestr.

Bydd y profiad Ultra yn edrych yn debyg ym mhob sefydliad. Efallai byddwch yn gweld brandio sefydliadol, megis lliwiau a logos.

Mae fy un i'n edrych yn wahanol

Os nad ydych yn gweld y newidiadau, mae gennych Blackboard Learn gyda'r profiad Gwreiddiol. Rydych yn dod o hyd i wybodaeth am eich cyrsiau a’ch sefydliad gan ddilyn y dolenni yn y tabiau a modiwlau.